Skip to main content

Sut aeth sesiwn flasu â Josh Stacey i ogoniant y Gymanwlad

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut aeth sesiwn flasu â Josh Stacey i ogoniant y Gymanwlad

Mae Josh Stacey yn gwybod y byddai ei daid wedi bod yn falch ohono - nid yn unig am ei fedal aur yn y Gymanwlad, ond am y siwrnai naw mlynedd a gymerodd iddo gyrraedd yno.

Enillodd Stacey fedal aur yng nghystadleuaeth senglau’r dynion yn nosbarthiadau para 8-10 yn yr NEC yn Birmingham, gan arwain y ffordd ar gyfer gorffeniad gorau erioed Cymru mewn tennis bwrdd yng Ngemau’r Gymanwlad.

Trechodd Josh Lin Ma o Awstralia yn y rownd derfynol, mewn categori ar gyfer chwaraewyr â nam corfforol cymedrol i ysgafn.

Roedd yr athletwr a aned yng Nghaerdydd wrth ei fodd yn ennill yr aur ar ôl hawlio efydd yn ei Gemau cyntaf ar Arfordir Aur Awstralia yn 2018.

Mae wedi bod yn siwrnai hir a throellog i’r chwaraewr 22 oed, a ddechreuodd gymryd rhan yn y gamp yn 13 oed. Roedd ei emosiwn wrth ennill ar y diwedd yn glir i bawb ei weld.

Wrth lapio ei hun ym maner Cymru ar y cwrt ar y diwedd, gan edrych ar ei ffrindiau a'i deulu yn y standiau, dywedodd Josh: "Fe fu farw fy nhaid ym mis Ebrill. Roedd hyn iddo fe!

“Mae'n rhywbeth rydych chi'n breuddwydio amdano. Rydw i mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydw i wedi’i chael, mae wedi bod yn anhygoel.”

Ar hap, fe wnaeth sesiwn blasu a gynhaliwyd yn ei ysgol helpu Josh i syrthio mewn cariad â thennis bwrdd. Hwn oedd y drws agored wnaeth ei alluogi i fynd ymlaen i fod yn un o chwaraewyr gorau’r byd.

“Fe ddaeth fy hyfforddwr tymor hir, Simon Oyler, i fy ysgol uwchradd i gynnal sesiynau tennis bwrdd,” meddai Josh.

“Dim ond sesiwn blasu oedd yn cael ei gynnig a doeddwn i ddim yn dda iawn, os ydw i’n onest, ond fe wnaeth fy natur gystadleuol i mi fod eisiau mynd yn ôl a cheisio gwella.

“O fewn ychydig wythnosau, roeddwn i wedi gwirioni’n llwyr a wnes i erioed edrych yn ôl ar ôl hynny.

“Fe wnes i chwarae rygbi, pêl droed a rhedeg trac. Roeddwn i'n mwynhau chwaraeon yn gyffredinol, ond doeddwn i ddim wedi dod o hyd i gamp roeddwn i wrth fy modd â hi ac yn awyddus iawn i'w ddilyn."

Josh Stacey yn dal Draig Goch Cymru yn uchel i ddathlu buddugoliaeth.
Josh Stacey yn dangos ei falchder dros Gymru wrth iddo ennill Aur Gemau'r Gymanwlad. Lluniau: Michael Loveder Photography
Fe wnes i chwarae rygbi, pêl droed a rhedeg trac. Roeddwn i'n mwynhau chwaraeon yn gyffredinol.
Josh Stacey

Bedair blynedd yn ôl, roedd Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia yn brofiad syfrdanol i lanc 18 oed, er iddo ddod adref gyda medal.

“Roedd y tro diwethaf yn eithaf brawychus. Fy Gemau cyntaf i. Doeddwn i ddim yn disgwyl gwneud yn dda, ond roeddwn i'n ceisio cael rhywfaint o brofiad. Roedd y fedal yn annisgwyl, roeddwn i’n 18 oed ar y pryd ac roedd digon o chwaraewyr da allan yna.”

Ers hynny, mae Josh wedi parhau â'i gynnydd yn y gamp a chafodd le yn nhîm para tennis bwrdd Prydain Fawr ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo.

“Rydw i wir wedi dod o hyd i fy lle. Mae rhai pobl yn cymryd 30 mlynedd i wneud hynny, roeddwn i'n ffodus o lwyddo mor ifanc.

“Rydw i’n ddiolchgar bod Simon wedi dod i mewn i fy ysgol i y diwrnod hwnnw. Mae wedi bod yn anhygoel ers hynny.

“Rydw i wedi cael profiad o lefydd nad oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i. Mae hefyd yn braf iawn ailymweld â llefydd a mwynhau’r diwylliant.”

Mae Stacey yn ffrindiau mawr gyda Paul Karabardak, chwaraewr para tennis bwrdd arall o Gymru, a enillodd fedalau aur ac arian yn Tokyo y llynedd.

“Mae Paul yn foi gwych, yn berson mor neis i fod yn ei gwmni, rydyn ni'n dod ymlaen yn dda. Mae wedi bod yn gwneud yn dda iawn yn ddiweddar ac mae mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen.

“Fel un o gefnogwyr tîm pêl droed Abertawe, gofynnodd ei glwb iddo fynd â’i fedal Baralympaidd o amgylch Stadiwm Liberty ac roedd wrth ei fodd!

“Efallai, nawr bod gen i Aur y Gymanwlad, y bydd Dinas Caerdydd yn rhoi galwad i mi!

“Hogyn o Gaerdydd ydw i, felly byddai hynny’n wych!”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy