Skip to main content

Sut i wneud cais i Gronfa Cymru Actif?

  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Cronfa Cymru Actif
  4. Sut i wneud cais i Gronfa Cymru Actif?

Diweddariad Pwysig: Cronfa Cymru Actif

Eleni, mae Cronfa Cymru Actif wedi gweld mwy o geisiadau nag erioed o’r blaen. Mae’n wych gweld cymaint o glybiau chwaraeon ledled Cymru yn manteisio ar y gronfa hon i helpu i gael mwy o bobl yn eu cymunedau yn actif. 

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu ei bod yn cymryd ychydig mwy o amser i brosesu ceisiadau. Byddwch yn ymwybodol y dylai unrhyw glybiau sydd eisiau gwneud cais i Gronfa Cymru Actif yn ystod y flwyddyn ariannol hon wneud hynny erbyn dydd Mercher 31 Ionawr. Bydd unrhyw geisiadau fydd yn cael eu gwneud ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cyfrif yn rownd gyllido 2024-25.

 

Chwilio am gymorth gan Gronfa Cymru Actif ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Bydd y canllaw cam wrth gam yma’n dadansoddi'r broses i chi - o gynllunio a gwneud cais i dderbyn eich cyllid.

1. Adnabod angen a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud

Oes arnoch chi angen offer penodol i gynyddu cyfranogiad yn eich clwb chwaraeon? Ydych chi eisiau gwella'r hyfforddiant yn eich sefydliad cymunedol? Fedr arloesi wella profiad eich cyfranogwyr chi?

Drwy Gronfa Cymru Actif, bydd y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau mewn clybiau chwaraeon neu sefydliadau nid-er-elw sy'n darparu chwaraeon yng Nghymru.

Bydd angen i chi ddangos sut bydd y cyllid yn datblygu eich camp neu weithgaredd, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, yn gwneud chwaraeon yn fwy hygyrch neu'n sicrhau cynaliadwyedd yn eich clwb.

Os oes angen offer neu uwchsgilio gwirfoddolwyr, fe all Cronfa Cymru Actif helpu! 

Os ydych chi’n gobeithio uwchraddio ystafelloedd newid, rhoi gosodiadau yn adeilad y clwb, neu ddefnyddio technoleg, ein cronfa 'Lle i Chwaraeon' fyddai'r opsiwn gorau i'ch clwb chi.

2. Gwneud cais am y grant

Ar ôl i chi ddilyn y camau uchod, mae'n amser llenwi ffurflen mynegi diddordeb. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall beth yw nodau eich prosiect a beth sydd ei angen ar eich clwb er mwyn eu cyflawni.

Mae'r ffurflen yn syml ac yn hawdd! Ac os ydych chi wedi dilyn y cam uchod ac wedi meddwl am eich prosiect, bydd yn llawer cyflymach i'w llenwi.

Bydd Swyddog Buddsoddi mewn cysylltiad o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen i roi gwybod i chi am y penderfyniad.

Wedyn, cewch eich gwahodd i wneud cais i Gronfa Cymru Actif os yw eich prosiect yn gymwys. Os ydi eich prosiect yn fwy addas ar gyfer un o'n grantiau eraill ni, cewch eich annog i wneud cais am hynny yn lle. Os na fydd eich prosiect yn gymwys, bydd adborth yn cael ei ddarparu, a byddwch yn cael gwybod pam nad yw'n bodloni'r meini prawf.

Mae llenwi'r cais yn cymryd ychydig mwy o amser, ond gall eich Swyddog Buddsoddi penodol eich helpu chi drwy gydol y broses.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais wedi'i gwblhau, bydd eich Swyddog Buddsoddi mewn cysylltiad i roi gwybod i chi os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus.

Os nad ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, bydd eich Swyddog Buddsoddi yn gallu rhoi gwybod i chi beth y mae angen i chi ei wneud i sicrhau bod eich cais yn addas i gael ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Cymru Actif.

Pan fydd Chwaraeon Cymru wedi rhoi golau gwyrdd i'ch prosiect a'ch bod wedi derbyn eich cynnig cyllido, bydd yr arian gan y Loteri Genedlaethol ar ei ffordd i gyfrif banc eich clwb!

Gwneud gwahaniaeth a rhoi'r gair ar led

Mae'n amser gwneud eich camp yn fwy hygyrch a chynyddu cyfranogiad yn eich clwb. Felly, gwariwch yr arian ar y pethau sydd arnoch eu hangen i gyflawni'r amcanion a nodir yn eich cais a gadewch i ni drafod busnes.

Dangoswch y gwaith anhygoel mae eich clwb wedi bod yn ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol a chlochdar am sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu eich clwb i dyfu.

Rydyn ni eisiau i glybiau eraill gael eu hysbrydoli gan yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud, dilyn eich arweiniad chi, a defnyddio Cronfa Cymru Actif. Felly, defnyddiwch ein pecyn adnoddau i rannu'r neges ar gyfryngau cymdeithasol ac annog eraill i wneud eu camp yn fwy hygyrch gyda help llaw gan Chwaraeon Cymru.

Sut hwyl ydych chi’n ei gael gyda'ch offer newydd? Ydi Cronfa Cymru Actif wedi gwneud gwahaniaeth yn eich clwb chi? Beth ydi barn eich aelodau? Rhowch wybod i ni drwy eich cofnod dysgu chwe mis ar ôl cwblhau eich prosiect.

Mae angen i chi gyflwyno hwn i ni er mwyn gallu cael mwy o gyllid gennym yn y dyfodol.

Newyddion Diweddaraf - Grantiau a Chyllid

Cronfa gwerth £5 miliwn yn cael effaith am y tro cyntaf

Fe hawliodd Cymru'n gwbl briodol ei bod wedi defnyddio Profion pêl rwyd yr haf fel carreg gamu at lwyddiant…

Darllen Mwy

Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

Mae cronfa newydd i helpu i roi hwb i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghymru wedi dyrannu dros…

Darllen Mwy

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy