Skip to main content

Harrison Walsh - O drychineb anafiadau i gystadleuydd y Gymanwlad

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Harrison Walsh - O drychineb anafiadau i gystadleuydd y Gymanwlad

Mae Harrison Walsh yn mynd i Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham – esiampl i bawb o pan fydd un drws yn cau, mae un arall yn agor.

Roedd y llanc 26 oed o’r Mwmbwls ar ddechrau gyrfa rygbi addawol, yn chwarae i Glwb Rygbi’r Gweilch ac Abertawe, pan gafodd anaf cas ar y cae yn ddim ond 19 oed.

Digwyddodd yr ergyd wythnos yn unig cyn yr oedd i fod i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr Dan 20.

Nid yn unig y daeth yr anaf â'i yrfa rygbi i ben, ond hefyd fe'i gadawodd gyda symudiad rhannol yn unig a dim teimlad yn ei droed oherwydd niwed sylweddol i'w nerfau.

Wrth i’r cyn brop pen rhydd dreulio dwy flynedd yn ceisio ailadeiladu ei goes dde a'i yrfa rygbi, cyfarfu â'r hyfforddwr David Jones a awgrymodd bod Harrison yn rhoi cynnig ar bara-athletau.

Ac yntau bellach yn bara-athletwr rhyngwladol yn cystadlu yn y ddisgen a’r maen, mae Harrison yn llawn canmoliaeth i Jones a Chwaraeon Anabledd Cymru am ei helpu i addasu i’w ffordd newydd o fyw.

“Mae’n anodd meddwl am y geiriau i ddisgrifio pa mor dda yw Chwaraeon Anabledd Cymru,” meddai Harrison.

I ddechrau, mae'n cyfaddef iddo deimlo bod y trawsnewid yn anodd, ond buan iawn y gwelodd ei hun yn gwella.

“Roedd yn bwysig iawn i mi ddod o hyd i gamp arall gan fod chwaraeon yn rhan mor enfawr o fy mywyd i a bywyd fy nheulu,” meddai.

“Roeddwn i’n dyheu i fy angerdd i dros chwaraeon barhau ac roedd yn wych dod o hyd i hynny o fewn chwaraeon anabledd.

“Roeddwn i wir yn hoffi’r cymhelliant o wella a gwella ac roedd yn bwysig parhau â hynny mewn camp arall.”

Fe arhosodd proffesiynoldeb Harrison a’i ewyllys i ennill gydag ef o’i ddyddiau rygbi a gwnaeth argraff ar unwaith ar Anthony Hughes, rheolwr perfformiad cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru.

“Roedd gan Harrison awch am wybodaeth, roedd e mor frwd,” meddai Hughes, sydd wedi bod ag angerdd oes dros chwaraeon anabledd.

“Pan wnes i gwrdd ag ef gyntaf, roedd yn amlwg yn ddyn ifanc a oedd yn broffesiynol iawn. Fe allech chi ddweud ei fod wedi bod gydag academi rygbi o'r radd flaenaf.

“Ar ôl clywed am ei addewid gan hyfforddwyr yn Abertawe, fe wnes i ei wahodd i Gaerdydd er mwyn i mi gael golwg arno fy hun. Fe wnaeth yr hyn welais i argraff fawr arna i.

“Rydw i bob amser yn ei glywed yn dweud wrth yr athletwyr academi ifanc, pa bynnag amser y mae angen iddyn nhw gyrraedd, y dylen nhw sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd yno o leiaf 10 munud yn gynnar.

“Mae hynny'n crynhoi Harrison, i mi.”

Harrison Walsh yn taflu'r disgen
Pan ddechreuais i gyda thaflu maen a’r ddisgen am y tro cyntaf, roeddwn i'n wael iawn ond yn mwynhau'n fawr.
Harrison Walsh

Ond nid dim ond chwaraeon sy’n bwysig i Harrison. Pan nad yw'n cystadlu ar y trac a'r cae, mae'n ymroi i'w angerdd arall - celf.

Mae ei waith - darluniau inc - wedi bod yn rhan o arddangosfa yn Oriel Zari yn Llundain, o’r enw ‘The Art of the Athlete’.

Meddai: “Mae fy ngwaith i mewn pen ac inc ac rydw i’n tueddu i fraslunio pan fyddaf i ffwrdd mewn gwersylloedd hyfforddi. Mae’n swreal braidd bod yn rhan o arddangosfa ond mae’n anrhydedd mawr cael bod yn rhan ohoni.”

Dim ond ar ôl iddo ddioddef siom arall y dechreuodd ganolbwyntio o ddifrif ar ei waith celf – methu mynd i Gemau Paralympaidd Tokyo oherwydd anaf a ddioddefodd ychydig cyn y Gemau.

“Meddwlgarwch a bod yn bresennol yn y foment yw rhai o’r pethau mwyaf rydw i wedi’u dysgu o Tokyo.

“Fe wnes i sylweddoli nad oeddwn i wedi delio â rhai o’r pethau o fy anaf rygbi, gan fod yr holl atgofion yn llifo’n ôl gan ei bod yn sefyllfa debyg.

“Mae wir wedi fy ngorfodi i ddeall fy hun a deall pam rydw i'n gwneud y gamp a beth mae'n ei olygu i mi yn gyffredinol.

“Rydw i’n meddwl bod yr anawsterau yma wedi chwarae eu rhan yn fy ngwneud i’n berson gwell. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ymdrechu i fod y gorau.

“Mae’n bwysig bod pawb yn deall bod chwaraeon yn ymwneud â hwyl a mwynhad.

“Pan ddechreuais i gyda thaflu maen a’r ddisgen am y tro cyntaf, roeddwn i'n wael iawn ond yn mwynhau'n fawr.

“Yr hyn roeddwn i’n ei hoffi oedd y math o chwaraeon y gallech chi symud ynddyn nhw, ac roeddwn i’n benderfynol o wella a gwella.

“Fy nghyngor i unrhyw un fyddai dod o hyd i rywbeth maen nhw’n ei fwynhau ac wedyn dal ati a pharhau i wella.”

Pe bai Walsh wedi aros yn ffit yn ei arddegau ac wedi aros ym myd rygbi, fe allai bellach fod yn gyd-aelod o dîm Cymru gydag Adam Beard, a oedd yn aelod o garfan Dan 20 Cymru gydag ef saith mlynedd yn ôl.

Yn hytrach, mae’n rhan o garfan Tîm Cymru sydd ar fin mynd am yr aur yn y Gemau.

“Mae’r ddwy gamp yn wahanol iawn. Yn amlwg, fe allwn ni i gyd weld y gwahaniaethau rhwng rygbi a thaflu maen.

“Weithiau mae’n gallu mynd yn eithaf emosiynol, ond a dweud y gwir dydw i ddim yn cofio llawer o’r rygbi nawr oherwydd rydw i wedi treulio cymaint o amser heb fod yn y gêm.

“Rydw i wedi treulio rhai blynyddoedd yn methu chwarae rygbi. Felly, mewn gwirionedd, roeddwn i wedi colli cysylltiad â'r gamp.

“Fe ddechreuais i fwynhau gwylio rygbi eto yn ystod Cwpan y Byd 2019. Doeddwn i ddim yn gallu ei fwynhau o'r blaen. Roedd yn rhy amrwd. Doeddwn i ddim wedi cau’r drws.

“Ond rydw i’n meddwl cyn gynted ag y dechreuais i ganolbwyntio ar daflu a gweld rhywfaint o lwyddiant yn dod o hynny, roeddwn i’n gallu mwynhau gwylio fy ffrindiau yn chwarae rygbi.

“Mae hynny’n rhywbeth rydw i’n meddwl bod taflu wedi fy helpu i gydag e – mwynhau gwylio rygbi eto.”

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy