Skip to main content

Crowdfunder - Cwestiynau Cyffredin

Rydw i eisoes yn rhedeg ymgyrch codi arian i fy nghlwb. Ydw i’n gymwys ar gyfer cyllid? 

Yn anffodus, ni allwn gyllido am yn ôl, a bydd angen i chi ddefnyddio gwefan / porthol Crowdfunder i gael cefnogaeth. Bydd angen i chi fodloni’r canlynol:

  1. Bod â nifer penodol o gefnogwyr unigryw *
  2. Codi arian yn seiliedig ar wobrau a chyllido torfol.

  

  • * 25 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed hyd at £5,000
  • 50 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £5,001 a £10,000
  • 75 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £10,001 a £15,000
  • 100 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed dros £15,000
     

Beth os ydw i eisiau gwella cyfleusterau chwaraeon?

Os ydych chi'n edrych am welliannau ‘ar y cae’ a all helpu i wella cyfranogiad mewn chwaraeon, fel llifoleuadau, pyst gôl neu rwydi criced, efallai bod Cronfa Cymru Actif yn opsiwn cyllido gwell i chi.         

Ydw i’n cael gwneud cais os ydw i wedi derbyn cyllid o Gronfa Cymru Actif eisoes?

Ydych. Mae’r rhain yn gronfeydd ar wahân. Gan fod Cronfa Cymru Actif ar gyfer gwelliannau ‘ar y cae’ a Crowdfunder ar gyfer gwelliannau ‘oddi ar y cae’, gallwch wneud cais i’r ddwy gronfa.         

Dylech nodi, er y gallwch wneud cais am y ddau, mai dim ond un cais y gall eich clwb ei wneud i bob cronfa mewn unrhyw flwyddyn ariannol.

Mae fy nghlwb i’n gwmni cyfyngedig, ydyn ni’n gymwys?

Os gallwch brofi bod eich cwmni cyfyngedig yn gwmni nid er elw, gallech chi fod yn gymwys. Cyn belled â'ch bod yn bodloni'r elfennau eraill yn y meini prawf.

Bydd unrhyw glybiau nid er elw, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sy'n darparu neu'n galluogi chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yng Nghymru yn gymwys ar gyfer Lle i Chwaraeon.

Fedr clwb gael cyllid ymarferoldeb drwy Crowdfunder? 

Na, nid yw Crowdfunder wedi'i gynllunio ar gyfer astudiaethau ymarferoldeb. Mae ar gyfer prosiectau sy'n barod i fynd nawr, gyda chefnogaeth gymunedol. Mae'n annheg gofyn i'r gymuned a Chwaraeon Cymru gyfrannu tuag at astudiaeth ymarferoldeb a allai arwain at ddim byd yn y pen draw.

Faint o addewidion unigol sydd eu hangen cyn i Chwaraeon Cymru ryddhau cyllid?

〈Er gwybodaeth, y nifer gofynnol o Gefnogwyr unigryw sydd eu hangen yw:

  • 25 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed hyd at £5,000
  • 50 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £5,001 a £10,000
  • 75 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £10,001 a £15,000
  • 100 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed dros £15,000

Fedr y clybiau eu hunain gyfrannu tuag at yr ymgyrch codi arian?

  • Ar bwynt y clwb ei hun yn cyflwyno cyllid, mae dull Crowdfunder o weithredu’n seiliedig ar wobrau ac felly pe bai'r sefydliad neu'r clwb yn rhoi cyllid i mewn, byddai'n rhaid iddo fod ar y sail honno. Ni allai fod yn fuddsoddiad heb wobr yn debyg i rodd fel just giving, hyd yn oed os yw'n dod o'r clwb ei hun. Felly, byddai angen iddynt feddwl am hynny.

 

Yr uchafswm y bydd Chwaraeon Cymru yn ei gyfrannu? 

  • 50% o gyfanswm costau’r prosiect
  • Dim mwy na £15,000