Skip to main content

Sut i sefydlu clwb chwaraeon newydd gyda chyllid Chwaraeon Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut i sefydlu clwb chwaraeon newydd gyda chyllid Chwaraeon Cymru

Mae sefydlu clwb chwaraeon newydd yn rhoi cyfle i bobl ddod yn heini, gwella eu hiechyd meddwl a chreu cyfeillgarwch newydd. Mae llawer o glybiau wedi bod yn cyflwyno chwaraeon ledled Cymru ers dros ganrif. Ond roedd rhaid iddyn nhw gymryd eu camau cyntaf ryw dro.

Eisiau rhannu mwynhad o’ch hoff gamp â phobl eraill? Oes camp yr hoffech chi ei chyflwyno yn eich ardal? Os felly, sefydlwch glwb newydd a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Gyda chyllid gan Y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, dyna’n union wnaeth Scott Esnouf o Glwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda. Fe wnaeth ein helpu ni i roi'r pum cam pwysig yma at ei gilydd am sut i sefydlu clwb chwaraeon newydd.

Syniad da

Am y pum mlynedd diwethaf, mae oedolion Pontypridd wedi bod yn plygu, plymio ac osgoi peli gyda Chlwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda. Ond dim ond o'r llinell ochr y gallai'r plant lleol wylio.

Cafodd Scott y syniad o gyflwyno adran iau yn y clwb, gan roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn pêl osgoi a chreu llwybr iddyn nhw barhau i fwynhau'r gamp gyda'r clwb fel oedolion.

Gweld y galw

Oes traed i’ch syniad chi ar gyfer clwb chwaraeon newydd? Os oes dyhead am gamp benodol yn eich ardal chi, mae'n werth dilyn eich syniad.

Yn ôl canlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, mae mwy na 100,000 o blant yng Nghymru eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl osgoi. Manteisiodd Dreigiau'r Rhondda ar y diddordeb hwnnw drwy roi cyfle i bobl ifanc ymuno â chlwb cymunedol. 

Grŵp o blant yn taflu peli osgoi

Lledaenu’r gair

Os na fydd pobl yn gwybod am eich clwb chwaraeon newydd, ni fyddant yn dod. Mae lledaenu’r gair a hybu eich clwb yn rhan bwysig o redeg tîm chwaraeon newydd. Ond nid dim ond trydar a TikTok sy’n bwysig.

Tafod lleferydd a meithrin perthnasoedd oedd y gyfrinach i lwyddiant Pêl Osgoi yn y Rhondda. Scott fydd y cyntaf i gyfaddef bod y niferoedd yn isel ar y dechrau. Roedd hynny nes iddo gysylltu â thîm datblygu chwaraeon ei awdurdod lleol – Chwaraeon RhCT

Y perthnasoedd oedden nhw eisoes wedi'u sefydlu helpodd i gyfleu'r neges i ddarpar chwaraewyr pêl osgoi. Roedden nhw’n cynnig cyfle i ysgolion lleol gael sesiynau blasu gyda Scott. O symud ymlaen ychydig wythnosau, mae rhai o'r disgyblion ysgol hynny bellach yn Ddreigiau’r Rhondda! 

Cael cyllid gan Chwaraeon Cymru

Dim arian, dim offer. Dim offer, dim pêl osgoi. Ond mae’n haws nag ydych chi’n ei feddwl cael cyllid ar gyfer eich clwb chwaraeon newydd, diolch i’r Loteri Genedlaethol.

Drwy eu cyllid, gall Chwaraeon Cymru eich helpu chi i sefydlu clwb newydd gyda Chronfa Cymru Actif. Dyfarnwyd £770 i Glwb Pêl Osgoi Dreigiau'r Rhondda i helpu i sefydlu eu hadran iau newydd.

Fel clwb newydd, roedden nhw’n gymwys i gael cyllid i dalu am werth deg wythnos o logi neuadd chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Hawthorn, a hefyd fe wnaethon nhw ddefnyddio eu grant i brynu offer newydd ac i dalu am gyrsiau hyfforddi i uwchsgilio eu gwirfoddolwyr.

Cynyddu eich niferoedd

Peidiwch â bodloni ar y niferoedd sydd gennych chi! Gall eich clwb chwaraeon newydd barhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth i fwy fyth o bobl.

Roedd y sesiynau blasu mewn ysgolion yn galluogi'r Dreigiau i gynyddu eu niferoedd yn gyflym. Ond nawr mae’r chwaraewyr sy’n mwynhau’r plymio a’r osgoi gymaint yn dod â'u ffrindiau draw i ymuno â nhw ar y llinell ymosod hefyd. Felly, anogwch eich aelodau i ledaenu'r gair a pharhau i dyfu!

Os ydych chi eisiau sefydlu clwb chwaraeon newydd, fel Clwb Pêl Osgoi Dreigiau'r Rhondda neu Glwb Pêl Fasged Mustangs Merthyr, dilynwch y cyngor yma a gwneud yn siŵr eich bod chi'n edrych ar Gronfa Cymru Actif

Pwy a ŵyr? Gallai eich clwb chwaraeon fod yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned am y 100 mlynedd nesaf. 

Newyddion Diweddaraf

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy