Skip to main content

Lansio clwb pêl-fasged newydd gyda Cronfa Cymru Actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Lansio clwb pêl-fasged newydd gyda Cronfa Cymru Actif

Ar ôl mwy na degawd heb glwb pêl fasged ym Merthyr Tudful, mae’r dref bellach yn gartref i’r Merthyr Mustangs!

Gydag adran iau yn darparu ar gyfer plant 7 i 16 oed yn ogystal â thîm hŷn, mae'r Mustangs wedi cael eu sefydlu i fodloni'r galw lleol cynyddol am bêl fasged.

Mae Chwaraeon Cymru wedi cefnogi datblygiad y clwb hyd yma drwy ddyfarnu grant Cymru Actif o £13,482 – sy’n defnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol – i dalu am gylchoedd newydd sy’n cael eu defnyddio gan dîm hŷn y Mustangs.

Y gwirfoddolwr Simon Thornley – oedd yn arfer chwarae i Glwb Pêl Fasged Merthyr cyn iddo ddod i ben tua 14 mlynedd yn ôl – ydi’r egni y tu ôl i’r clwb newydd sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a Merthyr Tudful Actif.

Dywedodd Simon: “Fe roddodd pêl fasged lawer o brofiadau gwych i mi wrth dyfu i fyny, felly roeddwn i wir eisiau darparu cyfleoedd tebyg i bobl ifanc heddiw yn ogystal â rhoi cyfle i oedolion chwarae’r gamp yn gystadleuol ym Merthyr eto. 

“Mae’r ymateb hyd yma gan y plant a’r oedolion wedi dangos pa mor bwysig yw cael pêl fasged yn ôl yn y dref. Mae cael adran iau a thîm oedolion yn bwysig iawn gan ei fod yn golygu bod llwybr i chwaraewyr ifanc barhau yn y gamp wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cyd â Choleg Merthyr i hyfforddi myfyrwyr i ddod yn hyfforddwyr, dyfarnwyr a swyddogion. Fel hyn, gall y clwb ddod yn fwy cynaliadwy, darparu llawer o gyfleoedd ar y cwrt ac oddi arno, a helpu mwy o aelodau'r gymuned leol i gael y cyfle i syrthio mewn cariad â phêl fasged. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cyflwyno tîm merched eleni.”

Mae canlyniadau Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru wedi chwarae rhan hefyd yn ffurfio’r clwb, fel yr esboniodd Dan Bufton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Merthyr Tudful Actif: “Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn bwysig iawn i ni gan ei fod yn ein helpu i gael syniad o anghenion y gymuned a ble mae'r bylchau o ran darpariaeth chwaraeon.

“Fe gadarnhaodd yr arolwg eleni bod pêl fasged yn parhau i fod yn un o’r chwaraeon y mae pobl ifanc lleol yn ei fwynhau ac eisiau cael mwy o gyfleoedd i’w chwarae. Mae cyfleoedd pêl fasged wedi bod yn brin ym Merthyr Tudful ers amser maith bellach felly rydyn ni’n falch iawn o gefnogi datblygiad Merthyr Mustangs.”

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Mae stori Merthyr Mustangs yn enghraifft wych o awdurdod lleol yn gweithredu ar ganlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol ac yn gweithio gydag unigolyn angerddol i helpu i sefydlu clwb sy’n diwallu anghenion chwaraeon lleol. Mae canlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn awgrymu bod tua 175,000 o ddisgyblion yng Nghymru ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus lai na thair gwaith yr wythnos y tu allan i’w gwersi Addysg Gorfforol, am ryw reswm neu’i gilydd, ond eu bod eisiau gwneud mwy. Mae hyn yn awgrymu potensial enfawr i glybiau a sefydliadau chwaraeon fanteisio arno.”

Ychwanegodd Brian: “Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i helpu i gyllido offer, talu i wirfoddolwyr ddod yn hyfforddwyr cymwys, a mwy, felly ewch i’n gwefan ni am y manylion llawn.”

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. I gael gwybod sut gellir defnyddio’r cyllid i helpu i ddatblygu mwy o gyfleoedd chwaraeon i bob aelod o’ch cymuned leol, ewch i www.chwaraeon.cymru/grantiau-a-chyllid/

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy