Skip to main content

Sut i wneud cais am brosiect Crowdfunder Lle i Chwaraeon x

  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Lle i Chwaraeon - Crowdfunder
  4. Sut i wneud cais am brosiect Crowdfunder Lle i Chwaraeon x

Oes gennych chi syniad gwych ar gyfer prosiect Crowdfunder? Dyma ein canllaw cam wrth gam ar sut i wneud cais a dechrau codi arian.

1. Ffurflen Mynegi Diddordeb

Ydych chi am wneud gwelliannau i'ch tŷ clwb neu’ch cyfleusterau? Gwych! Gall Lle i Chwaraeon helpu.

Ar ôl i chi gael syniad clir o ba welliannau rydych chi'n awyddus i'w hariannu, yna gallwch lenwi ffurflen mynegi diddordeb ar ein gwefan. Mae'r ffurflen hon yn helpu ein tîm i ddeall nodau'r prosiect i'ch cynghori orau ar y camau nesaf. 

Swyddog Buddsoddi o fewn dau ddiwrnod gwaith i'ch cyflwyniad. Os yw eich prosiect yn gymwys, cewch eich gwahodd i wneud cais am arian Lle i Chwaraeon drwy blatfform Crowdfunder.

Os yw eich prosiect yn fwy addas ar gyfer un o'n grantiau eraill, cewch eich annog i wneud cais am hynny yn lle. Os na fydd eich prosiect yn gymwys, bydd adborth yn cael ei ddarparu, a byddwch yn cael gwybod pam nad yw'n bodloni'r meini prawf.

Llenwi ffurflen Mynegi Diddordeb.

2. Creu tudalen Crowdfunder

Mae eich tudalen ymgyrch Crowdfunder yn gweithredu fel eich cais. Mae'n bwysig ar hyn o bryd cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar y dudalen hon, fel bod ein tîm yn gallu dod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt – ac felly hefyd eich cefnogwyr!

Ein prif awgrymiadau ar gyfer creu tudalen Crowdfunder:

Cynnwys disgrifiad ysgrifenedig o'r prosiect 

  • I unrhyw un sy'n dod ar draws eich tudalen, mae'n bwysig eu bod yn gwybod beth yw pwrpas eich prosiect a beth rydych chi'n codi arian ar ei gyfer. Eich disgrifiad yw eich cyfle i ddal diddordeb darpar roddwyr – felly gwnewch iddo gyfrif! Dywedwch wrthym pwy ydych chi, beth rydych chi'n codi arian ato a pham ei fod yn bwysig.

Dylech gynnwys fideo syml

  • Nid oes yn rhaid cynnwys fideo ar eich tudalen Crowdfunder, ond mae'n syniad da iawn os ydych chi am gael mwy o bobl i gymryd rhan yn eich prosiect. Yn ôl Crowdfunder, mae prosiect gyda fideo 86% yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus nag un heb fideo!

Dylech gynnwys lluniau

  • Mae llun yn cyfleu llawer, ac mae eich cymuned chi eisiau gwybod pwy a beth maen nhw'n ei ariannu! Mae lluniau o'ch clwb a'r cyfleusterau sydd angen gwelliannau yn ychwanegu llawer at eich tudalen ariannu.

Penderfynu ar eich gwobrau

Os oes angen mwy o gyngor arnoch, edrychwch ar Hwb Gwybodaeth Crowdfunder yma.

Unwaith y byddwch yn hapus gyda'ch tudalen, cliciwch y tab 'cyllid ychwanegol' a dilynwch yr awgrymiadau i wneud cais am gyllid 'Lle i Chwaraeon' Chwaraeon Cymru.Ar ôl i chi ateb rhai cwestiynau byr, bydd eich cais yn cael ei gyflwyno i Chwaraeon Cymru.

Byddwn yn cael gwybod eich bod wedi cwblhau eich cais a byddwn yn asesu'r dudalen i sicrhau ei bod yn barod i ddechrau prosiect cyllido torfol.

3. Dechrau codi arian

Mae eich tudalen Crowdfunder ar waith - nawr am yr hwyl! Mae'n bryd mynd i'ch cymuned a chodi rhywfaint o arian ar gyfer achos da.

Efallai y bydd eich 'torf' yn cynnwys aelodau'r clwb, teuluoedd, cefnogwyr, neu wylwyr sydd eisiau cyfrannu a helpu i gefnogi eich prosiect. Gallwch godi ymwybyddiaeth o'ch ymgyrch mewn sesiynau hyfforddi neu dros gyfryngau cymdeithasol, a gallech hyd yn oed drefnu digwyddiadau codi arian fel gemau cyfeillgar, neu ddigwyddiadau cymdeithasol.

Beth am gael eich cymuned i gymryd rhan? Mae cydweithio â busnesau lleol i gynnig gwobrau hwyliog a defnyddiol yn golygu y gall pawb elwa wrth roi arian i’ch ymgyrch Crowdfunder. Rydych chi'n cael arian, maen nhw'n cael rhywbeth o werth, ac efallai y bydd y busnes lleol yn cael cwsmer newydd - sefyllfa fanteisiol i bawb!

Os oes angen rhagor o help arnoch, cysylltwch â thîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn aplaceforsport@sport.wales.

Mae Crowdfunder yn cynnal gweminarau 'Cyflwyniad i Gyllido Torfol' rheolaidd i ddangos i chi sut y gallwch godi arian gyda Lle i Chwaraeon. Cofrestrwch ar gyfer y weminar AM DDIM nesaf yma neu gwyliwch y weminar ddiwethaf yma.

Newyddion Diweddaraf - Grantiau a Chyllid

Cronfa gwerth £5 miliwn yn cael effaith am y tro cyntaf

Fe hawliodd Cymru'n gwbl briodol ei bod wedi defnyddio Profion pêl rwyd yr haf fel carreg gamu at lwyddiant…

Darllen Mwy

Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

Mae cronfa newydd i helpu i roi hwb i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghymru wedi dyrannu dros…

Darllen Mwy

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy