Main Content CTA Title

Howzat! Cyllid ‘Lle i Chwaraeon’ yn taro deuddeg i glwb criced

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Howzat! Cyllid ‘Lle i Chwaraeon’ yn taro deuddeg i glwb criced

Mae clwb criced yng Nghwm Tawe wedi datgan bod arian grant gan Chwaraeon Cymru yn allweddol i roi bywyd newydd i’w gyfleusterau.

Mae Clwb Criced Ynystawe, sy’n dathlu ei ganmlwyddiant eleni, wedi gallu gwneud gwaith adnewyddu yr oedd ei wir angen ar ei neuadd dan do, diolch i grant gwerth £17,582 o gronfa ‘Lle i Chwaraeon’.       

Mae gan y clwb fwy na 200 o chwaraewyr ar draws pob grŵp oedran, sy’n mwynhau hyfforddiant yn ei gyfleuster rhwydi dan do wedi’i uwchraddio, ac mae’r neuadd hefyd yn cael ei chynnig am ddim i ysgolion cynradd yr ardal, i helpu i ddenu mwy fyth o ieuenctid i chwarae’r gêm.                       

Bachgen chwarae criced
Mae cyllid Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru wedi helpu Clwb Criced Ynystawe i adnewyddu ei neuadd dan do.

Fe gostiodd y gwaith adnewyddu ychydig bach mwy na’r 350 o sylltau wariodd y clwb ar brynu ei gartref presennol ym Maes Yr Afon yn 1953, ond mae’r cyfan wedi bod yn werth y gwariant. 

Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Phil Rowe: “Roedd cyflwr gwael yr hen lawr a’r rhwydi’n risg fawr i iechyd a diogelwch ac roedd yn golygu bod ein timau ni’n gyfyngedig o ran pa mor aml roeddent yn gallu hyfforddi a pha sgiliau allent eu hymarfer yn ystod y sesiynau hynny. Daeth yn gyfleuster nad oedd clybiau chwaraeon eraill eisiau ei ddefnyddio. Mae gallu gwneud y gwaith adnewyddu yma wedi bod yn grêt i’n clwb ni ac wedi rhoi lleoliad fforddiadwy i glybiau chwaraeon lleol hyfforddi. Roedd codi’r arian oedd ei angen i adnewyddu’r neuadd yn uchelgais tymor hir, ac roedd y grant Lle i Chwaraeon yn hanfodol”. 

“Mae gennym ni gyfleuster bywiog nawr lle mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn gallu ffynnu, ac mae’n amgylchedd croesawus i chwaraewyr newydd, teuluoedd a’r gymuned ehangach.”

Pobl y tu allan i glwb criced
Agorwyd y cyfleuster ar ei newydd wedd yn swyddogol gan Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Drwy logi ei neuadd, hyd yma i dri chlwb pêl droed lleol, pum clwb criced, a chynnal dosbarthiadau bocsarfer dair gwaith yr wythnos, mae gan Glwb Criced Ynystawe gynllun cynaliadwy yn ei le eisoes i godi’r arian y bydd arno ei angen i newid y llawr eto ymhen 20 mlynedd. Nod y clwb yw parhau i hybu’r cyfleuster ymhlith grwpiau cymunedol lleol, a thargedu teuluoedd ac oedolion hŷn.                         

Wrth ymweld â’r cyfleuster i’w agor yn swyddogol, dywedodd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae cael mynediad i gyfleusterau chwaraeon o safon uchel yn hanfodol os ydyn ni eisiau creu Cymru sy’n genedl fwy egnïol, felly mae’n wych gweld y gwahaniaeth positif mae’r cyfleusterau newydd yng Nghlwb Criced Ynystawe yn ei wneud. Dyma beth roedden ni’n ei ragweld wrth lansio’r gronfa Lle i Chwaraeon y llynedd.” 

Yn 2019, neilltuodd Llywodraeth Cymru £5m ar gyfer y gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ i Chwaraeon Cymru, i ddyfarnu grantiau i wella, gwarchod neu greu cyfleusterau chwaraeon newydd yng Nghymru. Yn ogystal ag uwchraddio Clwb Criced Ynystawe, mae’r arian wedi helpu i gyllido mwy na 150 o brosiectau sydd o fudd i 28 o wahanol chwaraeon. Mae’r prosiectau’n amrywio o draciau beicio newydd i adnewyddu ystafelloedd newid, caeau artiffisial newydd, gosod llifoleuadau yn eu lle, robotiaid hyfforddi tennis bwrdd a phopeth yn y canol.                   

Pobl y tu mewn i glwb criced
Disgyblion o YGG Lôn Las ac YGG Pontardawe, dwy ysgol leol, yn defnyddio cyfleusterau Clwb Criced Ynystawe ar eu newydd wedd mewn sesiwn hyfforddi dan arweiniad Criced Cymru.

Oherwydd y galw mawr am welliannau pellach ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £3m i’w ddefnyddio ar brosiectau Lle i Chwaraeon yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21. Mae Chwaraeon Cymru yn neilltuo £1m i’w fuddsoddi mewn mwy o gaeau artiffisial a bydd £2m ar gael mewn cronfa gyhoeddus agored; £1m yn fwy na’r llynedd. Bydd manylion llawn am sut gall clybiau a sefydliadau chwaraeon wneud cais am gyfran o’r arian yn cael eu cyhoeddi yn fuan. 

Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i wella, gwarchod a chreu cyfleusterau chwaraeon newydd ledled Cymru a diogelu cyllid i gefnogi’r uchelgeisiau tymor hir yma.     

I gael gwybod mwy am y grantiau amrywiol sydd ar gael i helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon i gael mwy o bobl i fod yn fwy actif yn amlach, ewch i www.chwaraeon.cymru 

Pobl y tu mewn i glwb criced
Daeth seren y Gweilch, Keelan Giles, draw am dro i’r agoriad swyddogol hefyd. Mae Clwb Criced Ynystawe yn awyddus i ddod yn hwb aml-chwaraeon ac mae eisoes yn llogi ei gyfleusterau i glybiau chwaraeon lleol eraill eu defnyddio.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy