Skip to main content

Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

Mae cronfa newydd i helpu i roi hwb i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghymru wedi dyrannu dros £1m i 118 o glybiau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae prosiectau ledled y wlad wedi elwa o'r grant Lle i Chwaraeon, gyda dyfarniadau ariannol yn amrywio o £250 hyd at y grant mwyaf o £50,000.

Yn gynharach eleni dyrannodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn ar gyfer prosiectau cyfalaf ar draws chwaraeon Cymru. Rhannwyd yr arian gan Chwaraeon Cymru er mwyn bod o fudd i amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys £1 miliwn ar gyfer ceisiadau gan y cyhoedd.

Cyflwynwyd cyfanswm o 319 o geisiadau ar gyfer y gronfa £1 miliwn, gyda'r ceisiadau am gyllid yn cyrraedd dros £15 miliwn ar gyfer cyfanswm costau prosiect gwerth dros £20 miliwn.

Mae ychydig dros £1m wedi'i ddyfarnu i brosiectau sy'n cwmpasu 28 o wahanol gampau.

"Cawsom ein syfrdanu gan yr ymateb i'r broses ymgeisio a bod yn onest," meddai Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd Chwaraeon Cymru.

"Roeddem yn gallu cyfeirio llawer o bobl at ein cynlluniau grant eraill, ond roedd hi'n her go iawn penderfynu ar y dyfarniadau terfynol.

"Rydym wrth ein boddau bod cynifer o glybiau, ar draws cymaint o gampau, yn mynd i gael eu cryfhau oherwydd y buddsoddiadau rydym wedi gallu eu gwneud.

"Gobeithio, ac ystyried yr ymateb a gawsom, y gallwn gyflwyno achos ardderchog i gael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol."

Bydd yr ymgeiswyr hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol i'w prosiect, gyda chyllid Chwaraeon Cymru yn cyfrif am gyfartaledd o 52% o gyfanswm y costau.

Ychwanegodd Davies, "Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd y prosiectau hyn yn cael effaith barhaol ar gyfranogwyr newydd a phresennol am flynyddoedd i ddod."

Wrth lansio'r gronfa, dywedodd Sam Warburton OBE, a ddechreuodd ei yrfa yn chwarae i glwb rygbi Rhiwbeina: "A minnau wedi fy magu yng Nghaerdydd, roeddwn yn ddigon ffodus i gael hyfforddi gyda chyfleusterau ardderchog. Ond rwy'n gwybod nad yw pob camp neu athletwr mor lwcus felly mae'n bwysig ein bod yn gwella'r cyfleusterau ledled Cymru i annog y genhedlaeth nesaf i gael hwyl ac i gyflawni eu potensial."

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Boed honno'r neuadd rydych chi'n dawnsio ynddi neu'r cae rydych chi'n chwarae arno, mae cael y cyfleusterau chwaraeon cywir ar waith yn cael effaith fawr ar brofiad unigolyn - ac ar y tebygrwydd y bydd yn cymryd rhan yn rheolaidd.

"Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru yn dangos ymrwymiad cadarn i gefnogi Cymru iach ac egnïol. Mae'n braf iawn gweld ein bod wedi gallu dyrannu cyllid i sicrhau gwasgariad daearyddol da ledled Cymru ac ar draws cymaint o chwaraeon."

Darllenwch restr lawn o'r 118 o brosiectau sydd wedi rhannu'r £1m+ o gyllid Lle i Chwaraeon, neu chwiliwch am fanylion am nifer o'r prosiectau a fydd yn gwella Cymru fel lle i chwaraeon yn fuan iawn. 

Mwy o wybodaeth yma am gyllid grantiau cymunedol, neu ewch i wefan Atebion Clwb am becyn llawn cyngor a chyfarwyddyd i glybiau a gwirfoddolwyr chwaraeon yng Nghymru.