Skip to main content

Mae gwobrau Clwb Rygbi Caergybi wedi'u cynllunio i greu ymgyrch cyllido torfol llwyddiannus

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae gwobrau Clwb Rygbi Caergybi wedi'u cynllunio i greu ymgyrch cyllido torfol llwyddiannus

Os ydych chi'n ystyried troi at gyllido torfol i godi arian i'ch clwb chwaraeon, mae'n werth bod yn greadigol gyda'r gwobrau rydych chi'n eu cynnig.

Edrychwch ar yr hyn y mae Clwb Rygbi Caergybi wedi'i gyflawni, gan godi mwy na £15,000 i uwchraddio eu hystafelloedd newid, gan gynnwys £6,000 o gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ Chwaraeon Cymru. 

Mae cyllido torfol yn ffordd wych o godi arian ar gyfer prosiectau, drwy annog y gymuned leol i'ch cefnogi'n ariannol. 

Pan fydd pobl yn addo arian i gefnogi eich Crowdfunder, gallant gael gwobr am eu rhodd. Gallwch gynnig cymhellion, felly mae rhoddwyr yn cael rhywbeth bach yn ôl.

Mae'n syniad da bod yn greadigol a chysylltu go iawn â'ch cymuned leol. 

Dyma rai o'r gwobrau a gynigiwyd gan Glwb Rygbi Caergybi.

Glanhau traethau lleol 

Yn gyfnewid am rodd o fwy na £50, torchodd tîm y merched eu llewys i dreulio dwy awr yn codi sbwriel ar draeth o ddewis y cefnogwyr. Dewiswyd y wobr hon bedair gwaith a dewiswyd Bae Trearddur ger Caergybi bob tro. 

Dywed Leanne Robinson, Cadeirydd y Clwb: "Dyma'r traeth mwyaf poblogaidd o bell ffordd felly rydyn ni'n gweld cryn dipyn o sbwriel yma. Roedd yn deimlad da gwneud ein rhan i'w gadw'n lân.”

Gwirfoddoli mewn prosiect cymunedol lleol

Roedd tîm y merched yng Nghaergybi hefyd wrth law i gefnogi prosiectau cymunedol, ym mha bynnag ffordd bosib. Gwnaethant gynnig cyfrannu o leiaf 10 awr i brosiect yn gyfnewid am rodd o £100. 

Roeddent yn barod am unrhyw beth, gan sicrhau eu bod ar gael i baentio ac addurno, torri gwair neu chwynnu gwelyau blodau. Ar y diwedd, fe wnaethant roi'r brwsys paent a'r rhawiau o’r neilltu a chodi'r peli rygbi. Gofynnodd grŵp Girl Guiding lleol i gynnal sesiynau ar thema rygbi ar gyfer Rainbows a Brownies. Ac maen nhw am fynd yn ôl a gwneud mwy.

Golchi ceir

Roedd y tîm hefyd yn hapus i faeddu ei ddwylo (neu eu glanhau?) ac yn cynnig golchi car am rodd o £25 neu fwy. Roedd y wobr hon yn eithaf poblogaidd ac fe'i dewiswyd sawl gwaith. 

Cynigion poblogaidd eraill

Roedd y clwb hefyd yn cynnig hetiau a chotiau wedi'u brandio a oedd yn boblogaidd gydag aelodau sydd eisiau cadw'n gynnes y gaeaf hwn. 

A dewisodd llawer o bobl a roddodd i'r achos da neges ddiolch syml ar gyfryngau cymdeithasol fel gwobr.

Mwy o wybodaeth am beth arall y gallwch ei gynnig fel gwobr ar Crowdfunder.

Y merched o Glwb Rygbi Caergybi gyda bagiau bin yn llawn sbwriel ar ôl glanhau traeth
Glanhau traeth llwyddiannus ym Mae Trearddur!

A yw wedi bod yn llwyddiant?

Mae'r clwb wedi cyrraedd ei darged ac mae hynny'n golygu bod Chwaraeon Cymru hefyd wedi camu i'r adwy gyda £6,000 o'n cronfa 'Lle i Chwaraeon'. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar yr ystafelloedd newid newydd ymhen ychydig wythnosau.

O ran cymuned, mae'r cynllun cyllido torfol hefyd wedi bod yn llwyddiant mawr. O lanhau traethau i wirfoddoli mewn diwrnodau hwyliog lleol, mae'r clwb wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol iawn yn yr ardal. 

Dywedodd Leanne Robinson, Cadeirydd y Clwb: "Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn gwneud gwahaniaeth ond mae hefyd wedi ein gwneud ni'n fwy amlwg yn y gymuned. Mae pobl wedi ein gweld ni o gwmpas y lle, yn gwneud pethau da i'r gymuned, ac mae hynny'n helpu gyda recriwtio. Ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae ein cymuned wedi’i rhoi"

Beth ddywedodd Chwaraeon Cymru?

Rydyn ni wrth ein bodd â'r ffordd y mae Clwb Rygbi Caergybi yn defnyddio ei ymgyrch cyllido torfol er mwyn gwneud gwaith da yn Ynys Môn. Mae tîm y merched wir wedi torchi eu llewys i lanhau traethau a chyfrannu at brosiectau cymunedol. Da iawn!

Darllenwch ganllaw Crowdfunder ar greu gwobrau.

Beth yw cyllido torfol a 'Lle i Chwaraeon’? 

Mae Cronfa Lle i ChwaraeonChwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â Crowdfunder, yn cefnogi clybiau cymunedol i godi arian ar gyfer cyfleusterau 'oddi ar y cae'. Mae clybiau neu sefydliadau'n cysylltu â'r gymuned leol i godi arian drwy ddull cyllido torfol. Pan gyrhaeddir targed, mae Chwaraeon Cymru yn addo canran o'r cyfanswm mewn cyllid cyfatebol. 

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy