Skip to main content

Issy Morris - Sut roedd pêl-rwyd, hoci a marchogaeth yn siapio triathletwr

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Issy Morris - Sut roedd pêl-rwyd, hoci a marchogaeth yn siapio triathletwr

Mae Issy Morris wedi bod wrth ei bodd â chwaraeon erioed – unrhyw gamp – ac mae'r triathletwr o Gymru yn credu y gall yr angerdd hwnnw gyfoethogi bywyd pawb.

Bydd Morris, o Grughywel ym Mhowys, yn cystadlu dros Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham, sy'n dechrau ar 28 Gorffennaf.

Ond rhoddodd y ferch 22 oed gynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon yn ifanc ac mae'n teimlo mai ehangder y profiad a roddodd sylfaen iddi adeiladu arni.

Mae triathlon yn gofyn am ystod eang o sgiliau, ond gellir eu mwynhau fel elfennau unigol o chwaraeon - athletau, nofio a beicio ar draws pob oedran.

Mae dod â nhw at ei gilydd nid yn unig yn ehangu'r ystod honno o alluoedd, mae hefyd yn helpu i ddatblygu rhinweddau fel hunanddisgyblaeth, gwytnwch a phenderfyniad.

Dywed Issy ei bod hi'n awyddus i fwynhau chwaraeon, ond mae'n bendant bod dull cymysg a chytbwys wedi rhoi sylfaen gadarn iddi.

"Pe bawn i wedi penderfynu gwneud triathlon yn unig o oedran cynnar, byddai wedi bod yn ormod ac yn rhy ddwys," meddai.

"Rydw i'n credu'n gryf mewn peidio ag arbenigo pan rydych chi'n rhy ifanc. Rydw i'n credu bod pob camp wedi fy helpu i mewn gwahanol ffyrdd, maen nhw i gyd yn dysgu gymaint i chi ac roeddwn i'n gallu defnyddio'r hyn roeddwn i wedi'i ddysgu ar draws gwahanol chwaraeon.

"Rydych chi'n dysgu cymaint am fywyd hefyd. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o wahanol bobl o wahanol gefndiroedd sydd hefyd wedi bod yn anhygoel!”

O’r blaen, os oeddech chi’n driathletetwr byddech chi'n dechrau fel nofiwr neu redwr ac yn dysgu sgiliau beicio.

Ond i Morris, fe wnaeth hi gyfuno nofio a rhedeg yn ifanc a gwrthsefyll pwysau i arbenigo mewn un neu'r llall yn rhy fuan.

Mae'n cofio: "Yn naw oed, roedd fy hyfforddwr nofio i’n dweud bod angen i mi stopio gwneud chwaraeon eraill os oeddwn i am fod yn nofiwr.

"Rydw i’n bendant yn falch na wnes i wrando ar y cyngor hwnnw oherwydd ar y pryd mae'n debyg fy mod i'n gwneud pob camp y gallwn i ac mae hynny'n bendant wedi fy ngwneud i'r athletwr ydw i heddiw.”

Roedd gan Morris rieni cefnogol a oedd yn rhan o'i datblygiad, cyn belled ag yr oedd hynny'n ymarferol bosibl.

"Fe ddechreuais i fel nofiwr a rhedwr, ac wedyn fe ddechreuais i wneud biathlonau, ac wedyn dilyn y llwybr pentathlon.

“Doedd fy nhad ddim yn hapus iawn! Roedd o'n edrych ar gostau pump camp wahanol a cheffyl!

"Fe wnaethon ni fargeinio ychydig bach, ac fe wnes i roi cynnig ar driathlon.”

Nid bod popeth wedi mynd yn llyfn iddi yn y byd triathlon yn ystod y dyddiau cynnar hynny.

"Fe wnaethon ni gyrraedd y tro cyntaf gyda beic mynydd, nad oedd hyd yn oed yn ffitio ar y raciau, ac roedd hynny'n eithaf doniol. Wnes i ddim cystadlu hyd yn oed - dim ond gwylio gan fy mod i mor nerfus a ddim yn gwybod beth roeddwn i'n ei wneud.

"Roedd gen i siwt wlyb syrffiwr, a fyddai'n cymryd 10 munud i'w thynnu, felly rydw i'n cofio gwylio a meddwl faint roeddwn i eisiau cymryd rhan. ’Chymerodd hi ddim llawer o amser ar ôl hynny i mi roi cynnig ar fy nhriathlon cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd.”

Issy Morris yn rhedeg ar drac athletau
Issy Morris yn cystadlu mewn cystadleuaeth athletau yng Nghaerfyrddin
Yn naw oed, roedd fy hyfforddwr nofio i’n dweud bod angen i mi stopio gwneud chwaraeon eraill os oeddwn i am fod yn nofiwr. Rydw i’n bendant yn falch na wnes i wrando ar y cyngor hwnnw oherwydd ar y pryd mae'n debyg fy mod i'n gwneud pob camp y gallwn i ac mae hynny'n bendant wedi fy ngwneud i'r athletwr ydw i heddiw.
Issy Morris

Ond fe wnaeth Morris - a fydd yn cystadlu yn nhîm merched Cymru ochr yn ochr â Non Stanford ac Olivia Mathias – fwynhau amrywiaeth ehangach o chwaraeon fel merch ifanc na dim ond rhedeg, nofio a beicio.

Mae'r gyn-fyfyrwraig yng Ngholeg Crist, Aberhonddu yn dweud: "Roedd ein hysgol ni’n frwdfrydig iawn dros hoci. Pan oeddwn i yno, ni oedd pencampwyr cenedlaethol ysgolion Cymru ac rydw i'n dal i chwarae bedair gwaith yr wythnos.

"Roeddwn i'n chwarae pêl rwyd a rownderi yn yr ysgol, roeddwn i wrth fy modd gyda phêl droed ac wedyn, yn amlwg, roeddwn i'n nofio ac yn rhedeg hefyd. Roeddwn i hyd yn oed yn gwneud ychydig o farchogaeth ceffylau ac yn ceisio saethu pan oeddwn i'n gwneud pentathlon!

"Mae cymaint o bobl wedi rhoi o'u hamser i fy helpu i ym mhob un o fy nghlybiau. Mae'r bobl yng nghlwb nofio Aberhonddu, clwb Athletau Aberhonddu, clwb nofio Abertyleri a chlwb nofio Blaenau Gwent i gyd wedi bod mor anhygoel. 

“Rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw oherwydd rydw i'n gwybod nad oes unrhyw ffordd y byddwn i'n mynd i Gemau'r Gymanwlad hebddyn nhw.”

Er bod Morris wedi mwynhau llwyddiant yn ddiweddar - gan ddod yn bumed yng Nghwpan Triathlon Ewrop 2022 yn Yenişehir yn Nhwrci, ac ennill Triathlon Sbrint BUCS – nid yw pethau wedi bod mor llyfn bob amser.

"Rydw i wedi cael trafferth gyda fy iechyd ac ychydig o anafiadau, ond pan oeddwn i’n gallu, fe fyddwn i'n mynd yn syth yn ôl i chwarae hoci, oherwydd rydw i wrth fy modd.

“Pan wnes i fethu blwyddyn, roedd fy lefelau ffitrwydd i wedi mynd yn eithaf isel, felly rydw i a fy hyfforddwr Luke Watson wedi bod yn canolbwyntio ar fod yn gyson. 

"Roeddwn i eisiau rasio'n gyson y tymor yma, dal ati i hyfforddi'n gyson a bod yn ddiolchgar fy mod i'n gallu sefyll ar y llinell gychwyn, yn iach ac yn hapus.

"Rydw i'n falch o'r egwyl gan fy mod i wedi canolbwyntio cymaint ar fod yn ffit, mae gen i bersbectif newydd ar bethau erbyn hyn. Er bod chwaraeon mor bwysig i mi, nid dyna yw popeth."

Mae Morris yn rhannu ei hamser rhwng hyfforddi ac astudio ar gyfer gradd meistr mewn chwaraeon a maeth ymarfer corff ym Mhrifysgol y Santes Fair, Twickenham.

"Rydw i'n gwybod ei fod mor bwysig cael rhywbeth arall ar wahân i chwaraeon ac ar ôl yr egwyl roeddwn i'n gwybod bod angen i mi gymryd cam yn ôl weithiau. Rydw i'n mwynhau popeth nawr.”

Mae hynny'n cynnwys manteisio i'r eithaf ar Gemau'r Gymanwlad a'r cyfle i wisgo fest goch am y tro cyntaf.

"Mae'n mynd i fod yn brofiad gwych rasio yn erbyn rhai o'r goreuon yn y byd. Fe fyddaf yn bendant yn gwneud fy ngorau glas, ond y peth allweddol yw fy mod i’n ei fwynhau gymaint ag y gallaf ac yn amsugno'r profiad.

"Mae'n anhygoel ac fel athletwr dydych chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Gobeithio ddim, ond gallai hwn fod y tro cyntaf a’r tro olaf i mi gystadlu yn y Gemau, felly mae angen i mi wneud y gorau ohono go iawn.

"Fel merch fach rydych chi bob amser yn clywed am Gemau'r Gymanwlad ac mae cynrychioli Cymru yn anghredadwy. Rydyn ni'n genedl mor falch. Rydw i'n gwireddu breuddwyd.

"Mae gennym ni dîm cyffrous a chryf ac rydw i'n credu bod gennym ni gyfle da yn Birmingham.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy