Skip to main content

3 ffordd y gall cyllid Chwaraeon Cymru helpu clybiau hoci yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 3 ffordd y gall cyllid Chwaraeon Cymru helpu clybiau hoci yng Nghymru

Wrth gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed rhwng 13 a 29 Ionawr, mae datblygiad tîm hoci dynion Cymru o fod yn nhrydedd haen hoci Ewrop i fod ar y brig wedi bod yn dipyn o stori dylwyth teg yn y byd chwaraeon.

Gyda llygaid pawb ar India y mis yma, mae dynion Cymru yn parhau i roi o’u gorau yn eu gemau grŵp yn erbyn timau sydd ymhlith deg gorau’r byd, Lloegr, Sbaen a’r wlad sy’n cynnal y twrnamaint.

A gartref, mae clybiau hoci ledled Cymru yn gwireddu eu breuddwydion eu hunain, diolch i gyllid Chwaraeon Cymru.

Sefydlwyd Cronfa Cymru Actif yn 2020 ac ers hynny mae swm aruthrol o £76,642 o arian y Loteri Genedlaethol wedi’i ddyfarnu i 43 o glybiau hoci ledled y wlad.

Felly, wrth i ni gefnogi dynion Cymru, gadewch i ni hefyd edrych ar dair ffordd y gall cyllid Chwaraeon Cymru roi help llaw i’ch clwb hoci chi.

Plant yn chwarae hoci ar gae 3G
Sefydlwyd Hoci'r Waun fel clwb am y tro cyntaf, diolch i chyllid y Loteri Genedlaethol

Cyllid ar gyfer llogi lleoliad 

Mae pob un ohonom ni angen llefydd i chwarae, does? Ac rydyn ni'n gwybod y gall y gost o logi lleoliad fod yn ddrud iawn. Dyna pam rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod clybiau sy’n dechrau o’r newydd yn gallu gwneud cais i Gronfa Cymru Actif i helpu i dalu cost archebu lleoliad am ddeg wythnos.

A dyna’n union wnaeth Hoci’r Waun pan gafodd ei sefydlu fel clwb am y tro cyntaf ac adeiladu ei sesiynau ar gyfer plant iau, pobl ag anableddau a phobl hŷn hefyd.

Felly os ydych chi'n glwb newydd neu'n sefydlu tîm newydd, ewch amdani! Gwnewch gais heddiw!

Cyllid ar gyfer offer

Rydyn ni’n deall y gall cit fod yn ddrud a dyna pam rydyn ni wedi’i gwneud yn genhadaeth i helpu clybiau a grwpiau ledled Cymru. Boed yn gonau, ffyn hoci neu goliau, mae Cronfa Cymru Actif wrth law i helpu i dalu am offer.

Fe roddwyd £3,703 i Glwb Hoci Llaneurgain i brynu offer gwarchodol, offer hyfforddi a hyd yn oed cynhwysydd storio i'w cadw nhw ynddo. Mae'r grant wedi helpu'r clwb i annog mwy o bobl i gydio mewn ffyn a mynd ar y cae drwy wneud y gamp yn fwy fforddiadwy. Ac ar ben hynny, mae hoci yn Llaneurgain yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg ac yn Saesneg! Da iawn bawb!

Rydyn ni hefyd wrth ein bodd yn eich helpu chi i gyllido offer fel bod clybiau’n gallu cynnig sesiynau cynhwysol. Fe wnaeth Hoci’r Waun gais hefyd am brynu ffyn hoci ysgafnach a pheli i gynnal sesiynau hoci cerdded - ac wrth gwrs fe wnaethon ni ddweud iawn!

Cyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddi 

Hyfforddwyr, swyddogion a swyddogion cymorth cyntaf yw asgwrn cefn unrhyw glwb hoci – ac mae cyrsiau hyfforddi a datblygu hyfforddwyr yn hynod bwysig. Drwy hyfforddi pobl ychwanegol fe allwch chi gynnal sesiynau ychwanegol, timau ychwanegol a gemau ychwanegol.

Dyna pam mae Cronfa Cymru Actif yn croesawu ceisiadau ar gyfer datblygu hyfforddwyr, cyrsiau dyfarnu a hyfforddiant cymorth cyntaf. Mae'n helpu clybiau i dyfu a denu cyfranogwyr newydd.

Fe ddyfarnwyd cyllid i Glwb Hoci Merched Llanfair i uwchsgilio ei wirfoddolwyr. Gan dderbyn grant o £3,103, fe wnaethon nhw brynu offer a chitiau cymorth cyntaf hefyd.

A chofiwch, fe allwch chi wneud cais am logi lleoliad, offer a datblygu hyfforddwyr i gyd yn yr un cais.

Oeddech chi'n gwybod?

Gall clybiau a grwpiau ledled Cymru sicrhau cyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru hefyd ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau oddi ar y cae fel ystafelloedd newid neu fynediad i bobl anabl, neu hyd yn oed offer arbenigol fel Camerâu Veo. Mwy o wybodaeth am Crowdfunder.

Chwiliwch amdanom ni ar Twitter yma a Facebook yma

Newyddion Diweddaraf

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy