Skip to main content

Curtis Dodge - Fflipio o jiwdo i mynd i'r afael â reslo

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Curtis Dodge - Fflipio o jiwdo i mynd i'r afael â reslo

Llond llaw o athletwyr yn un unig sydd wedi cynrychioli eu gwlad mewn dwy gamp wahanol yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae Curtis Dodge yn un o’r rheini.

Ond, yn fwy na hynny, mae bellach yn cynrychioli Tîm Cymru am y trydydd tro yn y Gemau.   

Dechreuodd Dodge ei yrfa fel jwdöwr, yn cael ei hyfforddi a’i fentora gan ei dad yn Gower School of Judo

Yn Birmingham, bydd yn gwisgo crys coch Cymru unwaith yn rhagor, ond reslo fydd ei gamp y tro hwn.

Gan ddechrau ei yrfa mewn jwdo pan yn saith oed, cystadlodd Dodge yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid ac enillodd saith teitl Jwdo Prydeinig cyn mynd ymlaen i Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014. 

Ei gof cynharaf o'r gamp oedd gwylio Gemau Olympaidd 2000 gyda’i dad a’i frodyr a’i chwiorydd. 

“Roeddwn i’n egnïol iawn pan yn blentyn,” meddai.

“Roedd gen i ddigonedd o egni, ond dim digon o ddisgyblaeth. 

“Roeddwn i wrth fy modd gyda jwdo gan ei fod yn helpu gyda’r ddau beth yna. Dod adref o’r ysgol a mynd lawr i’r clwb gyda fy nhad oedd yr unig beth roeddwn i eisiau ei wneud. 

“Mae jwdo wedi bod yn rhan o’m mywyd erioed, gan i mi weithio fy ffordd drwy’r lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, yr holl ffordd i fyny hyd at Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow. 

"Ond ar ôl Glasgow, ro’n i’n teimlo ei bod hi’n amser am newid. Ro'n i'n teimlo bod angen her newydd arna i. 

“Roedd gan fy nhad gefndir mewn jwdo. Ef oedd fy hyfforddwr hyd nes i mi fynd i Glasgow fwy neu lai. Mae gennym ni berthynas agos iawn ac mae wedi gwneud cymaint drosta i.

"Mae'n anodd rhoi mewn geiriau faint mae wedi’i wneud drosta i. Rydw i wedi bod yn gwneud ychydig o jwdo gyda fy mab, sy’n bump oed, ac rwyf bellach yn gallu gweld sut brofiad yw hyfforddi dy blentyn dy hun. 

“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd deall sut brofiad oedd hynny ar y pryd, ond o’m safbwynt i pan yn blentyn doeddwn i ddim yn gwybod yn wahanol. Ef oedd fy hyfforddwr, a dyna’r oll oeddwn i’n ei wybod. 

“Bob tro roedd gen i gwestiwn, neu angen cyngor neu help, roedd fy nhad wastad yna. Roedd fel cael eich hyfforddwr personol eich hun ar speed dial. Roedd popeth yn agored felly roedd pawb yn deall ei gilydd.

“Credaf fod gonestrwydd wedi bod yn fuddiol dros ben.”

Newidiodd Dodge ei gamp o Jiwdo i reslo a chystadlu yn ei ail Gemau'r Gymanwlad yn 2018, ag yntau ond wedi dechrau reslo 14 mis ynghynt.

Yn groes i'r disgwyl, llwyddodd i ymgynefino â’i gamp newydd mewn dim o dro. 

Ychwanegodd Dodge: “Rwy’n dal i fwynhau crefft ymladd ac mae yna lawer o debygrwydd rhwng y ddwy gamp, felly roedd reslo yn cynnig ei hun yn berffaith. 

"Roedd fy ffrindiau yn dal i gystadlu mewn jiwdo ond roedd gen i'r teimlad yna’n fy stumog, a llais yn fy mhen yn dweud wrtha i bod gen i fwy i’w gynnig. 

“Sylweddolais bryd hynny nad oeddwn eisiau rhoi’r gorau i gystadlu, ond yn hytrach roeddwn i eisiau rhoi’r gorau i jwdo. 

“Roeddwn i rhwng dau feddwl, felly roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd cyrraedd y lefelau uchaf. Doedd gen i ddim bwriad cystadlu yn y Gold Coast i ddechrau, ond penderfynais dorchi llewys a bwrw iddi. 

“Roeddwn i’n ceisio meddwl beth i’w wneud nesaf. Roeddwn i’n chwilio am ffordd y byddwn i’n gallu rhoi fy sgiliau a’m profiad ar waith. 

"Gan fod llawer o debygrwydd rhwng sgiliau jwdo a reslo, teimlais mai camu i’r byd reslo fyddai’r peth fwyaf rhesymol i’w wneud. 

“Mae’r profiad o ddechrau reslo yn fyw iawn yn fy nghof. Dechreuais hyfforddi wythnos cyn i fy mab gael ei eni, cyn penderfynu mynd amdani. Wrth edrych yn ôl, mae’n debyg fod gen i ddigon ar fy mhlât bryd hynny’n barod!” 

Mae Curtis Dodge yn ystwytho ei gyhyrau yn ei sengl Tîm Cymru (dde). Curtis Dodge yn ystumio mewn menig MMA (wedi'i gylchu)
Curtis Dodge yn edrych yn barod ar gyfer Birmingham 2022 yn ei sengl reslo Tîm Cymru.
Roeddwn i’n ceisio meddwl beth i’w wneud nesaf. Roeddwn i’n chwilio am ffordd y byddwn i’n gallu rhoi fy sgiliau a’m profiad ar waith. Gan fod llawer o debygrwydd rhwng sgiliau jwdo a reslo, teimlais mai camu i’r byd reslo fyddai’r peth fwyaf rhesymol i’w wneud.
Curtis Dodge

Gan nad oedd yn gallu bodloni ar ddwy gamp, dechreuodd Dodge hyfforddi i gystadlu mewn Crefftau Ymladd Cymysg. 

Cystadlodd y cyn-fyfyriwr o Ysgol Gyfun Tregŵyr yn Bellator yn 2020.

Mae’r newid a’r amgylchiadau yn ein hatgoffa o allu Dodge i addasu ei sgiliau yn ogystal â’r mwynhad mae’n ei gael wrthi fynd i’r afael â her newydd. 

“Cefais fy hyfforddi gan John Kavanagh. Roedd fy nghyfnod yn Nulyn yn anhygoel. Roedd yna ymladdwyr o fri o fy nghwmpas ym mhobman.

“Roedd pawb yna’n cymryd yr holl beth o ddifrif. Roeddwn i’n dod ymlaen yn dda iawn gyda John ac rydw i’n dal i fynd draw yno bob hyn a hyn. Mae o’n ddyn arbennig.

“Weithiau, gall fod yn anodd gwahanu’r ddwy gamp. Ond, yn ffodus, mae ganddyn nhw nodweddion tebyg yn perthyn iddyn nhw, felly mae hynny’n help. 

“Mae’r naill yn gallu elwa o'r llall, felly mae popeth wedi gweithio’n dda.” 

Mae cystadlu yn y Gemau am y trydydd tro cyn troi’n 30 oed yn dipyn o gamp.

Gyda’r Gemau’n cael eu cynnal dim ond tafliad carreg i ffwrdd o Gymru yn Birmingham, mae’r reslwr o Gymru yn disgwyl cefnogaeth gref gan y Cymry ac yn awyddus i gael y dechrau gorau posibl. 

“Nôl yn 2018, roedd yn rhaid i mi ganolbwyntio ar fy nghryfderau jwdo a’u defnyddio fel mantais. 

“Roedd yn rhaid i mi ddysgu gweddill y sgiliau technegol dros nos. Doedd hynny ddim yn hawdd. 

“Gyda reslo, byddai’r rhan fwyaf ohono yn dod yn naturiol i weddill yr athletwyr, ond roedd yn rhaid i mi ganolbwyntio o ddifrif ar y prosesau hynny. 

“Byddai wedi bod yn anodd dod o hyd i unrhyw un yn fy nghystadleuaeth gyda mwy o brofiad cystadlu na mi. Rwyf wedi bod yn cystadlu ers pan oeddwn yn saith mlwydd oed.

“Ond does dim ots beth yw’r gamp, dim ond tri ohonoch sydd yn y cylch, ac ni fydd hynny byth yn newid – ni waeth faint o brofiad sydd gennych. 

“Mae’r gwrthwynebwr eisiau fy nghuro’n ddu las, ac rydw i eisiau gwneud yr un peth iddo fe. 

“Rydw i bob amser yn barod am sgarmes! 

“Rwy’n barod i fynd ac yn edrych ymlaen yn arw at ddechrau arni.

“Dim ond dwy awr i ffwrdd o fy nghartref mae’r Gemau. Byddwn yn dweud y bydd gen i fyddin fach o gefnogwyr yno i fy nghefnogi, ond dydy’r fyddin honno ddim yn fach erbyn hyn.

“Mae gen i dorf sylweddol yna’n barod i fy nghefnogi!

Felly, beth sydd wedi newid dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, ac yn y ddwy gamp?

“Rwyf bellach yn ymladdwr mwy cyflawn o gymharu â fy amser yn y Gold Coast. Rwy’n reslwr llawer mwy cyflawn o gymharu â’r tro diwethaf i mi gystadlu. 

“Mae gen i hen ddigon yn y tanc o hyd, ac yn dal i fod yn ddigon ifanc. Mae gen i hefyd 22 mlynedd o brofiad cystadlu y tu ôl i mi.

“Felly, drwy gyfuno’r holl bethau hynny, rwyf mewn sefyllfa gadarnhaol dros ben.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy