Skip to main content

Siwrnai Izzy Webb o gae’r ysgol i lwyfan y byd

Dechreuodd chwaraewraig ryngwladol Cymru Izzy Webb chwarae hoci ar y cae graean yn ei hysgol.

Nawr, mae hi ar fin cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad i gynrychioli ei gwlad, gan wynebu rhai o chwaraewyr gorau'r byd.

Mae siwrnai Izzy wedi ei gweld yn gwneud y naid o ysgol y wladwriaeth - Ysgol Gyfun Croesyceiliog - i fod yn chwaraewraig clwb ac, yn y pen draw, yn chwaraewraig ryngwladol lawn.

Chwaraeodd Webb i Glybiau Hoci Gwent, Penarth ac Abertawe cyn symud i Glwb Hoci Clifton Robinsons yn Uwch Adran Lloegr.

Cynrychiolodd y ferch 23 oed Gymru ar lefel ieuenctid a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar lefel hŷn i’r tîm cenedlaethol yn erbyn yr Alban yn 2015 yn ddim ond 16 oed.

“Fe es i i mewn i’r gamp yn yr ysgol. Roedd gen i athrawes gefnogol iawn, Rachel Price; hi oedd yr un wnaeth fy ngwthio i i mewn i'r gamp,” meddai.

Hockey Player Izzy Webb on a pitch dribbling a hockey ball

 

“Ar ôl dau dymor gyda Chlwb Hoci Gwent, byddai Rachel yn mynd â fi lawr i chwarae bob wythnos yn nhîm Penarth ochr yn ochr â hi, felly do, fe wnes i chwarae ochr yn ochr â fy athrawes o’r ysgol.

“Roeddwn i’n chwarae ar lefel y merched yn 15 neu 16 oed, felly fe fyddwn i’n dweud bod Rachel wedi chwarae rhan enfawr yn fy nghamau cynnar i.

“Fe wnes i chwarae pob math o chwaraeon yn yr ysgol, fel pêl rwyd, hoci a thennis. Pan wnes i ddarganfod fy mod i'n eithaf da am hoci, fe helpodd Rachel fi i symud ymlaen. Fe wnes i ymuno â Chlwb Hoci Gwent yn 13 oed.

“Fe wnes i wir fwynhau dechrau chwarae am ei bod yn gamp mor gymdeithasol. Mae’n cynnwys pob oedran ac maen nhw wir yn annog chwaraewyr iau i chwarae yn nhimau’r merched.

“Fe wnes i dyfu i fyny’n gyflym o ran cymdeithasu â’r tîm hwnnw!”

Mae'r chwaraewraig sydd wedi ennill 35 o gapiau yn jyglo ei hamser fel athletwraig ryngwladol gyda'i gwaith fel ffisiotherapydd.

Mae hi’n chwarae i’r Clifton Robinsons yn Uwch Adran Hoci Merched Vitality ac yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Bryste.

“Rydw i wrth fy modd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair. Mae’n braf chwarae gyda ac yn erbyn rhai o’r chwaraewyr gorau, gan gynnwys fy nghyd-chwaraewyr yng Nghymru.

“Mae bob amser yn braf gweld rhai wynebau cyfarwydd a phrofi eich hun yn erbyn merched Prydain Fawr. Mae’n gynghrair wirioneddol gystadleuol.”

Gall fod yn anodd sicrhau cydbwysedd rhwng hyfforddiant ac amser cystadlu a swydd lawn amser ac mae Webb – sy’n bartner i seren rygbi Cymru a Chaerdydd, James Botham - wedi dibynnu ar ei theulu a'i ffrindiau am rywfaint o gymorth.

“Yn fy nyddiau cynharach, pan oeddwn i newydd ymuno â charfan Cymru, fe roddodd fy hyfforddwr codi pwysau i, Justin Holly, gymaint o gefnogaeth i mi.

“Roedd e yno o’r cychwyn cyntaf; byddai'n eistedd i lawr hefo fi ac yn dweud, 'Rwyt ti'n athletwraig. Alli di ddim bod yn mynd allan i hyfforddi fel person normal.’

“Fe ddysgodd i mi hefyd sut i goginio, hyfforddiant cryfder addas, a sut i drefnu gwaith a hyfforddi fel athletwr. Fe gafodd effaith fawr iawn arna i.

“Mae fy mhartner i’n dda iawn am ddeall hyn i gyd ac mae'n helpu llawer.

“Mae’n dweud wrtha i pan fydda i’n hyfforddi gormod ac i gael gorffwys neu os galla’ i wthio fy hun ychydig yn fwy. Rydyn ni’n amlwg yn actif ac rydyn ni’n gwneud llawer o hyfforddiant gyda’n gilydd.”

Mae Cymru yn mynd i Gemau'r Gymanwlad ac mae Webb yn mynnu y bydd y tîm yn llygadu’r canlyniadau gorau mewn hanes nodedig.

“Rydyn ni yn y cyflwr gorau rydyn ni wedi bod ers amser maith. Rydyn ni wedi cael carfan fawr ac rydyn ni wedi hyfforddi'n dda, felly rydyn ni'n bendant yn barod.

“Rydyn ni’n gobeithio gorffen yn y safle gorau mae Cymru erioed wedi’i gael mewn Gemau Cymanwlad, felly rydyn ni’n anelu’n uchel!

“Dyma fy Ngemau Cymanwlad cyntaf i ac alla’ i ddim aros! Allwn i ddim bod yn falchach.”