Skip to main content
  1. Hafan
  2. Chwaraeon Perfformiad
  3. Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad | Birmingham 2022

Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad | Birmingham 2022

Dim ond hwb, cam a naid i ffwrdd o’r ffin â Chymru, bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal am y 22ain tro yn Birmingham 2022. Ni allent fod yn llawer agosach at fod yn gemau cartref heb fod yn ein gwlad ni.

Pryd mae Gemau'r Gymanwlad yn dechrau?

Dydd Iau 28ain Gorffennaf – Dydd Llun 8fed Awst

Mae Gemau'r Gymanwlad yn dechrau gyda'r seremoni agoriadol ar ddydd Iau 28ain Gorffennaf cyn gorffen ddydd Llun 8fed Awst pan fydd y seremoni gloi yn cael ei chynnal.

Mae’r cyfle i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol yn brin ond bob pedair blynedd, mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle unigryw i athletwyr elitaidd wisgo coch Cymru.

Cyfanswm Medalau – 306 - 67 aur, 98 arian a 141 efydd 
Athletwr mwyaf addurnedig y Gymanwlad – David Morgan (Codi Pwysau) 
Y cyfanswm uchaf o fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad – Arfordir Aur 2018 (10 medal Aur, 12 medal Arian, 14 medal Efydd)

Y daith i Birmingham 2022

Nid yw pobl yn cael eu geni'n athletwyr y Gymanwlad; maen nhw'n cael eu creu gan y cymunedau a'r clybiau y maen nhw'n eu cyfarfod ar hyd y ffordd.

Mae pob athletwr wedi bod ar ei daith ei hun i gyrraedd Birmingham 2022 - p'un ai a ydynt wedi dechrau eu chwaraeon yn hwyr, yn dod o ardal wledig, neu'n jyglo swyddi a theulu gyda hyfforddiant.

Dyma eu hanesion.

Bywydau Hoci Cymru

Oeddech chi'n gwybod pa mor brysur yw bywyd chwaraewr hoci gorau? 

Wnaethon ni ddal i fyny gyda thimau Hoci Cymru i ddarganfod sut maen nhw'n ymateb i'r her.

Dynion yn chwarae hoci i Gymru

Lily Rice - Athletwraig Aml-Chwaraeon

O motocrós cadair olwyn i bwll nofio Gemau’r Gymanwlad, mae Lily Rice wedi elwa ar y ddwy gamp ar ei ffordd i Birmingham 2022.

Seremoni Agoriadol yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow

Gregg Varey - Jiwdo

Gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr, mae Gregg Varey yn cystadlu yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf yn 34 oed. Hyfforddwr, tad a gwr - mae'r judoka yn jyglo ei hyfforddiant gyda'i waith a'i fywyd teuluol.

Seremoni Agoriadol yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow
David Morgan gyda'i fedalau

Ydi Cymru wedi cynnal Gemau Cymanwlad?

Do, Caerdydd gynhaliodd y Gemau Cymanwlad pan gawsant eu cynnal am y 6ed tro yn 1958.

Sawl gwaith mae Cymru wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad? 

Pob un o’r 21. Mae Cymru yn un o ddim ond chwech o wledydd sydd wedi cystadlu ym mhob un o’r Gemau Cymanwlad ers iddynt ddechrau yn 1930.

Pwy yw athletwr mwyaf llwyddiannus Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad?

Y codwr pwysau David Morgan yw’r athletwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o fedalau i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad, gyda chyfanswm o 12 o fedalau, gan gynnwys 9 aur a 3 arian.   

Nid yn unig hyn, ond ef hefyd yw'r unig gystadleuydd i ennill medal mewn chwech o gemau gwahanol, o 1982 i 2002. Enillodd ei fedal gyntaf yn ddim ond 17 oed yn Brisbane 1982 pan ddaeth yn bencampwr codi pwysau ieuengaf erioed Gemau'r Gymanwlad.

Oeddech chi’n gwybod? 

Non Evans oedd y fenyw gyntaf i gystadlu mewn tair camp wahanol yng Ngemau’r Gymanwlad. Yn gyntaf, enillodd arian mewn Jiwdo yng ngemau 1992 a 1996. Wedyn, yn 2002, bu'n cystadlu mewn codi pwysau, yn ogystal â jiwdo, gan ei gwneud y fenyw gyntaf i gystadlu mewn dwy gamp wahanol yn yr un gemau. Ei thrydedd camp yng Ngemau'r Gymanwlad oedd reslo dull rhydd yn Delhi 2010.

Nid yn unig hyn, ond mae Non hefyd wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru mewn rygbi'r undeb rhyngwladol.

Newyddion - Birmingham 2022

Sbotolau Partner: Y Loteri Genedlaethol

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi dod yn bartner allweddol i Chwaraeon Cymru – o gyllido clybiau ar lawr…

Darllen Mwy

Cyllid yn gwneud ei farc ar lwybr y Baton

Bydd ymweliadau â chlybiau chwaraeon sydd wedi elwa o gyllid Chwaraeon Cymru ar hyd llwybr Taith Gyfnewid…

Darllen Mwy

Sbotolau Partner: Street Games

Mae Street Games wedi trefnu i bron i 500 o bobl ifanc o Gymru fod yn Gemau'r Gymanwlad.

Darllen Mwy