Skip to main content

Targed Medalau?....“Does gennym ni ddim un”

“Mae’n rhaid eich bod chi’n wallgof.”

“Does dim ots gennych chi am ennill mae’n amlwg.”

“Mae pawb yn gosod targed medalau.”

Dyma rai o’r ymatebion rydw i’n dueddol o’u cael wrth rannu gyda phobl nad yw Chwaraeon Cymru yn gosod targed medalau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

Ond rydyn ni'n gyfforddus i beidio â gwneud yr un peth â phawb arall. Ac fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried gosod targed medalau iddo ef neu hi ei hun (neu i eraill) i ofyn dau gwestiwn iddyn nhw eu hunain cyn gwneud hynny.

Yn gyntaf, faint o athletwyr sy'n mynd i'r gemau yn ceisio PEIDIO ag ennill? Ac, felly, beth mae targed medalau’n ei ychwanegu at amgylchedd lle mae’r cymhelliant cynhenid ​​​​yn anhygoel o uchel?

 

Yn ail, ydych chi'n meddwl mai llwyddiant medalau yw'r UNIG reswm dros ymgymryd â datblygiad athletwyr? Os mai ydw yw eich ateb i'r ail gwestiwn, mae'n debyg nad oes lle i chi yn y system chwaraeon rydyn ni'n ceisio ei meithrin yng Nghymru. Byddwn yn gadael i athletwyr a’u timau cefnogi ganolbwyntio ar helpu athletwyr i fod y fersiwn gorau ohonyn nhw eu hunain. Oherwydd dyma'r ffordd i roi'r cyfle gorau iddyn nhw ennill.

Rydyn ni’n credu y dylai ennill medalau fod yn UN o ganlyniadau datblygiad athletwyr rhagorol – ond nid yn sbardun iddo. Rydyn ni eisiau ennill, a gellir defnyddio nifer y medalau rydyn ni’n eu hennill fel dangosydd da o gyflwr cyffredinol y system berfformiad yng Nghymru. Ond mae gosod targed yn ein hatal ni rhag meddwl ac yn eithrio manteision dymunol eraill datblygiad athletwyr.

Beth mae hynny'n ei olygu i atebolrwydd? Wel, mae'n golygu ein bod ni’n helpu ein partneriaid i roi cyfrif am y pethau y gallan’ nhw eu harwain a dylanwadu arnyn nhw – ansawdd eu rhaglenni datblygu athletwyr; yr amgylcheddau maen nhw’n eu creu; sut maen nhw’n cofnodi profiadau athletwyr ac yn gwella rhaglenni yn unol â hynny; sut maen nhw’n sicrhau y gall rhaglenni datblygu athletwyr ddiwallu anghenion grŵp mwy amrywiol o athletwyr. Mae’r ffocws yma yn well yn hytrach na’u dal yn atebol am darged medalau sydd, mewn gwirionedd, allan o’u rheolaeth.

Mae’n rhywbeth rydyn ni’n dechrau canolbwyntio mwy arno. Mae’n rhywbeth rydyn ni eisiau ei archwilio y tu hwnt i lefel perfformiad chwaraeon. Rydyn ni eisiau edrych ar addasu’r system chwaraeon gyfan yng Nghymru fel bod pob person yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan a datblygu i’w lawn botensial. Ond yn fwy na hyn, rydyn ni eisiau creu’r amgylcheddau cywir fel bod pob person yn cael profiad pleserus sy’n addas i’w anghenion ar bob cam o’i siwrnai, boed yn glwb cymunedol neu’n hyfforddiant ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Mae'n swnio'n syml, ond mae'n mynd i ofyn am newid yn y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau. Dydi hyn ddim yn mynd i ddigwydd dros nos ac nid yw’n rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud ar ei ben ei hun ond, os byddwn ni’n ei wneud yn iawn, ni fydd targedau medalau yn ystyriaeth hyd yn oed.

Owen Lewis yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y System Chwaraeon, Strategaeth a Gwasanaethau yn Chwaraeon Cymru, ac mae'n gyfrifol am wasanaethau a systemau athletwyr.