Rhaglen ymarferol sydd â’i ffocws ar y dyfodol, i'r rhai sy'n barod i droi dylanwad yn effaith real.
Arwain gydag Effaith: Arweinyddiaeth Gynhwysol ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru
Am y rhaglen
Mae Arwain gydag Effaith yn brofiad arweinyddiaeth egnïol, cyfranogol i bobl mewn swyddi dylanwadol ar draws y byd chwaraeon yng Nghymru.
Mae angen arweinwyr ar y byd chwaraeon yng Nghymru sy'n mynd y tu hwnt i'r bocsys ticio. Mae'r rhaglen hon yn ymwneud â newid pendant, parhaol – ynoch chi'ch hun, eich sefydliad, ac ar draws y system.
Drwy ymuno, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Wynebu rhagdybiaethau a mireinio eich arweinyddiaeth drwy brofiadau cyfranogol, heriol.
- Cael persbectif ffres gan leisiau amrywiol y tu mewn a'r tu allan i’r byd chwaraeon.
- Cryfhau'r dewrder a'r eglurder i arwain newid gyda hyder ac effaith.
Beth fyddwch chi’n ei brofi
Nid dysgu goddefol yw hwn - byddwch yn cael eich herio i feddwl, gweithredu ac arwain yn wahanol.
- Cyfranogol ac ymarferol – heriau, senarios a gweithgareddau arweinyddiaeth real.
- Persbectif ffres – straeon beiddgar a syniadau newydd o sectorau eraill.
- Adnoddau ymarferol – strategaethau pendant i newid diwylliant a sbarduno newid real.
- Cefnogaeth gan gydweithwyr – gweithio a dysgu ochr yn ochr â grŵp bach, amrywiol o arweinwyr o'r sector.
Pam cymryd rhan?
- Twf personol: Mireinio eich arweinyddiaeth i herio a newid y status quo.
- Effaith sefydliadol: Ymgorffori cynhwysiant mewn penderfyniadau, polisïau a diwylliant.
- Newid system: Dylanwadu ar lywodraethu a chanlyniadau ar draws y byd chwaraeon yng Nghymru.
- Rhwydwaith cydweithwyr: Ymuno â chriw bach ac amrywiol a chysylltu ag arloeswyr.
- Gwerth: Buddsoddiad uniongyrchol ynoch chi gan Chwaraeon Cymru.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Dylech wneud cais os ydych chi:
- Yn uwch arweinydd, Cadeirydd neu unigolyn sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn y byd chwaraeon yng Nghymru.
- Mewn rôl sydd â'r awdurdod cyfredol i ddylanwadu ar newid.
- Yn unigolyn agored eich meddwl sy’n barod i gael eich herio ac wedi ymrwymo i weithredu.
Byddwn yn dewis criw cytbwys yn seiliedig ar y canlynol:
- Dylanwad a pharodrwydd i weithredu (nid arbenigedd blaenorol).
- Cymysgedd o swyddi a sefydliadau.
- Potensial i gael effaith.
Ymrwymiad Amser a Fformat
Cyfanswm: 5.5 diwrnod wyneb yn wyneb dros 12 i 18 mis, gan gynnwys aros dros nos dair gwaith.
Nifer yr arweinwyr: Hyd at 15
Gweithdai wyneb yn wyneb:
- Digwyddiad deuddydd preswyl (24 i 26ain Tachwedd 2025) – Arwain yr Hunan ac Arwain Eraill; yn cyfuno adlewyrchu dwfn gydag adnoddau ymarferol i feithrin hyder, ehangu persbectif, ac arwain yn gynhwysol.
- Gweithdy 1 diwrnod (Dyddiad i'w gadarnhau 2026) – Arwain Systemau; archwilio sut mae penderfyniadau, llywodraethu a phŵer yn siapio diwylliant, a sut i sbarduno newid ar lefel strategol.
- Gweithdy preswyl 1 diwrnod (Dyddiad i'w gadarnhau 2026) – O Adlewyrchu i Weithredu; gweithio gyda chyfoedion i fynd i'r afael â heriau real, gwella sgiliau datrys problemau, a gadael gyda chynllun cynhwysiant ymarferol.
Nodyn: Nid oes opsiwn i ymuno â'r rhain ar-lein.
Cefnogaeth barhaus:
- Sesiynau ar-lein
- Partneriaethau cydweithwyr ar gyfer adlewyrchu ac atebolrwydd
Sut i wneud cais?
Cam 1: Gwirio cymhwysedd
Rhaid i chi:
- Dal rôl arweinyddiaeth neu wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol mewn sefydliad sy’n cael ei gyllido gan Chwaraeon Cymru.
- Ymrwymo i bob un o ddyddiadau’r rhaglen.
- Bod yn barod i brofi rhagdybiaethau, derbyn her a chymhwyso dysgu
- Cymeradwyaeth fer gan eich Prif Swyddog Gweithredol / Cadeirydd am eich rôl fel arweinydd
Cam 2: Dewis eich fformat
Gallwch gyflwyno eich cais drwy:
- Ffurflen gais ysgrifenedig (uchafswm o 2000 o cymeriadau y cwestiwn)
- Fideo (MP4, uchafswm o 5 munud i gyd)
Cam 3: Cwblhau’r cais
Gwnewch gais nawr mewn fformat ysgrifenedig.
Gwnewch gais nawr mewn fformat fideo.
Sylwer, bydd elfen ysgrifenedig i'r ddau fformat ymgeisio, er mwyn casglu manylion personol.
Dyddiadau allweddol
- Ceisiadau ar agor: 29 Medi 2025
- Ceisiadau'n cau: 31 Hydref 2025
- Cadarnhau llefydd: 7 Tachwedd 2025
Cwestiynau?
E-bostiwch Eleanor Ower ar [javascript protected email address]