Skip to main content

Cyllid yn gwneud ei farc ar lwybr y Baton

Bydd ymweliadau â chlybiau chwaraeon sydd wedi elwa o gyllid Chwaraeon Cymru ar hyd llwybr Taith Gyfnewid Baton y Frenhines wrth iddo deithio drwy Gymru.

Mae 66 o glybiau a chyfleusterau ar hyd y llwybr wedi elwa o’n cynlluniau a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a bydd pump o’r prosiectau hynny’n croesawu Baton y Frenhines.

Bydd y Baton yn cyrraedd glannau Cymru ar Ynys Môn ar y 29ain o Fehefin ac yn teithio o’r gogledd, ar hyd arfordir y gorllewin i’r de ddwyrain dros 5 diwrnod.

Players playing football on a 3G pitch

 

Ar ddiwrnod 1 bydd tref Caergybi yn croesawu Baton y Frenhines i Gymru a bydd yn ymweld â dau leoliad chwaraeon sydd wedi derbyn cyllid gan Chwaraeon Cymru.

Y Parc – Cae 3G Parc Caergybi 

Un o'r rheiny fydd y cae 3G aml-chwaraeon ym Mharc Caergybi. Diolch i’r Loteri Genedlaethol, cyllidodd Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol Cymru (CBDC, Hoci Cymru, URC a Chwaraeon Cymru) y gwaith o greu cae 3G cyntaf erioed Caergybi.

Trawsnewidiwyd hen gyrtiau tennis yn gyfleuster pob tywydd, gyda phadiau sioc yn gwneud y cae yn addas ar gyfer rygbi a phêl droed.

Dywedodd Robert Henderson o Gyngor Tref Caergybi “Ers agor y cae ym mis Awst 2021, mae defnydd helaeth wedi bod ac mae clybiau chwaraeon a busnesau lleol yn ei archebu’n rheolaidd.

Gyda'r cyfleuster y cyntaf o'i fath yng Nghaergybi, mae wedi cael croeso da a'i ddefnyddio gan y gymuned. Mae timau pêl droed a hyfforddwyr un i un wedi elwa i gyd o’r prosiectau sydd wedi’u cynnal yn Y Parc.”

Bydd amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon gwahanol yn cael eu cynnal pan fydd cludwyr y Baton yn ymweld.

Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn (HAWFC)

Yn nes ymlaen yn ystod y dydd, bydd y baton yn teithio i HAWFC – cyfleuster yn llawn hanes Gemau’r Gymanwlad – lle bydd cystadleuaeth codi pwysau. Mae’r clwb 54 oed wedi cynhyrchu enillwyr medalau codi pwysau’r Gymanwlad ers i’w sylfaenydd Bob Wrench ennill efydd yn 1974.

Gallai eu gwaddol o Gemau’r Gymanwlad barhau eleni yn Birmingham, gyda Hannah Powell yn cystadlu dros Dîm Cymru. Ymhlith enillwyr medalau blaenorol HAWFC mae Hyfforddwr Cenedlaethol Cymru, Ray Williams (Aur 1986), Karl Jones (Arian 1990) a Gareth Evans (Aur 2018).

Bydd cyllid gan Chwaraeon Cymru ar gyfer uwchraddio’r ganolfan boblogaidd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o athletwyr yn gallu dilyn yn ôl traed enillwyr medalau’r clwb, ac yn sefydlu HAWFC ymhellach yn hanes Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru.

Ski4All Cymru – Parc Gwledig Pen-bre

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi sgïo ym Mharc Gwledig Pen-bre? Ar drydydd diwrnod taith gyfnewid Baton y Frenhines yng Nghymru, bydd y Baton yn cael ei sgïo i fyny ac i lawr llethr sgïo sych Pen-bre gan aelodau o Ski4All Cymru.

Mae Ski4All Cymru yn glwb sgïo addasol ar gyfer oedolion ag anableddau corfforol, gweledol a niwrolegol sydd wedi'i leoli ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Bethan Drinkall yn Ski4All Cymru: “Mae ein clwb yn galluogi sgïwyr ag anghenion ychwanegol i gael y rhyddid i fwynhau manteision camp mor eithafol. Mae'n hwyluso lles meddyliol a chorfforol, hwyl a chyfeillgarwch.

Rydyn ni wedi gwahodd ein sgïwyr i ymuno â ni ar Orffennaf 1af i alluogi i’n holl aelodau gymryd rhan yn y digwyddiad nodedig yma.”

Rhoddwyd grant Cronfa Cymru Actif o £1500 i’r clwb i brynu weips, masgiau, menig, jel gwrth-facteria ac offer glanhau arall yn ystod y pandemig.

Ni fyddai Ski4All Cymru wedi gallu ailagor a pharhau â’i waith anhygoel heb y gefnogaeth hon gan y Loteri Genedlaethol.

Clwb Bechgyn a Merched Cambrian a Chwm Clydach – Cae y Brenin Siôr

Bydd y baton yn teithio drwy Rondda Cynon Taf ar y pedwerydd diwrnod, gan ymweld â chlwb pêl droed wrth galon ei gymuned - Clwb Bechgyn a Merched Cambrian a Chwm Clydach.

Gydag 11 o dimau o Dan 7 hyd at Dan 16 ac academi, rhoddwyd grant Cronfa Cymru Actif o bron i £3,000 i’r clwb i’w helpu i ddenu pobl ifanc yn ôl at y gêm yn ystod y pandemig.

Bydd gwahanol weithgareddau chwaraeon yn cael eu cynnal i gynnwys y plant lleol ar gae a thrac athletau Brenin Siôr V, sydd wedi’i gyllido gan gyngor RhCT, pan fydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn cyrraedd Cwm Clydach.

Pêl Foli Traeth Caerdydd – Parc Fictoria 

Ar bumed diwrnod, a diwrnod olaf, Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yng Nghymru, bydd y Baton yn cyrraedd traeth heb fod ar yr arfordir yng nghanol Parc Fictoria.

Mae Parc Fictoria bellach yn gartref i un o chwaraeon mwyaf newydd Gemau’r Gymanwlad – pêl foli traeth. Mae Clwb Pêl Foli Traeth Caerdydd yn falch o fod â chwe chwrt o dywod euraidd, gan alluogi’r gymuned leol i roi cynnig ar y gamp yn ogystal â chadw’n heini ac yn actif.

Dywedodd Carl Harwood o Glwb Pêl Foli Traeth Caerdydd: “Mae cael ein dewis fel yr unig leoliad y bydd y Baton yn ymweld ag ef yng Nghaerdydd yn anrhydedd fawr i ni. Yn enwedig o ystyried bod pobl wedi chwerthin ar ein pen pan wnaethon ni feddwl i ddechrau am y syniad o sefydlu canolfan pêl foli mewn parc.

Y clwb yw’r unig un o’i fath yn y DU – mae’n dod â champ nad yw fel rheol yn hygyrch yn fwy hygyrch i bawb. Ein nod ni erioed fu darparu lleoliad unigryw yn y DU lle gall pêl foli traeth gael ei chwarae gan bob gallu, rhywedd a grŵp oedran.

Mae ein plant iau ni wedi cynyddu ddeg gwaith ers i ni ddechrau, ac mae gennym ni bellach blant sy’n cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau cenedlaethol ledled y DU.”

Pan gafodd y clwb ei ddifrodi gan stormydd yn gynharach eleni, fe wnaeth Pêl Foli Traeth Caerdydd gais am arian brys gan Chwaraeon Cymru. Cawsant grant o £2,500 i sicrhau bod y ganolfan pêl foli yn ddiogel i'w chwaraewyr ei defnyddio.

Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n ein galluogi ni i greu cyllid, fel Cronfa Cymru Actif, ar gyfer clybiau cymunedol a chyfleusterau chwaraeon ledled Cymru.