Skip to main content

Elizabeth Popova - Y gymnastwraig rhythmig gyda chwaraeon yn ei gwythiennau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Elizabeth Popova - Y gymnastwraig rhythmig gyda chwaraeon yn ei gwythiennau

Wrth dyfu i fyny yn Llanelli, roedd Elizabeth Popova yn llawn edmygedd o’r gymnastwyr hŷn yn ei champfa.

Cymaint felly fel ei bod hi, fel plentyn bach, yn copïo ac yn dysgu eu perfformiadau, gan ddechrau hoffter oes o’r gampfa a gymnasteg rhythmig.

Ond cafodd y ferch 15 oed a anwyd yng Nghaerfyrddin – ac a fydd ymhlith yr athletwyr ieuengaf i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ym mis Gorffennaf – ei magu i hoffi pob math o chwaraeon, yn dod o deulu a oedd yn byw ac yn anadlu mwynhad o chwaraeon a rhagoriaeth.

Cystadlodd ei mam, Ioana, dros Fwlgaria mewn twrnameintiau gymnasteg rhyngwladol, ac roedd ei thad, Petar, yn chwaraewr pêl fasged proffesiynol i Fwlgaria.

Yn hanu o'r brifddinas Sofia, symudodd y teulu i Gymru tua 20 mlynedd yn ôl. Fel athletwyr brwd eu hunain, ceisiodd Ioana a Petar Popova ennyn hoffter o chwaraeon yn eu dau blentyn ifanc.

Cafodd Elizabeth gyfle i fwynhau llawer o chwaraeon gartref ac yn yr ysgol cyn dewis gymnasteg rhythmig, ond mae'n pwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn llawer o wahanol chwaraeon gyda'i ffrindiau a'i theulu.

“Roeddwn i bob amser yn y gampfa pan oeddwn i ddim hyd yn oed yn cerdded, yn cwympo hyd y lle ac yn cropian o gwmpas. Fe ddechreuais i ymuno â’r dosbarthiadau yn iawn pan oeddwn i tua phedair oed. Roeddwn i’n eithaf ifanc, ond roeddwn i wrth fy modd, felly doedd dim ots gen i,” eglura.

“Roeddwn i hefyd yn arfer mynd i gemau pêl droed fy mrawd. Fe fyddwn i'n chwarae o gwmpas yn y caeau, yn rhoi cynnig ar bethau newydd. Fe wnes i chwarae ychydig o bêl droed, dim ond cicio pêl o gwmpas i gael ychydig o hwyl.

“Pan oeddwn i’n iau, doeddwn i ddim mor ddifrifol am chwaraeon ag ydw i nawr. Roeddwn i'n arfer cael hwyl a gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, ac yn y pen draw, dewis rhythmig.

“Mae’n meithrin llawer o gymeriad, bod mewn amgylchedd chwaraeon. Rydych chi'n dysgu sut i weithio mewn tîm a sut i gefnogi'ch gilydd.

“Mae wedi fy helpu i gyda fy hyder ac os ydw i’n cael anhawster, fe all fy rhieni fy nghynghori i bob amser gan eu bod nhw wedi bod drwy bethau tebyg.”

Nid yn unig y mae rhieni Elizabeth wedi cystadlu ar lefel ryngwladol, ond mae ei brawd Chris hefyd wedi bod yn creu argraff gyda'i sgiliau pêl droed.

Mae wedi chwarae i Fanceinion Unedig a Dinas Caerlŷr yn eu timau dan 18, gan sgorio 15 gôl mewn 20 ymddangosiad i Gaerlŷr mewn un tymor cyn symud ymlaen i Uwch Gynghrair 2.

Mae Chris hefyd wedi mynd ymlaen i ymuno â’r teulu fel athletwr rhyngwladol – gan gynrychioli timau pêl droed grŵp oedran Cymru ar lefel Dan 18 a Dan 21.

Tyfodd Elizabeth i fyny yn gwylio ei mam yn hyfforddi gymnasteg a chafodd ei swyno gan y gamp o oedran ifanc.

Elizabeth Popova yn arddangos ei medalau a gwobrau gyda chyd-gymnastwr rhythmig, Gemma Frizelle
Elizabeth Popova yn arddangos ei medalau a gwobrau gyda chyd-gymnastwr rhythmig, Gemma Frizelle. Llun: Welsh Gymnastics
Yn yr ysgol, fe wnes i lawer o bethau; roedd yr ysgol yn ein cynnwys ni mewn llawer o chwaraeon, fel rhedeg ac athletau. Fe wnes i wir fwynhau gwneud pethau gwahanol.
Elizabeth Popova

“Roeddwn i bob amser yn gwneud rhythmig oherwydd roedd fy mam yn hyfforddi felly fe fyddwn i yn y gampfa yn ei gwylio. Yn yr ysgol, fe wnes i lawer o bethau; roedd yr ysgol yn ein cynnwys ni mewn llawer o chwaraeon, fel rhedeg ac athletau. Fe wnes i wir fwynhau gwneud pethau gwahanol.

“Roedd fy mam hefyd yn hyfforddi gymnasteg artistig, felly fe wnes i roi cynnig ar hynny, fel y bariau, ac fe fyddwn i’n ymwneud â'r merched iau, ond roeddwn i bob amser yn canolbwyntio ar y rhythmig.

“Wrth weld y rhai hŷn a beth roedden nhw’n ei wneud, roeddwn i bob amser yn ceisio eu copïo nhw. Roeddwn i’n gwybod eu perfformiadau nhw ar fy nghof oherwydd roeddwn i’n eu hoffi nhw gymaint ac roeddwn i eisiau gallu gwneud yr hyn roedden nhw’n ei wneud.”

Mae gan y teulu Popova gefndir chwaraeon cyfoethog ac amrywiol sydd wedi darparu cymaint o brofiadau cofiadwy.

“Mae fy rhieni i’n helpu llawer gyda pharatoi, yn amlwg gyda mam yn hyfforddwr i mi. Rydyn ni wedi bod drwy lawer gyda'n gilydd, ond mae'n braf gallu rhoi fy holl waith tuag at rywbeth o'r diwedd.

“Mae’r ddau wedi bod mor gefnogol i mi, felly fe fyddwn i wrth fy modd yn gallu perfformio’n dda yn y Gemau yma, iddyn nhw ac i bawb sydd wedi fy helpu i.”

Symudodd y teulu Popova i Ogledd Lloegr yn ddiweddar. Mae Elizabeth wedi bod yn creu argraff wrth astudio yn Ysgol Uwchradd Wade Deacon yn Widnes, ac mae Chris wedi parhau i ddatblygu fel pêl droediwr.

I Elizabeth, mae ei huchafbwyntiau diweddar wedi cynnwys ymddangos yn Nigwyddiad Cwpan y Byd Gymnasteg Rhythmig FIG yn Sofia a Phencampwriaeth Gymnasteg Rhythmig Iau y Byd ar ôl buddugoliaethau cefn wrth gefn ym Mhencampwriaeth Rhythmig Iau Cymru.

Mae gan y brawd a’r chwaer berthynas agos ac maent wedi hyfforddi ochr yn ochr yn aml.

“Mae ein rhieni ni fel gyrwyr tacsi, ond rydw i wrth fy modd yn gwybod beth mae Chris yn ei wneud yng Nghaerlŷr. Dydw i ddim yn ei weld cymaint ag yr oeddwn i'n arfer ei wneud ond rydyn ni bob amser yn ceisio dal i fyny.

“Fe es i i wylio Chris yn chwarae i dîm Dan 21 Cymru ym Mharc y Scarlets a, gobeithio, bydd e’n gallu dod i fy ngweld i rywbryd, ond mae’n brysur iawn.”

Mae gan Elizabeth obeithion mawr ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf ac yn enwedig ar gyfer Birmingham.

“Rydw i’n gyffrous iawn. Dyma fy Ngemau cyntaf i, felly mae’r paratoi ar eu cyfer nhw wedi bod yn wahanol i unrhyw beth o’r blaen.

“Nawr fy mod i yn y cit, mae'n swreal. Felly, rydw i'n gyffrous iawn i fynd yno a'i brofi drosof fi fy hun.

“Mae mam a dad yn gyffrous iawn hefyd. Maen nhw wedi trefnu eu tocynnau yn barod.

“Rydw i newydd adfer o anaf, felly ar y pwynt yma rydw i eisiau gwneud y gorau y galla’ i ei wneud. Wrth gwrs, fe hoffwn i gael canlyniad da, ond rydw i'n mynd i ganolbwyntio ar roi fy mherfformiad gorau ac wedyn bydd popeth yn dod o hynny.

“Mae bod yn rhan o’r tîm a chynrychioli fy ngwlad yn mynd i fod yn anhygoel.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy