Skip to main content

Hybu eich clwb

Mae unrhyw glwb goleuedig yn gwybod bod rhaid i chi rannu eich neges er mwyn denu aelodau newydd.

Mae’n rhaid i bobl wybod beth rydych chi’n ei wneud, pryd, a ble rydych chi’n cyfarfod. Mae’n rhaid iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw alw draw a rhoi cynnig ar ddarpariaeth eich clwb.

Pam ddylech chi godi eich proffil?

  • I ddenu aelodau a gwirfoddolwyr newydd
  • I roi hwb i ysbryd yr aelodau
  • I sicrhau cefnogaeth pobl sy’n gwneud penderfyniadau, fel Aelodau Cynulliad a chynghorwyr
  • I helpu i ganfod cyllid a nawdd
  • I ddenu pobl o bob cefndir

Mae’r adran hon yn rhoi sylw i bopeth, o daro’r penawdau i greu eich gwefan eich hun a chyfryngau cymdeithasol.

Edrychwch ar ddogfen gyfarwyddyd marchnata cynhwysol sydd wedi’i chreu gan Tom Rogers, Ynys Môn.