Ar y dudalen hon gallwch ddysgu am arian cyfatebol sydd ar gael i wella cyfleusterau drwy bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a Crowdfunder.
Crowdfunder
Beth yw Crowdfunder?
Mae Crowdfunder yn ffordd o godi arian at achosion a syniadau da, tra hefyd yn helpu eich clwb neu brosiect i gysylltu â'ch cymuned.
Ar wefan Crowdfunder, mae pobl yn rhoi arian i gefnogi'r achos neu'r syniad. Yn gyfnewid am hyn, gall y sawl sy'n rhoi arian hefyd gael gwobr, a all fod yn gynnyrch, yn fudd-dal neu'n wasanaeth.
Beth fyddwn ni'n ei gefnogi?
Mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Crowdfunder i gefnogi clybiau a gweithgareddau cymunedol i godi arian ar gyfer gwella cyfleusterau.
Mae'r cynllun ar gyfer clybiau dielw a grwpiau cymunedol sy'n ceisio codi arian ar gyfer gwelliannau 'oddi ar y cae'. Er enghraifft:
- Ystafelloedd newid
- Adnewyddu tai clwb
- Gwell cyfleusterau cegin i sicrhau mwy o incwm
- Raciau beiciau a storio
- Lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i bobl anabl
- Paneli solar
- Generaduron
- Boeleri
- Ffens newydd
Mae'r enghreifftiau uchod i gyd yn welliannau 'oddi ar y cae'. Os ydych chi'n chwilio am gyllid oherwydd caledi ariannol yn sgil y pandemig, neu os oes gennych syniadau ar gyfer gwella cyfranogiad 'ar y cae' yn eich clwb, edrychwch ar ein Cronfa Cymru Actif.
Bydd y cynllun Crowdfunder yn rhedeg tan fis Ebrill 2022.
Sut mae’r cynllun hwn gyda Crowdfunder yn gweithio?
Mae clybiau a sefydliadau yn sefydlu tudalen ar wefan Crowdfunder, sy'n gofyn i bobl roi arian i'r achos neu'r syniad.
Mae Crowdfunder yn darparu cymorth a chyngor, gan gynnwys rhywun i'ch tywys drwy'r broses.
Caiff eich prosiect Crowdfunder ei asesu gan Chwaraeon Cymru, a all benderfynu pa lefel o arian cyfatebol y byddwch yn gymwys i'w gael yn seiliedig ar y wybodaeth rydych wedi'i nodi.
Os yw'r dudalen Crowdfunder wedi cyrraedd meini prawf penodol, bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi arian cyfatebol rhwng 30% a 50% o'r cyfanswm, hyd at uchafswm o £15,000 o arian cyfatebol.
Caiff canran Chwaraeon Cymru (30% - 50%) ei phennu yn seiliedig ar botensial prosiect i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
Pwy all wneud cais?
Bydd unrhyw glybiau dielw, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sy'n darparu neu'n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol yng Nghymru yn gymwys.
Nid yw'r canlynol yn gymwys:
- Ysgolion, colegau neu brifysgolion
- Unigolion ac unig fasnachwyr
- Busnesau neu bartneriaethau masnachol
- Gweithredwyr hamdden
- Unrhyw sefydliadau a oedd yn defnyddio Cronfa Darparwyr Preifat Chwaraeon Cymru cyn hyn
Sut gallaf wneud cais?
Sefydlwch dudalen ariannu torfol ar gyfer eich prosiect a dewis yr opsiwn i gael eich ystyried ar gyfer cymorth Lle i Chwaraeon. Eich cais chi fydd y dudalen hon – nid oes angen gwneud cais i ni ar wahân.
Gwyliwch y fideo nawr a dysgwch sut i Crowdfund

Sut y caiff yr arian cyfatebol ei ddyfarnu?
Os bydd eich prosiect yn cyrraedd 25% o'i nod targed gyda chymorth gan isafswm o roddwyr, bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi rhwng 30% a 50% o gyfanswm y prosiect, yn dibynnu ar botensial y prosiect i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o fewn y gymuned:
- 30%: Os yw prosiect yn debygol o sicrhau cefnogaeth ar Crowdfunder.
- 40%: Os yw prosiect yn dangos sut mae’n bwriadu cefnogi trechu anghydraddoldeb.
- 50%: Os yw prosiect wedi’i leoli yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, fel y nodwyd gan ddata Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Sylwch, os bydd y prosiect yn methu codi'r arian sy'n weddill o fewn 8 wythnos i dderbyn arian cyfatebol, bydd yr arian yn cael ei ganslo.
Ble allaf i gael cymorth?
Drwy greu prosiect ar Crowdfunder byddwch yn cael mynediad at y canlynol:
- Gweminar ar-lein yn eich croesawu i Crowdfunding
- Platfform dysgu ar-lein pwrpasol
- Hyfforddwyr Crowdfunder personol
- Canolfan Gymorth ar-lein 24/7
- Cysylltwch â Chwaraeon Cymru ar [javascript protected email address]