Gwnewch gais am Grant Arbed Ynni o hyd at £25,000 i helpu eich clwb chwaraeon i arbed arian a dod yn fwy ynni-effeithlon.
Grant Arbed Ynni
Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i’n porthol ceisiadau.
Beth yw'r Grant Arbed Ynni?
Mae’r Grant Arbed Ynni yn cynnig cyfle unigryw i glybiau wneud gwelliannau arbed ynni ac arbed arian. Nid yn unig y bydd clybiau’n elwa ar filiau cyfleustodau is, ond byddant hefyd yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd hefyd.
Bydd y grantiau yn helpu clybiau i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol fel y gallant barhau i gynnig gweithgareddau fforddiadwy i'w cymunedau.
Mae hwn yn gam sylweddol tuag at greu dyfodol cynaliadwy i glybiau chwaraeon yng Nghymru.
Felly, os ydych chi'n glwb sydd eisiau arbed arian a hefyd cael effaith gadarnhaol ar y blaned, mae'r grant yma'n gyfle perffaith i chi!

Beth fyddwn yn ei gefnogi?
Mae'r grant ar gyfer clybiau chwaraeon nid-er-elw a grwpiau cymunedol sydd am wneud gwelliannau arbed ynni. Bydd y gronfa'n cefnogi:
- paneli solar
- deunyddiau inswleiddio / adeiladu
- goleuadau (ac eithrio llifoleuadau chwarae / hyfforddi)
- gwell systemau gwresogi a dŵr poeth
- ffynonellau dŵr cynaliadwy
Os oes gennych chi neu eich clwb ddatrysiadau arbed ynni neu os ydych chi eisiau cael rhagor o wybodaeth am yr eitemau uchod a sut gall eich clwb arbed ar ei filiau ynni, cysylltwch â ni ar [javascript protected email address].
Pwy sy'n gymwys?
Os ydych chi'n rhan o glwb chwaraeon cymunedol yng Nghymru ac yn awyddus i wneud gwelliannau ynni-effeithlon i'ch cyfleusterau, efallai y byddwch chi'n gymwys ar gyfer y Grant Arbed Ynni newydd gan Chwaraeon Cymru.
Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y cyllid hwn mae'n rhaid i glybiau fod yn berchen ar eu cyfleuster neu fod â les o 10 mlynedd o leiaf ar yr adeilad.
Gall clybiau cymwys wneud cais am y grant a derbyn cyllid ar gyfer eu gwelliannau ynni-effeithlon.
Sut i wneud cais?
Gallwch wneud cais gyda ni ar-lein rhwng dydd Mawrth 16 Mai a dydd Mercher 28 Mehefin 2023. Llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda rhagor o wybodaeth am wneud cais.
Cofiwch bod posib cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sy'n gwneud cais am gyllid gyda ni yn darllen ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau
Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i'n porthol ceisiadau.
Sut mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu?
Uchafswm y dyfarniad yw £25,000, a rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu o leiaf 20% o gyfanswm costau’r prosiect. Rhaid cwblhau’r prosiectau o fewn 12 mis i dderbyn y grant, a bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau sy’n gallu dechrau yn ystod y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2024.
Beth yw'r broses gyllido?
Bydd ffenestr Cam 1 yn parhau ar agor am chwe wythnos, o 16eg Mai am 10am a rhaid cyflwyno erbyn 28ain Mehefin 2023 am 4pm.
Bydd panel yn blaenoriaethu’r ceisiadau Cam 1 hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf yn erbyn meini prawf y gronfa ac, os byddant yn llwyddiannus, byddant yn cael eu gwahodd i lenwi ffurflen gais Cam 2.
Gallai fod yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus Cam 1 gynnal archwiliad ynni yng Ngham 2, a dylai'r arolwg a cheisiadau Cam 2 gael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Awst 2023. Bydd cost unrhyw Archwiliad Ynni posibl yn cael ei gynnwys mewn cyfraniad o 20% gan y clwb.
Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus Cam 2 yn cael adborth ar eu cais.
Sut i gysylltu â ni?
Gallwch anfon e-bost gydag ymholiadau atom ni ar [javascript protected email address]