Main Content CTA Title

Arolwg i fapio arfer da ledled Cymru

Mae arolwg ar-lein newydd wedi'i lansio a fydd yn helpu Chwaraeon Cymru i nodi llwyddiannau, heriau a syniadau pobl ynghylch gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol i bawb yng Nghymru.

Mae gan Chwaraeon Cymru ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai sy’n creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc, naill ai mewn rôl gyflogedig neu rôl wirfoddol.

Wrth esbonio’r arolwg ymhellach, dywedodd Owen Lewis, Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon Cymru: “Mae effaith pandemig Covid yn ogystal â’r argyfwng costau byw presennol wedi amlygu pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n dal i ofyn i’n hunain beth allwn ni ei wneud yn wahanol i wneud chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ddeniadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod angen i ni barhau i addasu’r hyn rydyn ni’n ei gynnig fel ein bod ni’n cael gwared ar unrhyw rwystrau i chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydym am i bawb allu cael mynediad at weithgareddau mewn ffyrdd sy'n gweddu i'w hanghenion unigol drwy gydol eu hoes. Dylai cyfleoedd fod yn gynhwysol, yn ddiogel ac yn fforddiadwy, yn ogystal â darparu'r sgiliau i bobl gyflawni eu nodau. Ond yn anad dim, mae'n rhaid i chwaraeon a gweithgarwch corfforol fod yn bleserus!

Gwyddom fod miloedd o bobl ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi eu cymunedau i fod yn actif. Rydyn ni eisiau deall yn well beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a pham, ac edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio profiadau’r rhai sydd eisoes yn gwneud gwaith rhagorol i helpu eraill.”

Ychwanegodd Owen: “Bydd yr arolwg pwysig hwn yn ein helpu i fapio arfer da ledled y wlad fel y gallwn nodi arweinwyr a gwneuthurwyr newid posibl yn y rhwydwaith hwn.

“Hoffem hefyd i bawb sy’n llenwi’r arolwg ystyried ei anfon ymlaen at ffrindiau neu gysylltiadau a allai hefyd fod â diddordeb mewn rhannu eu barn gan ein bod am ddysgu gan gynifer o bobl â phosibl.

“Mae'r arolwg yn cymryd tua 10-15 munud i'w lenwi. Byddem wir yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i helpu i lunio dyfodol chwaraeon yng Nghymru.”

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio ar yr arolwg gyda thîm o’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Diane Crone. Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn fwy anffurfiol, cysylltwch â'r [javascript protected email address] a fydd yn trefnu amser i siarad. 

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy