Mae gan Fframwaith Sylfeini Cymru gyfres o weminarau sy'n canolbwyntio ar gefnogi anghenion emosiynol plant mewn chwaraeon. Mae'r rhain i gyd ar gael am ddim. Nod y gweminarau yw cynyddu gwybodaeth hyfforddwyr a rhoi'r adnoddau iddyn nhw ddarparu mannau diogel i blant gael mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Gwyliwch y gweminarau hyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol GIG Aneurin Bevan ar Youtube.