Skip to main content

Rhys Jones - Y rhedwr gweddol a’r nofiwr gwael roddodd gynnig ar driathlon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rhys Jones - Y rhedwr gweddol a’r nofiwr gwael roddodd gynnig ar driathlon

Os oes arnoch chi angen ysbrydoliaeth i brofi nad ydi hi byth yn rhy hwyr i wella eich ffitrwydd a’ch gweithgarwch, gwrandewch ar stori Rhys Jones.

Lai na thair blynedd yn ôl, roedd Jones yn rhedwr cyffredin 39 oed ac yn nofiwr ofnadwy yn ôl ei gyfaddefiad ei hun gyda’i olwg yn dirywio.

Nawr, mae’n mynd i Gemau’r Gymanwlad i gystadlu dros Gymru fel paratriathletwr yn Birmingham.

Aeth Jones - sy'n llwyddo i gyfuno ei hyfforddiant a chystadlu â gweithio fel seiciatrydd ymgynghorol yn Leeds - ar ei feic a gweithiodd yn galed i wella ei feicio a’i redeg a dysgu nofio o’r newydd unwaith eto.

Roedd ei wylio’n mynd ar wib ar hyd llwybr yr arfordir yn Llanelli mewn digwyddiad Cyfres Uwch Triathlon Prydain yn ddiweddar – gan osgoi bolardiau a chyrbiau concrid yn fedrus gyda help ei dywysydd Rhys James – fel gwylio archarwr canol oed.

Cnociodd funud neu ddau oddi ar ei amser gorau blaenorol a dyddiau yn ddiweddarach, cadarnhawyd ei le yng ngharfan Tîm Cymru ar gyfer y Gemau, lle bydd yn gwisgo fest goch Cymru am y tro cyntaf yn ei fywyd yn 42 oed.

“Fe ddes i at driathlon drwy ddigwyddiad adnabod talent,” meddai Rhys, sy’n dioddef o gyflwr golwg o’r enw dystroffi côn.

“Dim ond rhedwr amatur oeddwn i cyn hynny mewn gwirionedd, er fy mod i wedi chwarae pêl droed a phêl fasged pan oeddwn i’n iau.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau rhedeg ond doeddwn i erioed wedi ystyried triathlon tan i mi fynd i’r digwyddiad talent yma. Fe wnaethon nhw awgrymu fy mod i’n rhoi cynnig arni, felly fe wnaethon nhw fy rhoi i ar feic Watt ac roeddwn i'n eithaf da.

“Fe wnaethon nhw ofyn, ‘Alli di nofio?’ Ac fe atebais i, na.

“Felly, fe wnaethon nhw ddweud wrtha i ei bod yn well i mi fynd i ddysgu a dyna wnes i ar siwrnai hir a phoenus. Nawr, mae gwelliannau i’w gwneud o hyd, ond mae'n dod o'r diwedd.

“Roeddwn i’n 39 oed pan ddechreuais i. Rydw i'n 42 nawr.

“Weithiau, rydw i’n teimlo’n 42. Weithiau, dydw i ddim.”

Weithiau mae paratriathletwyr eraill yn gallu cadw i fyny gyda Peter Pan y gamp. Weithiau dydyn nhw ddim.

Y llynedd - yn ei dymor llawn cyntaf yn cystadlu ar lefel ryngwladol - fe orffennodd yn 10fed ym Mhencampwriaethau Ewrop ac wedyn cipio efydd arloesol yng Nghwpan y Byd yn Alhandra, ym Mhortiwgal ym mis Hydref.

“Pan wnes i ddechrau cymryd rhan mewn para-triathlon, roedd yn achos o roi cynnig arni a gweld sut oedd pethau’n mynd,” ychwanegodd Rhys, sydd ag arbenigedd meddygol ym maes anhwylderau bwyta.

“Fe fues i’n llwyddiannus mewn rhai rasys a meddwl y byddwn i’n ymrwymo i’r gamp. 

“Mae fy ngwaith i wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi dweud wrtha i am fynd amdani. Felly, rydw i ar seibiant gyrfa ar hyn o bryd.”

Rhys Jones yn cystadlu mewn paratriathlon ar gefn beic tandem gwyrdd gyda'i dywysydd, Rhys James ar y blaen
Rhys Jones yn seiclo yn y paratriathlon ar gefn beic tandem gyda'i dywysydd, Rhys James ar y blaen
Dim ond rhedwr amatur oeddwn i cyn hynny mewn gwirionedd, er fy mod i wedi chwarae pêl droed a phêl fasged pan oeddwn i’n iau. Roeddwn i wastad wedi mwynhau rhedeg ond doeddwn i erioed wedi ystyried triathlon tan i mi fynd i’r digwyddiad talent yma.
Rhys Jones

Fel pob para-athletwr ag anawsterau golwg, mae Rhys yn dibynnu'n fawr ar ei dywysydd, Rhys James, am help allan ar y cwrs.

Mae James hefyd yn driathletwr o safon uchel ac mae eu cysylltiad yn seiliedig ar ymddiriedaeth, cyfathrebu medrus, a chyflymder mae’r ddau yn cytuno arno drwy gydol y ras.

Ac felly, mae Rhys - sy'n dioddef mwy mewn heulwen lachar nag y mae ar ddiwrnodau llwyd gyda gorchudd o gymylau - wedi mynd o fod yn nofiwr blêr ond brwdfrydig yn y dŵr i fod yn athletwr rhyngwladol effeithlon.

“Rydw i wedi cael cwpl o dywyswyr yn ystod yr amser byr rydw i wedi bod yn cystadlu. Mae Rhys a minnau wedi bod yn rasio gyda’n gilydd fel tîm am y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’n ymdrech dîm wirioneddol. Po fwyaf rydych chi'n rasio gyda'ch gilydd, y gorau yw'r cyfathrebu. Mae'n digwydd.

“Rydych chi'n dibynnu ar eich tywysydd. Pan fyddwch chi'n gwneud y cynhesu, rydych chi'n dod i adnabod y cwrs. Rydw i'n cofio ble mae'r holl beryglon posib.

“Bolardiau, cyrbiau a thyllau yn y ffordd yw'r pethau rydych chi'n cadw llygad amdanyn nhw. 

“Pethau a allai neidio allan atoch chi oherwydd bod y cyhoedd yno hefyd. Mae'n rhaid i chi gadw llygad am hynny i gyd ac mae'r tywysydd yno i roi rhybudd i chi.

“Golau llachar sy’n creu trafferth mawr i mi, felly fe all hynny fod yn anodd iawn.

“Mae gen i glefyd dirywiol ar y retina. Rydw i wedi bod â golwg gwael erioed, ond heb waethygu mewn gwirionedd tan fy nhridegau cynnar.

“Fe gymerodd dipyn o amser i mi dderbyn y cysyniad bod gen i anabledd. Ond unwaith i mi wneud hynny, fe awgrymodd fy hyfforddwr i a fy nghlwb rhedeg fy mod i’n rhoi cynnig ar un o'r digwyddiadau adnabod talent yma.

“Doedd e ddim wedi croesi fy meddwl i cyn hynny.

“Fe wnaeth agor byd cyfan, enfawr i mi o chwaraeon anabledd. Pan mae un drws yn cau, mae un arall yn agor. Mae'n rhaid i chi chwilio amdanyn nhw."

Bellach, lai na thair blynedd ers i’r drws hwnnw agor, bydd Rhys yn cario gobeithion Cymru yn Birmingham diolch i’w gefndir teuluol yng Nghaernarfon.

Wedi’i eni yn UDA, cafodd ei fagu yn Swydd Efrog ond dywed: “Mae fy nheulu i gyd yn Gymry. Er nad ydw i erioed wedi byw yma, rydw i wastad wedi teimlo fel Cymro.

“Fe gefais i fy narbwyllo yn blentyn mai Cymro ydw i, dim ots ble roeddwn i’n byw! Rydw i yr un fath gyda fy mhlant i hefyd. Fe fyddan nhw i gyd yn cystadlu dros Gymru. ’Fydd ganddyn nhw ddim dewis!

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf.

“Hwn fydd y tro cyntaf i mi gystadlu dros Gymru. Mae bob amser wedi bod yn nod i mi gydol fy oes - cynrychioli fy ngwlad.

“Bydd rasio dros Gymru yn teimlo’n arbennig iawn, o ystyried fy holl gysylltiadau teuluol. Gydag enw fel Rhys Jones, does dim un wlad arall rydw i eisiau ei chynrychioli.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy