Skip to main content

Sbotolau Partner: Y Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon

Mae’r Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon (BSA) yn y “cyfnod gwrando” o’u datblygiad o hyd yng Nghymru, ond yn anelu at fod yn rym gweithredol yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn y dyfodol agos iawn.

Wedi'i lansio ddwy flynedd a hanner yn ôl yn unig - ac ar adeg cyfnodau clo cyntaf Covid - mae'r BSA wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth mewn cyfranogiad dŵr yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o nofio fel sgil achub bywyd.

Mae eu heffaith yn y cyfnod byr hwnnw eisoes wedi’i gydnabod, gyda’r BSA ar y rhestr fer fel un o 17 o brosiectau ledled y DU i gael eu henwebu ar gyfer gwobr ‘Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol’ ar gyfer 2022.

Mae'r BSA wedi ffurfio partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru, yn ogystal â Nofio Cymru, i helpu i gyflawni eu nod o wneud nofio yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd. Mae eu rheolwr rhaglen a benodwyd yn ddiweddar, Steph Makuvise, yn awyddus i fod yn weithredol yng Nghymru, ond ni fydd hynny ar draul anwybyddu ymchwil hanfodol sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

“Rydyn ni dal mewn cyfnod gwrando a deall yng Nghymru,” meddai Steph, a ddechreuodd yn ei rôl newydd ddeufis yn ôl ar ôl gweithio gynt gyda sefydliad Triathlon Cymru.

“Rydyn ni’n ceisio darganfod beth sy’n digwydd yma o ran gweithgarwch dŵr a ble gallwn ni fel sefydliad fod yn rhan o hynny.

“Rydyn ni eisiau gweithio gyda sefydliadau a chyrff rheoli eraill. Dydyn ni ddim eisiau dod i mewn a cheisio cymryd yr awenau.”

Ar hyn o bryd, felly, mae hynny’n golygu edrych ar y niferoedd yn yr ymchwil cyfredol ac wedyn siapio rhaglen gyflwyno a all wneud gwahaniaeth o ran sicrhau bod nofio – a’r sgiliau bywyd gwerthfawr sy’n dod yn ei sgîl – yn weithgaredd sy’n agored ac yn hygyrch i bob cymuned.

Mae'r ymchwil sydd wedi’i wneud gan y BSA yn Lloegr, yn ogystal ag yn flaenorol gan Sport England, yn awgrymu nad yw nofio yn weithgaredd y gellid ei ddisgrifio fel gweithgaredd amrywiol.

Er bod y ffigurau cyffredinol ar gyfer plant ysgol wedi dangos nad yw 50 y cant ohonynt yn nofio, mae’r ffigur hwnnw’n codi i 80 y cant ar gyfer plant ysgol o dreftadaeth ddu ac Asiaidd.

Mae anghysondeb tebyg ymhlith oedolion lle mae nifer y rhai nad ydynt yn nofio o gefndir du ac Asiaidd mor uchel â 95 y cant.

Gall hynny arwain at ganlyniadau bywyd real i bobl sy’n byw ger dŵr neu’n ymweld â’r arfordir.

“Rydyn ni’n gweld llawer o bobl ifanc o gefndiroedd du ac Asiaidd sy’n boddi,” ychwanegodd Steph.

“Un o’n nodau ni yw lleihau’r achosion o foddi 20 y cant erbyn 2024. Rydyn ni wedi nodi bod problem yn amlwg ac rydyn ni eisiau newid y tirlun.

“Rydyn ni eisiau mynd â phobl ar siwrnai o addysg diogelwch dŵr, gan helpu i feithrin hyder mewn dŵr a goresgyn ofn o ddŵr os yw’n bodoli. Mae’r rhain yn broblemau go iawn yn ogystal â’r rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd a allai fodoli eisoes sy’n atal pobl rhag nofio.”

Un o'r grwpiau y mae'r BSA wedi cysylltu ag ef eisoes yn Lloegr, ac y bydd yn ceisio cysylltu ag ef yng Nghymru cyn bo hir, yw Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

Mae ymgyrch ddiogelwch FLOAT to Live yr RNLI, sy’n dysgu unrhyw un sydd mewn trafferthion yn y dŵr i ymlacio a phwyso’n ôl i adennill rheolaeth ar eu hanadl, eisoes wedi bod yn hynod lwyddiannus.

Nawr, mae’r BSA yn gobeithio y gall cydweithio pellach gyda’r RNLI mewn rhaglenni cymunedol penodol leihau nifer y achosion o foddi mewn ymgyrch o’r enw ‘Together We Can’.

“Un o’n prif sbardunau yw gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn gwybod am y cod diogelwch dŵr,” ychwanegodd Steph, a gafodd ei magu yn Zimbabwe ac a ddysgodd nofio yn ifanc iawn yn ôl dymuniad ei rhieni. “Nofio ydi’r unig gamp a all achub eich bywyd chi.”

Hefyd mae'r BSA yn tynnu sylw at ddiffyg amlwg o ffigurau amrywiol o ran athrawon nofio, hyfforddwyr, achubwyr bywyd a staff cyrff rheoli. Eu nod yw gwella'r amrywiaeth honno 25 y cant o leiaf.

Fel camp gystadleuol, prin yw’r adegau pan ddaw nofwyr du i’r amlwg, ond y gobaith yw y bydd ymddangosiad nofwraig Olympaidd enwog Prydain Fawr, Alice Dearing – un o gyd-sylfaenwyr y BSA – yn darparu ffocws ar gyfer newid.

“Does dim llawer o fodelau rôl, felly rydyn ni eisiau i fwy o bobl fod yno i ysbrydoli,” meddai Steph.

“Ar ddiwedd y dydd, mae gennym ni’r un nod a’r un genhadaeth â’r cyrff rheoli, sef cael mwy o bobl i fod yn actif, drwy nofio, a chadw mwy o bobl yn ddiogel yn y dŵr.”

Penderfynir ar wobr Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol drwy bleidlais gyhoeddus. Ewch i dudalen we Gwobrau’r Loteri Genedlaethol www.lotterygoodcauses.org.uk/awards i ddarganfod mwy neu ddefnyddio’r hashnod Twitter #NLABlackSwimmingAssociation i bleidleisio dros y Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon. Mae'r pleidleisio yn cau am 5pm ar Hydref 12fed.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy