Main Content CTA Title

Bwyd – cyngor call ar gyfer codi hwyliau

Mae bwyd yn gallu gwneud i ni deimlo’n well ond gall gael effaith negatif hefyd. 

Mae sicrhau eich bod yn bwyta deiet briodol wedi cael mwy o sylw yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Dyma ein cyngor call ni ar gyfer cael y manteision gorau o’ch bwyd, gan ein Maethegydd Perfformiad Felicity Hares.

 

1. Amseru prydau bwyd. 

Os byddwch chi’n gadael cyfnodau hir rhwng prydau, neu ddim yn ychwanegu byrbrydau bach, bydd eich lefelau egni yn gostwng. Bryd hynny, fe fyddwch yn fwy agored i wneud dewisiadau afiach am fwyd. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer y diwrnod, gan gynllunio byrbrydau iach a chael egni rheolaidd er mwyn i’ch ymennydd weithio. 

 

2. Edrychwch ar eich deiet gyfan. 

Ni fydd un math o fwyd sy’n cael ei ystyried fel ‘super-food’ yn gwneud gwahaniaeth. Rhaid cael cymysgedd o lawer o wahanol fitaminau a mwynau er mwyn gwella swyddogaeth eich ymennydd. 

Hefyd meddyliwch am y bwyd sy’n gallu cael dylanwad negatif ar eich hwyliau chi, fel caffein, alcohol a byrbrydau siwgr. Ni fydd y cynnydd mewn egni’n para’n hir. 

 

3. Bwyta’n ystyrlon. 

Cael perthynas iach gyda bwyd heb ei ddefnyddio fel gwobr. Os oes gennych chi berthynas bositif gyda bwyd, bydd hyn yn cael effaith bositif ar eich hwyliau.

Am fwy o gyngor a help, edrychwch ar yr ymgyrch #CymruActif: https://www.sport.wales/beactivewales/mental-health-and-wellbeing/

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy