Skip to main content

Sbotolau Partner: Street Games

Bydd digon o leisiau o Gymru yn cynnig cefnogaeth i Dîm Cymru yn Birmingham yng Ngemau’r Gymanwlad yr haf yma – diolch i StreetGames.

Fel rhan o’u hymgyrch #Ysbrydoliaeth2022, mae StreetGames wedi trefnu i bron i 500 o bobl ifanc o Gymru fod yn y Gemau ar dripiau dydd wedi’u cyllido gyda thocynnau i fwynhau’r holl fwrlwm.

Mae'n golygu y bydd ieuenctid o Gymru yn cael cyfle i gefnogi sêr fel y rhedwraig Melissa Courtney, yr ymladdwr Rosie Eccles a'r chwaraewr hoci Luke Hawker yn ogystal ag eraill.

Y tu allan i’r stadiymau, bydd grŵp mawr arall o ieuenctid o Gymru yn gwersylla yn yr awyr agored ac yn profi hanfod y Gemau yma – gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau a datblygu eu galluoedd arwain eu hunain.

Mae’r cyfan yn rhan o haf prysur i StreetGames, partner elusennol Chwaraeon Cymru sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cyfartal a fforddiadwy.

Hefyd bydd ymgyrch #Ysbrydoliaeth2022 yn darparu cyfleoedd tebyg i bobl ifanc mewn digwyddiadau eraill eleni, fel Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair, Wimbledon a rowndiau terfynol Ewros y Merched UEFA.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Street Games eu Digwyddiad Dathlu Gaeaf Llawn Lles yn Stadiwm Principality gan amlinellu rhywfaint o’u gwaith yn cyflwyno chwaraeon a gweithgarwch corfforol i bobl ifanc mewn cymunedau incwm isel a heb wasanaethau digonol.

Y syniad yw sicrhau bod cynnwrf mawr digwyddiadau fel Gemau’r Gymanwlad yn creu bwrlwm sy’n cyrraedd carreg drws pawb.

Dywedodd Claire Lane, cyfarwyddwr cenedlaethol StreetGames: “Yr haf yma ac i mewn i’r hydref rydyn ni’n ffrwyno pŵer digwyddiadau mawr ac yn eu cysylltu â phobl ifanc a chymunedau na fyddai wedi ymwneud o gwbl yn hanesyddol â’r digwyddiadau yma ac na fyddai wedi bod yn gysylltiedig â nhw ar unrhyw ffurf.

“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd y pandemig, bu diffyg cyfleoedd mawr i lawer o bobl o ran cael mynediad at chwaraeon.

“Mae hynny’n llawer mwy o broblem i bobl ifanc sy’n byw mewn tlodi. Mae chwaraeon yn symud ymhell iawn o fod yn rhan o’u bywydau.

“Mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod effaith y digwyddiadau hyn yn cael ei theimlo mor bell i ffwrdd â’r cymunedau rydyn ni’n gweithio gyda nhw.”

Mae ethos StreetGames yn ymwneud â chadw pethau'n syml, yn hawdd, yn fforddiadwy ac yn ddidrafferth drwy eu rhwydwaith o glybiau chwaraeon ar garreg y drws.

Efallai nad ydyn nhw ar bob cornel stryd yng Nghymru – dydi’r adnoddau ddim yn caniatáu ar gyfer hynny – ond lle maen nhw’n bodoli, mae’r un mor debygol bod trefnydd gyda bag cit mewn maes parcio neu neuadd bentref ac nid canolfan chwaraeon bwrpasol. 

Grŵp o Gynghorwyr Ifanc Gemau Stryd yn cael amser da
Mae #Inspiration2022 wedi’i gynllunio i sicrhau bod pawb yn teimlo ‘effaith ripple’ digwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys y rheini mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ac sy’n profi rhwystrau lluosog i gael mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
“Mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod effaith y digwyddiadau hyn yn cael ei theimlo mor bell i ffwrdd â’r cymunedau rydyn ni’n gweithio gyda nhw.”
Claire Lane, StreetGames

“Dydyn nhw ddim yn gofyn am dâl aelodaeth – cael pobl ifanc i gymryd rhan sy’n bwysig, cyrraedd gyda’u ffrindiau a chael dipyn o hwyl,” meddai Claire.

Mae’r cwestiwn ynghylch pa mor bell mae’r bwrlwm hwn yn cyrraedd o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yn llawer pwysicach pan mae Gemau’r Gymanwlad ar garreg drws Cymru, oherwydd yn Birmingham maen nhw’n cael eu cynnal y tro yma. 

Nid cyfarfod pell, anghysbell ym mhen arall y byd ydi hwn. Mae ddwyawr i fyny’r M5 o Gaerdydd, felly dylai’r cyfleoedd am effaith lawer ehangach fod yn amlwg.                           

Gan feddwl am hynny, mae StreetGames wedi ffurfio partneriaeth gyda nifer o gyrff rheoli ar draws chwaraeon amrywiol mewn ymgais i sicrhau’r effaith orau bosib ar bobl ifanc yn sgil y Gemau. 

Mae’r elusen yn ceisio ysbrydoli ac agor mynediad i gyfleoedd chwaraeon drwy ddigwyddiadau yn Birmingham ac mewn llefydd eraill yr haf yma yn y ffyrdd canlynol: 

  • Dosbarthu cit, offer a hyfforddiant i fwy nag 80 o Glybiau Chwaraeon ar Garreg y Drws ledled Cymru – bagiau cit aml-chwaraeon a fydd yn helpu i ddod â'r Gemau yn fyw yn lleol a hyfforddiant gweithredwyr aml-chwaraeon i helpu i wneud y ddarpariaeth yn gynaliadwy.
  • Mwy na 400 o bobl ifanc o Gymru yn mynychu Birmingham 2022 ar dripiau dydd wedi'u cyllido’n llawn – mae’r tocynnau'n cynnwys bocsio, pêl rwyd, pêl fasged 3V3, criced, hoci ac athletau.
  • Mwy na 1,000 o bobl ifanc o bob rhan o'r DU yn mynychu Gwersyll Haf StreetGames – bydd o leiaf 150 yn dod o Gymru.
  • Partneriaethau gyda Thîm Cymru, Bocsio Cymru, Hoci Cymru, Pêl Rwyd Cymru a Chriced Cymru i arddangos gwahanol ffyrdd o gymryd rhan yn y chwaraeon, proffiliau chwaraewyr ac ymweliadau, cystadlaethau a rhoddion
  • Cyfleoedd i Gynghorwyr Ifanc – recriwtio tîm o gynghorwyr ifanc rhwng 16 ac 20 oed i helpu i gynnal gwersyll haf Birmingham.

“Efallai bod y cynigion ychydig yn llai ffurfiol nag arfer, ond mae’n parhau i ymwneud â chyflwyno chwaraeon i bobl ifanc, eu cyffroi am gymryd rhan, a rhoi cyfleoedd iddyn nhw,” ychwanegodd Claire.

“Yn ei hanfod, mae’r ymgyrch yng Nghymru yn ceisio cysylltu pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd o dlodi ledled Cymru â digwyddiadau mawr. Mae hyn fel gwylwyr ac fel cyfranogwyr, ond hefyd hyfforddi mwy o hyfforddwyr ac arweinwyr.”

Mae ffigurau wedi dangos bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi a dim ond £3.75 yr wythnos ar gyfartaledd yw gwariant aelwydydd incwm isel ar chwaraeon, o gymharu â gwariant cyfartalog aelwydydd o £12.67.

Y mathau hynny o ffigurau sy’n arwain at y gobaith y gall effaith bwrlwm Gemau’r Gymanwlad helpu i droi’r llanw ar gyfranogiad chwaraeon.

** Mae’r gwaith codi arian ar gyfer y gwersyll haf yn Birmingham yn parhau i fynd rhagddo a gall y rhai sydd eisiau helpu edrych ar: Inspiration 2022 - JustGiving 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy