Main Content CTA Title

Clwb Criced Hundleton yn rhwydo cyllid hanfodol

Roedd Clwb Criced Hundleton yn Sir Benfro yn brin o arian ac yn poeni am ei ddyfodol pan orfododd Covid-19 iddo ddod i stop yn ddirybudd.   

Heb ei ffioedd aelodaeth arferol, yn ogystal â’r incwm sy’n cael ei godi o stiwardio digwyddiadau allanol, roedd y clwb dal yn gorfod talu am gadw’r cae mewn cyflwr da a pharhau â’i yswiriant. 

I wneud yn siŵr bod y clwb yn aros wrth galon bywyd y pentref, mae wedi rhwydo grant o fwy na £1000 o Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi achub clybiau chwaraeon ledled Cymru a fyddai wedi gorfod cau fel arall. 

Dywedodd Stephen Williams o’r clwb: “Mae’r grant rydyn ni wedi’i dderbyn gan Chwaraeon Cymru wedi galluogi i ni ddal i dalu am ddeunyddiau ar gyfer cynnal a chadw’r cae criced a’r cae allanol, fel ei fod yn barod ar gyfer chwaraewyr pan ddaw cyfle ar gyfer hynny.”

Mae’r gwaith wedi cael ei wneud gan ei dîm parod o wirfoddolwyr, gyda phawb yn awyddus i wneud defnydd da o gyfnod y cyfyngiadau symud.

Mae’r rhwydi criced wedi cael eu huwchraddio ac mae’r ystafelloedd newid, y bocs sgorio a’r meinciau wedi cael eu paentio i gyd,” ychwanegodd Stephen. “Pan fyddwn ni’n gallu croesawu chwaraewyr yn ôl i’r clwb yn y diwedd, hen ac ifanc, fe fyddan’ nhw’n gweld cae chwarae ac adeiladau yn y cyflwr gorau erioed ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog eraill i weld bod y clwb yn un blaengar a’i fod wedi cael ei gymell i ddod o hyd i bethau positif yng nghanol yr holl bethau negyddol mae Covid wedi’u creu.”

Mae’r grant argyfwng yn golygu nawr y gall y clwb – unwaith y bydd yn cael caniatâd i ailagor ei gyfleusterau hyfforddi a chwarae yn llawn – barhau i ddarparu criced ar gyfer ei aelodau hŷn a’r criwiau dan 15, dan 13 a dan 9 ymhell i’r dyfodol.       

“Heb y grant yma gan Chwaraeon Cymru, ni fydden ni wedi bod ag adnoddau ariannol i wneud i hyn i gyd ddigwydd,” meddai Stephen wedyn. “Fe fydden ni i gyd wedi bod yn siarad am ba mor wael oedd hyn wedi ein taro ni a’r goblygiadau negyddol. Yn hytrach, mae pobl nawr yn dweud bod y gwelliannau wedi cael eu gwneud er gwaetha’r cyfnod heriol yma. Mae hynny wedi codi calon pobl naill ai drwy helpu gyda’r gwaith neu ddim ond drwy weld beth sydd wedi’i gyflawni.”

Cyllid newydd i helpu i warchod a pharatoi chwaraeon yng Nghymru

Mae Clwb Criced Hundleton yn un o fwy na 300 o glybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi rhannu mwy na £600k o Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.         

I helpu i warchod mwy fyth o glybiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, a galluogi iddynt baratoi ar gyfer cynnal chwaraeon ochr yn ochr â Covid-19, fe fyddwn ni’n cyhoeddi Cronfa newydd fawr ddydd Mawrth 7 Gorffennaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth lawn drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Cymru Actif

Newyddion Diweddaraf

Mae taith Priya yn dangos sut y gall campfa leol newid bywyd plentyn

O rowlio’n fabi i fflipiau hyderus, mae Priya yn ffynnu yn YMCA y Barri.

Darllen Mwy

Sut achubodd clwb triathlon o Ogledd Cymru freuddwydion Eve

Pan oedd sôn y byddai'n rhaid i glwb triathlon Eve gau, camodd ei chymuned i’r adwy.

Darllen Mwy

Cynllun Criced Cymru i gael mwy o ferched a genethod i wneud chwaraeon

Mae Criced Cymru yn cymryd camau breision i sicrhau bod mwy o ferched a genethod yn cymryd rhan yn y…

Darllen Mwy