Skip to main content

Anna Morris: Y meddyg gydag apwyntiadau yn y Gemau

Roedd llwybr Anna Morris i Gemau’r Gymanwlad yn bell o fod yn draddodiadol.

A hithau’n feddyg iau yn ystod pandemig Covid-19, cafodd yr athletwr o Gaerdydd daith anarferol i ddod yn feiciwr o safon fyd-eang ar ôl cael magwraeth wedi’i thrwytho mewn chwaraeon. 

Cafodd Morris ei magu yng Nghaerdydd, a phan oedd yn ifanc roedd yn mwynhau pêl-rwyd, hoci, traws gwlad, gymnasteg, triathlon a thennis, ond yn rhyfedd ddigon, ni fentrodd ar y trac beicio nes ei bod yn y brifysgol. 

Neidiwch ymlaen ychydig o flynyddoedd, ac mae Morris eisoes wedi gorffen yn bedwerydd yn ras tîm ymlid y merched ac fe gynrychiolodd ei gwlad eto yng Ngemau’r Gymanwlad yn y treial amser ar 4 Awst.

Er bod Morris wedi bod yn frwd dros chwaraeon ers tro byd, ni ddechreuodd feicio o ddifrif tan iddi gyrraedd y brifysgol. Felly pam yn union benderfynodd hi fynd ar y beic? 

“Fe es i i Brifysgol Southampton ac roeddwn i eisiau dod o hyd i glwb triathlon. Yna, yn fy ail flwyddyn, fe wnes i ymuno â chlwb beicio’r brifysgol ochr yn ochr â’r clwb triathlon, gan fod beicio’n rhan bwysig o’r gamp ac roedd yn faes lle roedd angen i mi wella,” eglura Anna.

“Roeddwn i eisiau bod yn fwy hyderus, ac fe es i o nerth i nerth. Roedden nhw eisiau pobl ar gyfer tîm y trac ym mhencampwriaethau’r brifysgol, felly fe wnes i ddechrau cymryd rhan mewn sesiynau ar y trac. 

“Dechreuodd fynd yn anodd pan oeddwn i ar leoliad yn fy nhrydedd flwyddyn yn ceisio jyglo tri chwaraeon.

“Mae’n debyg mai rhedeg oedd y peth hawsaf i’w wneud o ran amser, ond cefais drafferth gydag anaf, felly roeddwn i’n reidio’r beic yn amlach ac roeddwn i’n dal i wella, sydd bob amser yn ffordd dda o fy ysgogi. 

“Rwy’n ffodus iawn ac yn ddiolchgar bod tîm beicio’r brifysgol wedi fy helpu gymaint.”

Pan raddiodd Morris, dechreuodd weithio fel meddyg iau yn ystod pandemig Covid-19, cyn cymryd seibiant haeddiannol i ganolbwyntio ar ei hangerdd arall.

“Roeddwn i’n gweithio yn 2020 a 2021, felly mae Gemau’r Gymanwlad yn nodi blwyddyn ers i mi gymryd blwyddyn allan i ganolbwyntio ar fy meicio,” meddai.

“Yn ffodus ddigon, mae wedi talu ar ei ganfed. Rydw i wedi cael llawer o brofiad, felly bydd yn rhaid i mi weld sut mae’n mynd.”

Aeth Morris i Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd ac mae nifer o gyn-fyfyrwyr yn ymuno â hi yn Nhîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad eleni. 

Mae’r rhestr yn cynnwys ei chyd-fyfyriwr Elinor Barker a’i chwaer iau Megan, Jake Hayward, Bethan Davies a Luke Rowe. 

Cafodd y ferch 27 oed ei hannog gan ei rhieni a’r ysgol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, a chafodd ei hudo pan oedd hi’n ifanc iawn.

Anna Morris (helmed ddu), Megan Barker, Ella Barnwell a Jessica Roberts (helmedau gwyn) yn eistedd ac yn paratoi ar gyfer eu hymlid fel tîm
Mae Anna Morris (helmed ddu) yn paratoi gyda'i chyd-chwaraewyr, Megan Barker, Ella Barnwell a Jessica Roberts, ar gyfer yr her tîm yng Ngemau'r Gymanwlad.
Roeddwn i wrth fy modd â chwaraeon pan oeddwn i’n iau. Gymnasteg oedd fy mhrif gamp bryd hynny! Roeddwn i bob amser yn brysur - roeddwn i’n chwarae hoci, pêl-rwyd a thraws gwlad yn yr ysgol. Roeddwn i’n gwneud athletau a rhywfaint o denis y tu allan i’r ysgol
Anna Morris

“Roeddwn i wrth fy modd â chwaraeon pan oeddwn i’n iau. Gymnasteg oedd fy mhrif gamp bryd hynny! 

“Roeddwn i bob amser yn brysur - roeddwn i’n chwarae hoci, pêl-rwyd a thraws gwlad yn yr ysgol. Roeddwn i’n gwneud athletau a rhywfaint o denis y tu allan i’r ysgol, felly roedd yna lawer o amrywiaeth mewn gwirionedd. 

“Rwy’n cofio ymuno â chlwb triathlon iau Caerdydd tra oeddwn i’n yr ysgol uwchradd. Fe wnes i fenthyg beic a byddem yn hyfforddi yn y Maendy. Roeddwn i wir yn mwynhau rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, ond roeddwn i wrth fy modd yn mynd ar y beic ar unwaith.”

Ar y pryd, roedd Morris ar ddechrau gyrfa addawol ym maes meddygaeth cyn i gefnogaeth gan Beicio Cymru a Chwaraeon Cymru ei helpu i wireddu ei breuddwydion a chynrychioli ei gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad. 

“Roeddwn i’n dod yn agos at record ras ymlid unigol y brifysgol yn fy mlwyddyn olaf, a ddaliwyd yn flaenorol gan Ciara Horne. 

“Roeddwn i’n meddwl y byddai hynny’n ffordd dda o orffen. Ond ar y pryd, roedd Beicio Cymru yn hysbysebu rhaglen gymorth i ferched hŷn.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl cario ymlaen; roeddwn i’n meddwl mai hobi fyddai beicio pan fyddwn i’n feddyg. 

“Doeddwn i ddim yn siŵr sut byddwn i’n gallu cydbwyso’r ddau beth, ond roeddwn i’n ei fwynhau. Dechreuais gael cefnogaeth gan Beicio Cymru a Chwaraeon Cymru.”

Nid yw Morris wedi rhoi’r gorau i’w breuddwyd arall o ddyfodol ym myd meddygaeth ac mae’n obeithiol am ei dyfodol yn y ddau faes. 

Hyd yn oed ar ôl graddio o ysgol feddygol, mae llwybr hir o hyfforddiant o flaen Morris, ond mae’n gobeithio mwynhau ei gyrfa ddisglair ym myd beicio cyn parhau ym maes meddygaeth. 

“Pan fyddwch chi’n gweithio fel meddyg, mae’n amlwg bod gwaith yn dod yn gyntaf, felly mae adegau pan fydd hi’n anodd dal i fyny â hyfforddiant. Mae’n braf iawn canolbwyntio ar fy meicio a dal ati i wella,” meddai.

“Fe wnes i orffen fy rhaglen hyfforddi gyntaf. Yn hytrach na neidio i’r nesaf, roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n mynd yn iau, a’r bwriad yw gweithio am amser hir ar ôl beicio, felly roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi fynd amdani.”

I Morris, mae’n anrhydedd enfawr cael ei dewis gan Dîm Cymru ac i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ac mae’n brawf o’i holl waith caled. 

“Mae fy nheulu i gyd yn dod yma ac maen nhw i gyd yn llawn cyffro! Mae gen i ychydig o ffrindiau a fydd yn gwylio ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld pawb yn dod i’m cefnogi. 

“Dydw i ddim yn hollol siŵr sut mae’n mynd i fynd. Mae’r hyfforddiant wedi bod yn eithaf didrafferth, heb unrhyw anawsterau mawr o ran anafiadau. Dydw i ddim yn hollol siŵr ble rydw i arni, ond rydw i’n edrych ymlaen yn arw at wneud fy ngorau glas a gweld beth ddaw. 

“Gallaf deimlo’r awyrgylch yn cynyddu yma. Mae gwisgo gwisg goch Cymru yn deimlad anhygoel.

“Dyma’r lefel uchaf y gallwch gynrychioli Cymru arni, felly bydd gwneud hynny o flaen rhyw fath o gynulleidfa gartref yn arbennig iawn.” 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy