Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i brosiectau yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud o leiaf un o’r canlynol:
- Lleihau anghydraddoldeb
- Creu cynaliadwyedd tymor hir
- Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu
Er enghraifft, gellid defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol:
- Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan glybiau fylchau mewn sgiliau neu brofiad
- Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
- Datblygu ffyrdd newydd neu wahanol o gyflwyno gweithgarwch corfforol
- Defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl
- Cyrraedd pobl sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Beth fydd Cronfa Cymru Actif a Crowdfunder yn ei gefnogi?
Pwy sy'n gymwys?
Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n glwb neu’n sefydliad cymunedol yng Nghymru gyda phrosiect neu weithgaredd fel a ganlyn:
- Heb ddechrau eto
- I gael ei gynnal yng Nghymru ac i fod yn bennaf ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru
- Nid er budd disgyblion ysgol lle mae’r prosiect yn cael ei gynnal yn unig
Sut rydym yn asesu ceisiadau
Rydym yn asesu prosiectau yn seiliedig ar sut bydd y cyllid yn gwneud gwahaniaeth i chi neu bobl yn eich cymuned. Rydym yn cyllido prosiectau sy'n anelu at bob un o'r nodau canlynol o leiaf.
1. Lleihau anghydraddoldeb
Mae sawl demograffeg sy'n cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ar hyn o bryd. Byddwn yn cefnogi ceisiadau sy’n effeithio ar gyfraddau cyfranogiad a chynrychiolaeth ar gyfer y canlynol:
- Merched a genethod
- Pobl ag anableddau
- Pobl o gefndir neu grŵp Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig (DALlE)
- Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol
- Pobl drawsryweddol
- Pobl sy’n byw mewn cyni / dan anfantais economaidd a chymdeithasol
- Y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg
2. Creu cynaliadwyedd tymor hir
Unrhyw brosiectau a fydd yn eich helpu i sefydlu i lwyddo yn y tymor hir.
Er enghraifft: Creu gwelliannau i gyfleusterau, mynd i'r afael â'r angen am sgiliau neu alluogi mwy o bobl i gymryd rhan yn eich camp.
3. Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o ddarparu gweithgarwch corfforol
Gallai hyn fod yn unrhyw beth sy'n eich helpu chi i gyflwyno gweithgarwch corfforol mewn ffordd newydd a gwahanol.
Er enghraifft: Darparu sesiynau ar-lein, mathau newydd o offer neu ddefnyddio adnoddau ar-lein.
Os nad ydych chi’n meddwl bod eich prosiect yn bodloni unrhyw un o’r tri nod uchod ond y byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i’ch cymuned yr un fath, cysylltwch â ni i drafod eich prosiect.
Sut i gysylltu â ni
Gallwch anfon e-bost atom gydag unrhyw ymholiadau ar [javascript protected email address]
Neu ein ffonio ni ar 0300 3003102
Sawl gwaith y gallaf wneud cais?
Gallwch wneud cais unwaith fel clwb neu grŵp bob blwyddyn ariannol (Ebrill i Ebrill).
Sut mae cyllid yn cael ei ddyfarnu?
Y dyfarniad lleiaf yw £300 a'r dyfarniad mwyaf yw £50,000*.
Dyfernir y cyllid ar raddfa symudol:
- Grant o 100% hyd at £10,000
- Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
- Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
* Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau o fwy na £10k neu 20% am fwy na £25k.
Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud cais drwy gyflwyno cais i ni ar-lein.
Cyn i chi wneud cais, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'r grwpiau hyn am arweiniad gyda’ch cais:
- Eich corff rheoli cenedlaethol os oes gennych chi un
- Eich awdurdod lleol
- Unrhyw sefydliadau cefnogi eraill perthnasol
Cofiwch bod posib cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.