Main Content CTA Title

Cefnogaeth mewn argyfwng i glybiau cymunedol yn cyrraedd bron i £450,000

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cefnogaeth mewn argyfwng i glybiau cymunedol yn cyrraedd bron i £450,000

Mae cefnogaeth y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi’i darparu yn awr i 245 o glybiau yng Nghymru yn dilyn y rownd ddiweddaraf o geisiadau cymeradwy. 

Mae cymeradwyo cyllid i 36 o glybiau pellach yr wythnos hon wedi arwain at ddosbarthu £64,446 fel cefnogaeth ar unwaith.           

Mae’n golygu bod £444,823 wedi cael ei roi i glybiau cymunedol yng Nghymru i’w helpu i oroesi baich ariannol y cyfyngiadau symud. 

Hefyd, mae pedwar cais wedi cael eu gohirio yr wythnos hon tra maent yn aros am fwy o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth. 

 

Mae Chwaraeon Cymru wedi sicrhau bod £550,000 ar gael drwy gyfrwng y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng tra bo cynlluniau i ddarparu cefnogaeth i chwaraeon ailddechrau’n cael eu llunio’n derfynol. 

Ac mae llawer o glybiau wedi cysylltu er mwyn tynnu sylw at effaith y cyllid. Un sydd wedi cysylltu yw Robert Nash, Ysgrifennydd Clwb Bowlio Cymunedol Gelligaled. Dywedodd:

“Mae’r dyfarniad gawsom ni wedi galluogi i ni sichrau bod taliadau hanfodol, fel yswiriant y clwb ar gyfer ei asedau, yn gallu cael eu talu a’n bod ni’n gallu bod yn fodlon bod y rhan honno o wariant ein clwb ni’n parhau. Mae’n ardderchog bod Chwaraeon Cymru wedi cymryd y camau i ddarparu’r Cyllid Cymorth Mewn Argyfwng yma yn ystod cyfnod mor anodd pryd byddai clybiau fel ein un ni nawr yn chwarae bowls ac yn casglu tanysgrifiadau gan yr aelodau, sy’n chwarae rhan hanfodol mewn creu incwm ar gyfer y clwb i dalu am eitemau hanfodol fel yswiriant clwb. Dim ond drwy sefydliad fel Chwaraeon Cymru fedr clybiau oroesi gobeithio, drwy gyfrwng yr help. Rydyn ni’n eithriadol ddiolchgar.”

Mae mwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd, a chwestiynau ac atebion, ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yma. 

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i [javascript protected email address]

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy