Skip to main content

Natalie Powell - Ennill brwydrau ar ac oddi ar y mat

Mae Natalie Powell wedi arfer taflu gwrthwynebwyr i'r llawr, ond mae'r seren jiwdo o Gymru yn cyfaddef mai brwydr bersonol dros ei hunaniaeth ei hun a'i lloriodd go iawn.

Bydd pencampwr y Gymanwlad yn 2014 yn cael cyfle o'r diwedd i amddiffyn ei theitl yn Birmingham y mis hwn, ond nid oedd ei habsenoldeb o'r gamp yng Ngemau'r Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl yn ddim o'i gymharu â'r rhwystredigaeth a oedd yn ei hwynebu yn ei bywyd personol.

A hithau'n un o athletwyr mwyaf llwyddiannus a phrofiadol Tîm Cymru, cyhoeddodd Powell ei bod yn hoyw yn 2017 ar ôl yr hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel "chwe blynedd o boen".

Roedd Powell yn rhif 1 yn y byd yn 2017 - y judoka cyntaf yn y DU i gyrraedd y pinacl hwnnw ar ôl i restr raddio swyddogol gael ei chyflwyno.

Ond roedd y straen o gystadlu heb fod yn onest â hi ei hun a'r rhai o'i chwmpas yn annioddefol.

"Flwyddyn ar ôl Gemau Olympaidd Rio yn 2017, daeth y cyfan yn ormod i mi," meddai Natalie, a oedd yn byw yn Birmingham ar y pryd yng Nghanolfan Ragoriaeth Judo Prydain.

"Es i i Bencampwriaethau’r Byd, cael medal efydd, sef fy mherfformiad gorau, ac yn fuan ar ôl hynny cyrhaeddais rif un yn y byd. 

"Ro'n i hefyd yn gwthio fy hun ac yn dweud, 'os ydw i'n llwyddo gyda jiwdo, mi fydda i’n iawn.’ 

"Ro'n i'n byw gydag un o'r merched ar y tîm yn Walsall bryd hynny a ro'n i'n crio yn afreolus. Dywedais wrthi ac ar ôl i mi wneud hynny dechreuodd pethau wella.  

"O fewn chwech mis ro'n i'n berson newydd. Roedd y pwysau wedi cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau.

"Ro'n i'n gyfforddus ynof fi fy hun ac yn methu credu'r hyn y gwnes i roi fy hun drwyddo. Ond rwy'n credu mai’r rheswm am hyn yw’r diwylliant a'r hyn y mae pobl yn ei weld fel normau cymdeithasol pan fyddwch chi'n tyfu.”

Dywed Natalie ei bod bob amser wedi teimlo'n hyderus y byddai ei theulu a'i ffrindiau yn cefnogi ei phenderfyniad i ddod allan.

Ond hyd yn oed gyda'r sicrwydd hwnnw yn ei meddwl, roedd cymryd y cam hwnnw'n dal i godi ofn mawr arni.

 Natalie Powell gydag offer ymarfer corff yn ei lolfa
Natalie Powell ar ôl ymarfer gartref yn ystod y cyfnod cloi
Yn bendant, hwn oedd y peth anoddaf yn fy mywyd i mi orfod delio ag ef. Am chwe blynedd do'n i ddim yn gyfforddus gyda phwy o’n i.
Natalie Powell

"Yn bendant, hwn oedd y peth anoddaf yn fy mywyd i mi orfod delio ag ef. Am chwe blynedd do'n i ddim yn gyfforddus gyda phwy o’n i. 

"Yn y diwedd, pan symudais i Walsall ro'n i’n byw yn bell oddi wrth fy ffrindiau a'm teulu, fe wnes i dorri fy nghalon.

“Ar ôl Rio ro'n i'n gwybod, pe na bawn i'n dod i delerau â hyn ac yn delio ag ef, nad o'n yn mynd i allu symud ymlaen cyn Tokyo. 

"Ond ro'n i'n ei chael hi'n anodd iawn dweud wrth rywun fy mod i'n hoyw. Roedd hyn yn wallgof, mewn gwirionedd, oherwydd roedd gen i system gymorth mor dda o'm cwmpas. 

“Alla i ddim dychmygu pa mor anodd yw hi i bobl sydd heb rwydwaith o gefnogaeth dda neu mae bod yn hoyw yn groes i'w credoau. 

"Ro'n i'n gwybod y byddai fy rhieni, fy nheulu a'm ffrindiau i gyd yn gefnogol, ond do'n i dal ddim yn gallu cael yr hyder i ddweud. Pe bawn i'n gallu mynd yn ôl a chymryd y pump neu chwe blynedd hynny o boen yn ôl, byddwn i'n gwneud hynny.

"Roedd yn fater mor fawr yn fy mhen, cefais gymaint o nosweithiau digwsg yn meddwl am y peth.”

Daw Powell o bentref Beulah, ger Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys yn wreiddiol, a dechreuodd gymryd rhan mewn jiwdo pan oedd yn wyth oed.

Enillodd fedal arian yn y Gemau Ewropeaidd Agored yn 2014 ac yna enillodd y fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yr un flwyddyn yn 23 oed.

"Ro'n i wastad eisiau ennill yng Ngemau'r Gymanwlad, ers i mi fod yng Nghlwb Judo Irfon ac i Gary Cole ddod yn ôl o Fanceinion gyda medal efydd. 

“Roedd ennill yn Glasgow yn deimlad arbennig. Dim ond yng Ngemau'r Gymanwlad rydyn ni’n cael cystadlu dros Gymru i bob pwrpas. . . a Chymru wnaeth fy nghefnogi drwy gydol y daith hefyd.”

Roedd disgwyl i Powell gipio llawer o fedalau i Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 2016, ond daeth adref yn siomedig wedi gorffen yn y seithfed safle.

Mae'n cyfaddef i hynny roi ergyd i'w hyder, ond parhaodd y daith amrywiol gyda'i medal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2017, ac yna cyrraedd safle Rhif 1 yn y byd, cyn cael cyfnod siomedig yng Ngemau Olympaidd Tokyo, a gafodd eu gohirio.

"Do'n i ddim wedi dod yn agos at yr hyn yr oeddwn wedi gobeithio ei gyflawni," mae'n cyfaddef.

“Ro'n i'n teimlo fy mod mewn lle da yn 2020 - lle’r oedd angen i mi fod ar gyfer y Gemau Olympaidd. Ond yna cafodd y Gemau eu canslo a chafodd popeth ei droi wyneb i waered. 

"Fe wnes i daflu fy hun i'm rhaglen hyfforddi, ond wrth edrych yn ôl mae'n debyg fy mod wedi gorwneud pethau pan ddaeth hi’n adeg y Gemau.”

Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae Natalie'n teimlo'n fwy hyderus.

"Dwi wedi dod drwy’r ochr arall i hynny nawr. Rwy'n mwynhau jiwdo eto ac yn gobeithio dychwelyd i'm safon ar gyfer Gemau Gymanwlad a'r Byd ym mis Hydref. 

"Mae Gemau’r Gymanwlad wedi rhoi hwb i mi fynd yn ôl ar y trywydd iawn.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy