Skip to main content

Deng mlynedd a thandem: Beic wedi'i greu i Nia Holt

Roedd Nia Holt yn meddwl ei bod wedi gadael ei dyddiau rasio ar feic y tu cefn iddi.

Ond ar ôl seibiant o 10 mlynedd, a oedd yn cynnwys magu teulu, mae hi ar fin cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad flwyddyn yn unig ar ôl mynd yn ôl ar gefn y beic.       

I Nia, mae hynny'n golygu jyglo ei hamser rhwng hyfforddi a threulio amser gyda'i theulu ifanc.

Ond ar ôl bod i ffwrdd cyhyd o'r gweithgaredd roedd hi mor hoff ohono, mae'r ferch 28 oed wrth ei bodd ei bod wedi dod o hyd i le yn ei bywyd eto i chwaraeon.

Dechreuodd Holt, a aned yn Sir Gaerfyrddin, feicio o oedran cynnar, cyn ymuno â Chlwb Beicwyr Tywi yng Nghaerfyrddin pan oedd yn 13 oed.

Yn y felodrom enwog ym Mharc Caerfyrddin y syrthiodd Holt mewn cariad â'r gamp.

Yn 17 oed, dechreuodd ei golwg ddirywio. Yn ffodus, daeth o hyd i raglen anabledd yng Nghasnewydd.

Yn nes ymlaen, rhoddodd y beic i gadw a dechrau teulu gyda'i phartner, Adam Holt.

Mae’r teulu hwnnw wedi gwirioni ar feicio, felly nid oedd yn syndod i lawer iddi ddychwelyd i rasio. Ond sioc i ambell un, efallai, ei bod hi wedi sicrhau lle mor gyflym yng ngharfan Tîm Cymru ar gyfer y para-feicio yn Birmingham.

Bydd Holt yn cystadlu yn y gystadleuaeth Tandem B gyda’r peilot Amy Cole.

“Roeddwn i wedi gadael y beic i ryw raddau,” meddai.

“Fe wnes i feichiogi ac mae’n debyg ei fod yn un o’r pethau hynny lle wnes i ddweud wrtha’ i fy hun, mae’n debyg nad ydw i’n mynd i fynd yn ôl ar y beic nawr.

“Ond eto, dyma fi heddiw. Fe wnaethon ni fagu ein plant, a rhoi cynnig ar y bennod honno. Roeddwn i wedi colli mwy o olwg bryd hynny, ac roeddwn i'n meddwl beth oeddwn i'n mynd i'w wneud i mi fy hun.

“Roedd yn anodd i ddechrau oherwydd doeddwn i ddim yn ffit. Ond fe neidiais i yn ôl ar y beic, ac fe ddaeth y cyfan yn ôl i mi.

“Roeddwn i wir yn mwynhau bod yn ôl ar y beic a chael hwyl. Wedyn, yn sydyn, fe sylweddolais i bod gen i gyfle i fynd i Gemau’r Gymanwlad, felly fe wnes i feddwl, ‘beth am fynd amdani!’”

“Mae wedi bod yn anodd jyglo bywyd teuluol gyda hyfforddiant. Mae fy ngŵr i, Adam, wedi cael swydd yn ddiweddar gyda Beicio Cymru hefyd fel newyddiadurwr, felly mae e’n brysur iawn hefyd.”

Holt fyddai’r person cyntaf i ddweud wrthych chi nad oedd hi’n disgwyl cystadlu mewn twrnamaint mawr fel Gemau’r Gymanwlad flwyddyn neu ddwy yn ôl.

A hithau ond wedi ailddechrau beicio flwyddyn yn ôl, mae hi wedi cyflawni llawer iawn.

Er ei bod hi wedi herio rhai disgwyliadau o ran cyrraedd y sefyllfa yma, mae hi'n canolbwyntio ar fod yn yr achlysur a mwynhau ei hun.

Fe wnes i feichiogi ac mae’n debyg ei fod yn un o’r pethau hynny lle wnes i ddweud wrtha’ i fy hun, mae’n debyg nad ydw i’n mynd i fynd yn ôl ar y beic nawr. Ond eto, dyma fi heddiw
Nia Holt

“Roedd yn chwerwfelys oherwydd roedd yn rhywbeth nad oeddwn i’n meddwl y gallwn i barhau i’w wneud.

“Wrth gwrs, roedd rhoi cynnig ar dandem yn eithaf cŵl oherwydd roedd yn rhywbeth roeddwn i’n ei hoffi, a doeddwn i ddim yn gallu credu y gallwn i ei wneud fel gyrfa.

“Mae’n rhaid i’r berthynas gyda pheilot fod yn un dda iawn. Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n gweithio'n rhy dda fel arall. Amy yw fy nghyd-beilot i, ac mae hi'n wych. Rydyn ni'n dod ymlaen mor dda, felly mae hynny wedi bod yn wych."

Fe allech chi ddweud bod gan y teulu gysylltiad eithaf cryf â beicio. Brawd-yng-nghyfraith Holt yw Joe Holt, sydd hefyd yn cystadlu dros Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn y gweithgaredd tîm, y pwyntiau a’r ras safonol.

Yr hyn sydd wedi bod yn allweddol iddi ddychwelyd yw’r pleser pur mae Nia yn ei gael o rannu gweithgaredd chwaraeon gyda’i theulu.

“Mae mwy o reswm nawr i fod yn ei fwynhau. Rydw i’n beicio ar gyfer fy mhlant hefyd - iddyn nhw weld nad yw nam ar y golwg yn ddiwedd y byd.

“Rydw i’n bendant yn ei fwynhau’n fwy y tro yma. Mae yna grŵp grêt o bobl. Mae wedi bod yn wych.

“Y llynedd, fe gafodd fy merch i ddiagnosis o’r un cyflwr â mi.

“Mae ei golwg hi’n berffaith ar hyn o bryd, ond gallai fod â nam ar ei golwg. Mae hi'n gwybod cymaint ag y gall hi, ond mae'n bwysig i mi ddangos iddi y gall hi wneud unrhyw beth y mae eisiau ei wneud os yw'n rhoi ei meddwl arno.

“Wedi dweud hynny, mae hi’n bendant yn fwy cyffrous am fynd i aros mewn gwesty na fy ngwylio i, ond bydd hi yno yn fy nghefnogi!

“Mae’n anhygoel cael y teulu yno. Bydd yn foment mor arbennig.

“Mae Joe Holt yn frawd-yng-nghyfraith i mi, felly dim ond ‘beicio, beicio, beicio’ ydi’r sgwrs yn y barbeciws teuluol. Mae'n cŵl iawn. Mae wedi bod yn wych ac wedi ein helpu ni llawer ac mae'n hedfan ar hyn o bryd, yn gwneud mor dda.

“Fe yn bendant yw’r ewythr hwyliog; mae’r plant wrth eu bodd yn mynd ar reidiau ymarfer gydag e.”

O ran ei siawns hi ei hun o lwyddo, mae’n dweud: “Rydw i’n cadw fy nisgwyliadau’n agored.

“Mae’r safon mor uchel, gawn ni weld. Rydw i eisiau mwynhau fy hun a'r achlysur. Mae'n foment mor arbennig.

“Yr adeg yma y llynedd doeddwn i ddim hyd yn oed yn ôl ar y beic, felly mae bod lle rydw i nawr yn anhygoel.

“Mae bod ymhlith yr holl athletwyr anhygoel yma yn cystadlu yn swreal. Mae'n anodd ei roi mewn geiriau.

“Mae'n wallgof - gwireddu breuddwyd. Mae’n rhywbeth rydych chi’n breuddwydio amdano - cynrychioli Cymru. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gwneud hyn 10 mlynedd yn ôl, ond mae popeth yn digwydd am reswm.

“Rydw i’n cofio fel plentyn, gwylio Gemau’r Gymanwlad. Mae'n beth enfawr, ac mae'n gyffrous i'w wylio. Gobeithio y gallwn ni helpu’r genhedlaeth nesaf i anelu at ble rydyn ni nawr.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy