Skip to main content

Dathlu cefnogaeth clwb pêl-droed i chwaraewyr byddar

Mae Chwaraeon Cymru yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod (1-7 Mai) drwy ddathlu gwaith clwb pêl-droed yng Nglannau Dyfrdwy sydd â'r arwyddair, 'Dylai pob plentyn chwarae'.

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Iau Shotton United Town wyth mlynedd yn ôl gan Brian Valentine ac ambell i riant arall oedd am gynnig profiad pêl-droed ar lawr gwlad iawn lle gallai pob plentyn fwynhau chwarae, beth bynnag fo'i gefndir neu ei allu.

Mae holl hyfforddwyr y clwb wedi'u hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o fyddardod fel eu bod yn gwybod sut i addasu eu sesiynau hyfforddi i gynnwys aelodau sy'n drwm eu clyw, neu'n fyddar.

Mae eu hyfforddwyr yn cynnwys Dylan, mab 13 oed Brian, sydd hefyd yn fyddar. 

Dywedodd Brian: "Cyn i ni greu Shotton United Town JFC, roeddem yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i glwb a allai ddarparu'n llawn ar gyfer anghenion Dylan. Mae wedi bod wrth ei fodd yn chwarae i'r clwb ac erbyn hyn mae'n mwynhau hyfforddi chwaraewyr iau hefyd. 

“Ein hethos yma yw darparu pêl-droed cynhwysol fel y gall pawb fwynhau'r gêm, waeth beth fo unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddyn nhw. Y cyfan rydyn ni am ei weld yw’r plant allan yna yn cael hwyl, ac eleni rydyn ni wedi cymryd 90 o blant ychwanegol.

"Mae cae pêl-droed yn swnllyd, ac mae'r sŵn yna'n cael ei chwyddo eto i rywun sy'n defnyddio cymorth clyw. Ond drwy wneud rhai addasiadau syml i'ch ffordd o gyfathrebu, gallwch wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n rhan lawn o'ch sesiynau pêl-droed.

"Er enghraifft, mae gwneud cyswllt llygaid a dal sylw rhywun cyn siarad neu arwyddo yn bwysig. Byddwch yn ymwybodol os ydych chi'n gweiddi neu'n siarad yn rhy araf yna bydd hyn yn effeithio ar batrymau eich gwefusau i rywun sy'n darllen gwefusau, tra gall fod yn anoddach eich deall os ydych chi'n symud o gwmpas tra'r ydych chi’n siarad.

"Mae bod yn ymwybodol o fyddardod a gallu defnyddio iaith arwyddion sylfaenol yn sgiliau gwych i unrhyw un eu cael.” 

Yn ddiweddar dyfarnwyd £3,882 i Shotton United Town JFC gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru – sy'n defnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol – i'w helpu i brynu offer y mae gwir ei angen arnynt yn ogystal â thalu am gyrsiau hyfforddi pellach er mwyn iddynt allu parhau i ddatblygu sgiliau eu gwirfoddolwyr i ddarparu pêl-droed sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru: "Dylai pawb allu mwynhau manteision chwaraeon felly mae'n wych gweld sut mae Shotton United Town JFC yn sicrhau bod holl anghenion eu cyfranogwyr yn cael eu diwallu ac nad oes neb yn cael eu heithrio. Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i'r clwb dderbyn arian drwy Gronfa Cymru Actif ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud.” 

Ychwanegodd Brian: "Mae’r Gronfa Cymru Actif wedi bod yn hanfodol i ni fel clwb, o'n helpu ni i brynu'r offer roedden ni angen i ddechrau nôl yn 2015, i dalu am gyrsiau sydd wedi datblygu ein gwirfoddolwyr fel hyfforddwyr.” 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Dysgwch mwy am y Gronfa Cymru Actif isod.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy