Skip to main content

Jacob Draper - Y seren hoci a newidiodd esgidiau pêl droed am ffon hoci

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Jacob Draper - Y seren hoci a newidiodd esgidiau pêl droed am ffon hoci

Ar un adeg, roedd Jacob Draper ar y llwybr i fod yn bêl droediwr proffesiynol, ond nid yw'n difaru newid i hoci.

Roedd seren ryngwladol Cymru a Phrydain Fawr yn ddigon da gyda’r bêl gron fwy i fod yn rhan o raglen academi Dinas Caerdydd pan oedd yn saith oed.

Chwaraeodd chwe blynedd ochr yn ochr â llond dwrn a gyrhaeddodd y rhengoedd proffesiynol yn y pen draw, ond ni fyddai'n newid dim wrth iddo baratoi ar gyfer ei ail Gemau'r Gymanwlad.

Daeth y newid mewn campau pan oedd Draper yn 13 oed a phan ddywedodd hyfforddwyr Caerdydd wrtho bod ei ddiddordeb cynyddol mewn hoci yn ei osod ar groesffordd.

“Fe wnaethon nhw ddarganfod fy mod i’n chwarae hoci a doedden nhw ddim yn rhy hapus gyda hynny,” meddai Jacob, oedd yn rhan o garfan Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd.

“Hyd yn oed yn 13 oed, mewn pêl droed rydych chi ar gontract ac ’allwch chi ddim gwneud pethau eraill rhag ofn y cewch eich anafu. Mae rhai risgiau ynghlwm wrth chwarae hoci a doedden nhw ddim yn hapus.

“Fe wnaethon nhw awgrymu yn y bôn fy mod i’n dewis rhwng y campau ac fe wnes i ddewis hoci.”

Roedd yn ddewis a synnodd y clwb pêl droed a’i swyddogion o bosibl.

Cafodd Draper ei fagu yng Nghwmbrân, roedd wedi mynychu ysgol y wladwriaeth, ac nid oedd ganddo gefndir teuluol mewn hoci.

Ond fe fwynhaodd y gamp pan gafodd ei gyflwyno iddi yn yr ysgol gan athro brwdfrydig - ar ôl i ffrind ddweud bod y tîm hoci’n brin o chwaraewyr - ac yn fuan iawn roedd yn gwella'n gyflym yng Nghlwb Hoci Gwent.

Ar y dechrau, mae’n cyfaddef iddo roi cynnig ar y gamp oherwydd ei bod yn “edrych fel pêl droed gyda ffon” ac meddai: “Roeddwn i’n chwarae hoci fel pe bawn i’n chwarae pêl droed.”

Jacob Draper Cymru (mewn coch) yn brwydro am y bêl gyda gwrthwynebydd o Dde Affrica (mewn gwyrdd, yn gwisgo gwarchodwr pen gwyn).
Jacob Draper yn brwydro am y bêl i Gymru yn erbyn De Affrica.
Pan ydych chi'n blentyn rydych chi'n cael eich denu at yr hyn rydych chi'n ei fwynhau. Does gennych chi ddim unrhyw gymhelliant arall yn 12 neu 13 oed.
Jacob Draper

Yn ddiweddarach, daeth cynildeb a sgiliau ei gêm newydd yn amlwg a blodeuodd ei dalent ymhellach yn Ysgol Gyfun Trefynwy.

Roedd Draper wedi dangos gallu mewn badminton a sboncen - ac wedi mwynhau'r ddwy gamp yn ogystal â phêl droed - ond roedd rhywbeth am hoci yn ei ddenu yn gyson.

“Mae pêl droed yn hynod gystadleuol a doedd hyd yn oed y bechgyn oedd y gorau yn eu hardaloedd, y gorau ymhlith miloedd o fechgyn eraill, byth yn ei gwneud hi mewn gwirionedd.

“Pan ydych chi'n blentyn rydych chi'n cael eich denu at yr hyn rydych chi'n ei fwynhau. Does gennych chi ddim unrhyw gymhelliant arall yn 12 neu 13 oed.”

Lledaenodd y gair am yr hwyrddyfodiad dawnus i'r gamp a chynigiwyd ysgoloriaeth iddo i fynd i ysgol breifat yn Lloegr, Ysgol Rossall, ger Blackpool.

“’Allwn i ddim gwrthod mewn gwirionedd.

“Roedd fy rhieni i o gefndir dosbarth gweithiol a doedden nhw erioed wedi bod mewn ysgol breifat. Roedd yn gyfle gwych ac roeddwn i’n teimlo na allwn i ddweud na.”

Y mis yma bydd hoci’n cael ei chwarae ar gaeau chwarae Birmingham a bydd cyfle i Draper wisgo fest goch Cymru.

Mae’n gyfle y bydd y chwaraewr 24 oed yn ei fwynhau ac mae’n cyfaddef bod y cyffro yn wahanol i chwarae i Dîm Prydain Fawr.

“I mi, yn bersonol, mae chwarae i Gymru yn teimlo’n wahanol iawn.

“Rydw i’n Gymro balch iawn. Fe gefais i fy ngeni a fy magu yng Nghymru.

“Roedd yn amlwg yn anrhydedd anghredadwy i mi fynd i’r Gemau Olympaidd. Dyna oedd fy nod hirdymor i ac mae'n debyg iddo ddod i mi yn gynt na'r disgwyl.

“Ond fe gefais i fy mendithio hefyd o fod gyda Chymru ar yr Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl. Mae'r Awstraliaid yn cynnal twrnameintiau mor dda, roedd yn teimlo fel Gemau Olympaidd bach.

“Mae yna feddylfryd gwahanol hefyd. Gyda Chymru, mae canu anthem Cymru yn wahanol. Mae’n rhoi ias i lawr fy nghefn i a bob tro rydw i’n ei chlywed hi, rydw i’n barod i fynd i ryfel.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy