Skip to main content

Jake Dodd – y Bocsiwr Llafnrolio sy’n mynd i Birmingham

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Jake Dodd – y Bocsiwr Llafnrolio sy’n mynd i Birmingham

Ychydig iawn o focswyr sydd wedi cerdded i mewn i gampfa am y tro cyntaf oherwydd eu bod yn teimlo'n unig yn y parc sglefrio - ond mae Jake Dodd yn un ohonyn nhw.

Roedd y llanc 26 oed o Wrecsam yn llafnroliwr brwd ac yn arfer treulio amser yn ei barc sglefrio lleol gyda'i ffrindiau.

Ond ar ôl iddo adael yr ysgol, edrychodd o gwmpas y parc un diwrnod a sylwi: “Doedd neb yno mwyach.”

“Roedden nhw i gyd wedi gadael a chael swyddi. Roedd yn eithaf unig yno, felly fe es i i’r gampfa gydag ychydig o ffrindiau.”

Dechreuodd Jake - a fydd yn ymladd dros Dîm Cymru yn y categori pwysau pryf 52kg yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham - ar y bagiau ergydio fel ffordd o gadw'n heini.

Boxer Jake Dodd training in the ring

 

Roedd eisoes wedi rhoi cynnig ar bêl droed, gymnasteg a chodi pwysau, cyn canolbwyntio ar lafnrolio, ond dim ond ar ôl iddo gau carrai ei fenig a rhoi cynnig ar focsio y teimlai ei fod wedi dod o hyd i'w gamp go iawn.

Y neges? Os nad yw un gweithgaredd wedi cydio yn llwyr ynoch chi eto, peidiwch â phoeni. Mae llawer mwy o chwaraeon allan yna.

Pan aeth i mewn drwy'r drysau yn ei gampfa leol ym Mrymbo, ac yntau'n 20 oed, y teimlai Jake ei fod wedi dod o hyd i'r hyn yr oedd yn chwilio amdano.

Ar ôl gwylio'r bechgyn i fyny'r grisiau yn ymladd, roedd yn gwybod bod rhaid iddo roi cynnig arni.

Ar ôl ychydig o hwb i’w hyder gan ei ffrindiau, dechreuodd gystadlu cyn symud i gampfa yn Llai, ychydig i'r gogledd o Wrecsam.

Oherwydd yr holl gefnogaeth a gafodd, ynghyd â'i ddawn a'i ymroddiad, buan iawn yr oedd ar y llwybr cyflym i dîm Cymru. 

“Roeddwn i'n hoff iawn o chwaraeon pan oeddwn i'n ifanc,” meddai Jake.

“Roeddwn i’n chwarae llawer o wahanol chwaraeon. Fe wnes i gymnasteg am ddwy flynedd, fe wnes i sglefrolio am bedair neu bum mlynedd ac fe es i i’r byd codi pwysau hefyd.

“Roeddwn i’n gwneud llawer o adeiladu’r corff ac wedyn fe wnes i ddechrau ar y bagiau ergydio, a dyna sut dechreuodd yr holl focsio yma.

“Ond roeddwn i ychydig yn rhy fach ar gyfer pêl droed, felly fe symudais i at gymnasteg. Doeddwn i erioed yn hoff iawn o focsio a dweud y gwir, dim byd felly.

“Roeddwn i’n hyfforddi chwe gwaith yr wythnos rhwng pêl droed a gymnasteg. Fe gyrhaeddais i bwynt lle roedd rhaid i mi ddewis beth oeddwn i wir eisiau ei wneud ac felly fe wnes i ymroi i gymnasteg am rai blynyddoedd.

“Ond mae’n gamp anodd iawn ac mae llawer o waith yn mynd i mewn iddi. Ar yr un pryd, fe wnes i ddechrau llafnrolio, sy’n gymaint o hwyl.”

Ac wedyn daeth y diwrnod hwnnw pan oedd y parc sglefrio yn teimlo'n wag ac felly aeth Jake i mewn.

Ar ôl cyfaddef ei fod ar goll o ran beth arall i'w wneud, daeth o hyd i focsio o dan ei drwyn.

Mae sawl rhwystr wedi bod ar ei daith, ond mae bob amser wedi credu ynddo'i hun y gall lwyddo yn unrhyw beth mae'n rhoi ei feddwl arno.

Mae’r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed a bydd yn mynd i’r Gemau fel ymgeisydd dilys am fedal, ar ôl ennill teitlau ar lefel Cymru a Phrydain eisoes. 

“Roedd yn eithaf brawychus, dechrau bocsio,” mae’n cyfaddef.

“Roeddwn i allan am noson gyda dau o fy ffrindiau. Roedden nhw wedi bod yn ceisio fy nghael i mewn i focsio ac ar y noson arbennig yma fe ddywedais i y byddwn i’n rhoi cynnig arni.

“Fe wnes i ddweud y byddwn i’n mynd i lawr gyda nhw i'r gampfa y dydd Llun canlynol. Wedi cael ychydig o gwrw, dydych chi ddim yn meddwl ei fod yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd.

“Ar y dydd Llun, fe wnaethon nhw fy ffonio i a mynd â fi i'r gampfa ym Mrymbo. Roeddwn i'n nerfus iawn. Ond ers y diwrnod hwnnw, dydw i ddim wedi edrych yn ôl, ac rydw i'n ddiolchgar iawn iddyn nhw.

“Roeddwn i’n chwilio am ble i fynd am amser hir, ond doeddwn i ddim eisiau cerdded i mewn i gampfa ar fy mhen fy hun.

“Fe gefais i seibiant o’r gamp ar ôl dwy flynedd, gan fod gen i fachgen bach. Fe gefais i flwyddyn allan.

“Roeddwn i’n dal i focsio, ond ddim o ddifrif. Fe ddechreuais i gredu go iawn yn fy ngallu a mwynhau fy hun o tua 24 oed ymlaen, tua phedair blynedd i mewn.

“O 2018 ymlaen, fe wnes i ddweud wrtha’ i fy hun bod rhaid i mi gymryd bocsio o ddifrif a rhoi popeth i’r gamp ac yn 2019 fe wnes i ennill yr holl bencampwriaethau, felly fe dalodd ar ei ganfed.

“Yn 2019 fe wnes i ennill bob un o’r tri thwrnamaint wnes i gystadlu ynddyn nhw. Fe gefais i chwe gornest ac ennill pob un o'r chwech, felly hon oedd fy mlwyddyn i. Ond, yn amlwg, fe darodd Covid wedyn ac felly fe gaeodd popeth.”

Dair blynedd yn unig ar ôl yr addewid hwnnw i roi popeth i’r gamp, bydd Jake nawr yn gwisgo fest goch ac yn cymysgu gyda rhai o ymladdwyr amatur gorau’r byd.

“Mae’n anhygoel cynrychioli Cymru mewn bocsio. Mae dechrau mor hwyr a dal i fyny mor gyflym yn anghredadwy.

Ond roeddwn i'n gwybod pe bawn i'n rhoi fy nghalon yn hyn y byddwn i'n cyrraedd rhywle.

“Rydw i wedi gwella cymaint. Ond heb yr holl gefnogaeth ’fyddwn i ddim yn y sefyllfa rydw i heddiw.

“Fe es i i Bencampwriaethau Ewrop ddim mor bell yn ôl ac roedd hynny’n agoriad llygad arall, ond yn brofiad da.

“Mae Chwaraeon Cymru wedi cefnogi pob un ohonon ni mor dda, rydyn ni wedi cael cymaint o brofiadau fel mynd i Tenerife i wersyll hyfforddi.

“Mae hyfforddi yn y gwres wedi bod o help mawr i ni. Mae'r bois yma i gyd yn fechgyn da, rydyn ni gyd yn ymarfer am y fedal aur yna, ac rydyn ni'n codi ein gilydd i fyny, felly mae'r lefelau wedi mynd i fyny yn gyflym!

“Mae’r gwersyll wedi bod yn galed, mae llawer o baratoi wedi bod, ond mae wedi bod yn werth chweil. Fe fyddwn ni’n bendant yn barod am seibiant ar ôl y Gemau.”