Skip to main content

Y rhedwr a'r nofiwr uchelgeisiol a ddaeth yn Right Hand Rosie

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y rhedwr a'r nofiwr uchelgeisiol a ddaeth yn Right Hand Rosie

Yn ferch fach, arferai pencampwraig y Gymanwlad, Rosie Eccles, dynnu lluniau ohoni ei hun gyda medalau aur o amgylch ei gwddw.

Ond nid am focsio, y gamp mae hi newydd ddringo i frig y podiwm ynddi yn Birmingham, oedd hi yn eu hennill

"Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i’n tynnu lluniau ohono i fy hun fel Olympiad, yn rhedeg ac yn nofio. Wnaeth e ddim cweit digwydd, ond dyna beth roeddwn i eisiau bod," meddai Rosie, sydd wedi cael y llysenw Right Hand Rosie am bŵer ergyd ei llaw dde.

"Roeddwn i'n arfer caru rhedeg a nofio yn fy nghlwb lleol yng Nghas-gwent. Roeddwn i bob amser yn rhedeg, yn yr ysgol roeddwn i'n arfer gwneud y rhedeg traws gwlad drwy'r amser.

“Ond wedyn fe ges i fy anafu pan o’n i tua 12 oed. Roeddwn i mewn ras a wnes i ddim gweld y tro.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i wedi ei wneud ar y pryd, roedd y cyfan ychydig yn wahanol bryd hynny, ond roeddwn i wedi anafu rhyw fath o ligament yn fy mhen-glin.

"Doeddwn i ddim yn gallu rhedeg wedyn nes oeddwn i tua 15 oed. Roeddwn i'n gwneud athletau yn yr ysgol, ond roeddwn i’n blino yn hawdd iawn. Felly, roedd yn dair blynedd o ddim llawer o chwaraeon."

Daeth colled athletau a nofio yn ennill i focsio.

Ddegawd ar ôl rhoi cynnig ar focsio am y tro cyntaf yn 16 oed, Eccles bellach yw pencampwraig pwysau canol ysgafn merched y Gymanwlad - yr ail focswraig fenywaidd yn unig o Gymru i ennill medal aur y Gymanwlad ar ôl Lauren Price.

Ond mae'n dweud bod ei chwilfrydedd i roi cynnig ar wahanol chwaraeon - sicrhau ffitrwydd a chydsymudiad cyffredinol mewn amrywiaeth o wahanol sgiliau - wedi rhoi sylfaen ardderchog iddi, ar gyfer chwaraeon ac ar gyfer bywyd.

“Fe es i i ddosbarth bocsio pan oeddwn i’n 16 oed, felly dyna sut dechreuodd y cyfan. Yn blentyn, fy mreuddwyd i oedd bod yn Olympiad.

“Mae'n rhaid mai Gemau Olympaidd 2008 yn Beijing oedden nhw. Rydw i'n cofio gwylio Mo Farah, fe fyddwn i o flaen y teledu yn gwylio'r holl chwaraeon. Roeddwn i yr un fath yn 2012.

“Er mai fy mreuddwyd i oedd rhedeg, ac roeddwn i’n eithaf da, nid dyna’r gamp i mi.

“Pan wnes i gamu i’r cylch bocsio yn 15 oed, dim ond dosbarth bocsymarfer oedd e yng Nghil-y-coed. Roeddwn i’n ffodus iawn fy mod i wedi cwrdd â'r hyfforddwr, Paul Maloney.

"Pan welodd e fi, fe ddaeth draw a gofyn a oeddwn i erioed wedi gwneud hyn o'r blaen. Fe ddywedodd wrtha’ i am ddod i lawr i'r gampfa yn y boreau pan oeddwn i’n 16 oed.

Rosie Eccles sy'n dal Draig Goch Cymru gyda'i medal aur am ei gwddf.
Rosie Eccles yn dathlu llwyddiant ei medal aur gyda Y Ddraig Goch o Gymru.
Roeddwn i'n arfer caru rhedeg a nofio yn fy nghlwb lleol yng Nghas-gwent. Roeddwn i bob amser yn rhedeg, yn yr ysgol roeddwn i'n arfer gwneud y rhedeg traws gwlad drwy'r amser.
Rosie Eccles

“Fe brynais i foped bach pan oeddwn i’n 16 oed ac fe fyddwn i’n sleifio allan o’r tŷ am dri o’r gloch y bore.

“Fe fyddwn i’n ei gerdded i lawr y ffordd, fel bod neb yn gallu ei glywed yn dechrau, ac wedyn fe fyddwn i’n reidio i Gasnewydd ar y moped ar gyflymder o 50mya. Fe fyddwn i’n cyrraedd y gampfa am tua phump o’r gloch y bore. Fe fyddwn i’n hyfforddi am awr a hanner.

"Wedyn, fe fyddwn i'n cyrraedd yn ôl i'r tŷ am tua 10 munud cyn i bawb godi. Fe wnes i hynny am ryw dri mis cyn cael fy nal.

“Roedd rhywfaint o wthio’n ôl gan fy rhieni, oherwydd y gamp, ond roedden nhw’n gwybod y byddwn i’n ei wneud beth bynnag.”

Yn y diwedd, cytunodd rhieni Rosie i adael iddi barhau i focsio yn y gampfa, ond ar amser mwy addas o'r dydd na'i thripiau cyfrinachol yng nghanol y nos.

“Fe es i i gampfa leol yng Nghas-gwent, ond hyd yn oed bryd hynny roedd yn anodd gan nad oedden nhw’n fodlon hyfforddi merched ar y pryd.

"Y peth yw, roedd 10 mlynedd yn ôl mor wahanol. Roeddwn i eisiau chwarae rygbi gyda fy mrawd, ond roedd llawer o wthio'n ôl bryd hynny.

“Diolch byth, mae’r amseroedd yn newid mor gyflym. Yn fenyw mewn chwaraeon mae'n rhaid i chi ennill eich hawl, mae'n rhaid i chi ei wneud e drwy wneud pethau cadarnhaol, bod yn dda, peidio â chwyno a dal ati, ond mae cyfleoedd.”

Roedd pŵer llaw dde Rosie yn ei ddyddiau cynnar bryd hynny, ond roedd ei goruchafiaeth yn ei rownd derfynol yn Birmingham, yn erbyn Kaye Frances Scott o Awstralia, yn un o’r arddangosfeydd bocsio mwyaf trawiadol yn y twrnamaint cyfan.

“Ar ôl i mi ddarganfod mai fy mhŵer i oedd glanio, fe wnes i feddwl, ‘mae’n rhaid mynd amdani.’ Roeddwn i’n barod. Roedd yn rhaid iddo fod nawr. ’Allwn i ddim byw gyda fi fy hun heb sicrhau'r fedal aur.

“Roedd clywed yr anthem yn gwneud y brwydrau, yr holl ymdrech, mor werth chweil.

"Mae rhywbeth gwahanol am Gemau'r Gymanwlad, gallu cynrychioli Cymru, mae'n cynnig rhywbeth gwahanol. Mae'n wych.

"Dydw i ddim wir yn gwybod beth sy'n dod nesaf. Dydw i ddim eisiau edrych yn rhy bell ymlaen."

"Ond rydw i wedi bod yn astudio ochr yn ochr â'r bocsio. Mae gen i radd a gradd meistr mewn chwaraeon a seicoleg chwaraeon.

“Rydw i wastad wedi bod eisiau bod yn rhan o chwaraeon elitaidd. Am y tro, mae'n rhaid i mi feddwl am focsio. Mae’n rhy frawychus meddwl am y dyfodol ar hyn o bryd ac mae’r gamp yn cymryd llawer iawn o ymdrech, ond fe ddaw amser.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy