Main Content CTA Title

Hen Chwaraeon, Rheolau Newydd: Sut mae chwaraeon yn addasu o ran cynulleidfa a chynhwysiant

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hen Chwaraeon, Rheolau Newydd: Sut mae chwaraeon yn addasu o ran cynulleidfa a chynhwysiant

Ledled Cymru a thu hwnt, mae llawer o chwaraeon yn cynnig gemau byrrach, cyflymach ac wedi'u haddasu mewn ymgais i apelio at gynulleidfaoedd newydd. 

Er mwyn addasu i anghenion pobl, i gael lle yn ein dyddiaduron prysur ac i alluogi grwpiau llai o ffrindiau i ddod at ei gilydd a chwarae, mae sector chwaraeon Cymru yn symud gyda'r oes drwy gyflwyno fformatau arloesol a difyr.

Er ein bod dal yn frwdfrydig dros ein chwaraeon traddodiadol, rydyn ni'n gweld gemau ychwanegol, amgen, sy'n gyflym, yn llawn bwrlwm, ac yn haws i'w chwarae.

Dyma rai o'r chwaraeon sy'n cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ledled Cymru…

Hoci 5 bob ochr (Hockey5s)

Mae'n gyflym iawn ac mae gofyn i chi fod yn hynod fedrus…dyma gyflwyno Hockey5s

Y peth gwych yw y gellir ei chwarae bron yn unrhyw le ar lefel llawr gwlad. Gyda dau dîm o bump o bobl, does dim angen i chi ddod o hyd i dîm o 11 o chwaraewr mwyach.

Mae Hoci Cymru yn awyddus i ddefnyddio'r fersiwn gyflymach a symlach hon o'r gêm i apelio at gynulleidfaoedd iau ac i annog gemau mwy rheolaidd a chyflymach ymhlith ffrindiau, yn union fel y mae pêl-droed pump bob ochr wedi'i wneud. Er mwyn helpu i’w datblygu, mae Chwaraeon Cymru wedi defnyddio cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru i ddyfarnu £65,000 i Hoci Cymru i dalu am fyrddau adlamu.

Dywedodd Paul Whapham, Prif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru: “Mae Hockey5s yn ffordd gyflym a chyffrous iawn o gyflwyno hoci i fwy o bobl. Mae'n berffaith ar gyfer ein menter 'Switch the Pitch'. Nid oes angen gwair ffug arnoch chi i chwarae - mae modd ei chwarae ar unrhyw arwyneb. A chyda llai o chwaraewyr, gallwch gael sawl tîm, sy'n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion a chlybiau iau.

“Mae byrddau adlamu Hockey5s wedi’u gwasgaru o gwmpas Cymru - o Fae Colwyn i Fynwy - er mwyn i ysgolion a chlybiau annog mwy o blant i godi ffon a chwarae hoci.”

Plant yn chwarae hoci ar iard yr ysgol
Nid oes angen gwair ffug arnoch chi i chwarae - mae modd ei chwarae ar unrhyw arwyneb. A chyda llai o chwaraewyr, gallwch gael sawl tîm, sy'n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion a chlybiau iau.
Paul Whapham, Prif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru

Criced Bwrdd

Anghofiwch am beli gwyn a wicedi, mae Criced Bwrdd yn cael ei chwarae ar fwrdd Tenis Bwrdd ac wedi'i greu gan yr Arglwydd Taverner.

Gan ddefnyddio ramp a phêl a bat pren bach, gellir ei chwarae gan bobl a chanddyn nhw nam difrifol. Mae chwe chwaraewr ym mhob tîm ac mae bob chwaraewr yn cael cyfle i fatio, bowlio a maesu.

Ledled Cymru, mae tîm Criced Cymru wedi bod yn brysur yn cyflwyno sesiynau mewn ysgolion ac yn cynnal cystadlaethau rhagbrofol rhanbarthol. Mewn diwrnod arbennig o gemau terfynol, bu 12 ysgol – a 150 o blant – yn brwydro am Gwpan a Tharian yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. 

Er mwyn apelio at gynifer o bobl â phosibl, mae modd addasu rheolau Criced Bwrdd.

Meddai Elis, disgybl o Ysgol Maes y Gwendraeth:

“Fy hoff ran i yw taro’r bêl, ceisio cael pwyntiau. Dw i'n hoffi'r sain pan mae’r bêl yn taro'r metel.”

Bachgen yn dal bat criced bach yn chwarae criced bwrdd

Pêl-fasged 3 bob ochr

Mae'r gêm tri bob ochr mor boblogaidd mae wedi ennill ei lle yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf 2020 a Gemau'r Gymanwlad 2022. Mae Taith y Byd FIBA ​​3X3 a Chwpan y Byd ar y gweill hefyd.

Mae wedi cael ei chwarae ar y strydoedd ers tro byd, ac ar gyrtiau lleol. Ac er ein bod ni bob amser wedi chwarae’r gêm yn anffurfiol fel hyn, mae mwy o gyfleoedd bellach i chwarae'n gystadleuol gyda thîm llai.

Mae Taith Haf 3X3 Pêl-fasged Cymru yn dod â’r gystadleuaeth i'r Fflint, Caerdydd ac Abertawe gyda chategorïau oedran yn dechrau o dan 12 oed yr holl ffordd i oedolion. 

I gefnogi'r galw cynyddol am 3X3, mae Chwaraeon Cymru wedi helpu i ariannu gwaith adnewyddu cyrtiau ledled y wlad - gan gynnwys grant o £99,000 gan gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru i dalu am waith uwchraddio yn nhri lleoliad y daith.

Dywed Gavin Williams o Bêl-fasged Cymru: “Mae’r gêm 3x3 wedi dod yn hynod boblogaidd. Does dim angen tîm o 12 arnoch chi, gallwch chi gyrraedd y parc gyda'ch ffrindiau a chychwyn chwarae. Mae’n anffurfiol. Mae'n drefol ac mae gwreiddiau’r gêm mewn ffasiwn a cherddoriaeth. Dyna pam mae gennym ni system PA enfawr bob amser yn nigwyddiadau ein Taith Haf - mae’n rhan o'r adloniant ehangach.” 

Teenage boys playing basketball
Does dim angen tîm o 12 arnoch chi, gallwch chi gyrraedd y parc gyda'ch ffrindiau a chychwyn chwarae. Mae’n anffurfiol. Mae'n drefol ac mae gwreiddiau’r gêm mewn ffasiwn a cherddoriaeth
Gavin Williams, Prif Swyddog Gweithredol Pêl-fasged Cymru

Pêl-rwyd Blitz

Mae pêl-rwyd Blitz yn gêm newydd ac mae modd ei chwarae yn unrhyw le (bron) gydag ychydig iawn o offer. Mae wedi'i chynllunio i chwalu rhwystrau cost i gymryd rhan — dyna pam y gwnaeth pobl ifanc o gymunedau incwm isel ledled Cymru helpu i'w chreu, ochr yn ochr â StreetGames a Phêl-rwyd Cymru.

Mae'n gêm gyflym 3 v 3 gyda phedair gôl. Yn gwbl wahanol i gêm bêl-rwyd draddodiadol, gall unrhyw chwaraewr saethu o unrhyw le ar y cwrt. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi addasu'r gêm i gyd-fynd â bob oedran a gallu. Mae yna hyd yn oed ddewis o barth torri rheolau lle gallwch chi redeg gyda'r bêl.

Dywed Keira Edwards, Pennaeth Cyfranogiad Pêl-rwyd Cymru: “Mae Blitz Netball yn fersiwn newydd, wych, o bêl-rwyd, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn denu torf fwy amrywiol o bobl i’n camp ni. Cafodd ei chynllunio ar y cyd â phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc – ac felly rydyn ni'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael y cyfle i fwynhau ein camp wych, yn eu ffordd nhw!”

Dysgwch sut y cafodd Pêl-rwyd Blitz ei chreu gan bobl ifanc.

Mae merch yn ceisio blocio ergyd mewn pêl-rwyd tra bod merch arall yn anelu at saethu.

Futsal

Fe allech chi ddweud mai futsal yw meistr y fersiynau byr, cyflym o chwaraeon traddodiadol. Dechreuodd y cyfan yn Uruguay yn y 1930au. Mae angen tîm pêl-droed pump bob ochr, 40 munud ar y cloc a byddwch yn defnyddio maint cae a goliau yr un fath â phetaech yn chwarae pêl-law.

Mae Futsal yn gyflym, yn wyllt ac yn grefftus. Edrychwch ar rai o dimau pêl-droed gorau'r byd a bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n rhoi lle blaengar i futsal – fel Brasil, yr Ariannin a Phortiwgal. 

Caiff ei chwarae dan do, ac mae'n wych ar gyfer hyfforddi yn y gaeaf, gan gynnig dihangfa rhag tywydd garw. Hefyd, mae timau llai yn golygu nad ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i chwaraewyr. 

Mae 11 tîm yn y gynghrair genedlaethol yng Nghymru. Mae Clwb Futsal Caerdydd newydd ennill rownd derfynol y gemau ail gyfle a bydd yn wynebu timau Ewropeaidd yng Nghynghrair Pencampwyr Futsal UFA y tymor nesaf. Mae gan y clwb gynlluniau i sefydlu tîm menywod ac i sefydlu timau datblygu i ehangu'r gêm ymhellach.

Dywed Chris Foot o'r clwb: “Mae Futsal yn gamp dechnegol, dactegol, lle mae angen gwneud penderfyniadau cyflym. Mae'n ffordd wych o wella sgiliau ar gyfer y gêm 11 bob ochr, yn enwedig yn ystod y gaeaf gan ei bod yn cael ei chwarae dan do.”

Mae carfan Clwb Futsal Caerdydd yn dathlu ennill Cynghrair Futsal Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda'r tlws a'r fedal o amgylch eu gyddfau
Clwb Futsal Caerdydd yn dathlu ennill Cynghrair Futsal Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Delwedd: Nik Mesney / Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Lacrós 6 bob ochr (Sixes Lacrosse)

Cadwch lygad am bedwar chwaraewr lacrós o Gymru - Tomas Rosser, Sophy Coombes-Roberts, Florence Taylor a Loulou Rowlands - sy'n anelu at gystadlu yng Ngemau Olympaidd Los Angeles yn 2028.

Mae'r pedwarawd anhygoel yng ngharfan Lacrós 6 bob ochr Prydain. Mae Lacrós 6 bob ochr yn fersiwn fyrrach a chyflymach o'r gêm. Yn wahanol i’r gêm draddodiadol, mae'r cyfan yn ymwneud â chwarae cyflym, sgoriau uchel, di-baid, gyda chloc ergyd 30 eiliad.

Mae gêm Lacrós draddodiadol yn para 60 munud, ond mae’r gêm 6 bob ochr wedi'i chwblhau mewn 32 munud. Nid oes safleoedd arbenigol, dim ond rhedwyr a gôl-geidwaid, gan wneud y gêm yn hygyrch ac yn hawdd i'w dysgu.

Rygbi Cyffwrdd a Rygbi Cerdded

Os ydyn ni'n sôn am fersiynau byrrach, anffurfiol o gêm sy'n golygu bod grwpiau llai o bobl yn cael chwarae, yna ni allwn beidio â sôn am Rygbi Cyffwrdd a Rygbi Cerdded.

A hwythau'n hynod boblogaidd, mae llawer o glybiau rygbi'r wlad wedi sefydlu timau, gan annog cyn-chwaraewyr i ddychwelyd i’r cae. Mae llawer o chwaraewyr yn rhoi'r gorau i chwarae yn eu 30au, ond mae'r fformatau hygyrch hyn yn cynnig ffordd o aros yn y gêm, gan gadw’r elfennau ffitrwydd a chyfeillgarwch, ond heb y cyswllt llawn.

Beth yw’r rheolau? Chi sy'n dewis! Penderfynwch beth fydd maint eich tîm a chydiwch mewn pêl rygbi o unrhyw faint. Darllenwch ganllawiau Rygbi Cyffwrdd URC.

Mae Clwb Rygbi Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio timau newydd fel y gall pobl ddewis pa fath o rygbi maen nhw eisiau ei chwarae. Dywedodd ei Gadeirydd, Justin Hostettler-Davies: “Yn draddodiadol, dim ond timau dynion cyswllt llawn oedd gennym ni a oedd yn golygu bod chwaraewyr yn rhoi’r gorau i chwarae pan oedd y gofynion yn ormod i’w cyrff. 

“Ond nawr mae gennym dimau rygbi cyffwrdd a rygbi cerdded, gan gynnwys tîm menywod, sy'n golygu nad ydyn ni bellach yn glwb rygbi i ddynion hyd at eu 30au yn unig. Gall chwaraewyr barhau i fwynhau rygbi mewn fformat sy'n addas iddyn nhw am weddill eu hoes.”

Tîm Rygbi Cyffwrdd Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr
Gall chwaraewyr barhau i fwynhau rygbi mewn fformat sy'n addas iddyn nhw am weddill eu hoes
Justin Hostettler-Davies, Cadeirydd Clwb Rygbi Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr

Pêl-droed Americanaidd gyda Baner (Flag Football)

Os yw'n well gennych chi chwaraeon tîm o Unol Daleithiau America, yna dyma’r gamp i chi. Yng Nghymru, mae sawl tîm Pêl-droed Baner, math digyswllt o Bêl-droed Americanaidd lle mae timau cymysg o oedolion yn tynnu baner oddi ar y sawl sy'n cludo’r faner, yn lle taclo.

Yn wir, mae wedi dod mor boblogaidd, mae disgwyl y bydd yn rhan o Gemau Olympaidd 2028 yn LA.

Mae yna lawer o dimau ledled De Cymru gan gynnwys Cardiff Hurricanes, Gwent Gators a Swansea Hammerheads.

Dywedodd Andy Giboney o Gwent Gators: "Mae Pêl Droed Baner wedi'i addasu o Bêl Droed Americanaidd fel bod unrhyw un yn gallu chwarae. Mae'n dileu'r angen am daclo a chyswllt fel bod y timau'n gallu cael merched a dynion o bob oedran a gallu'n chwarae gyda'i gilydd. Dim ond 5 v 5 ydi'r gêm felly does dim angen rhestr enfawr yn arddull yr NFL er mwyn cael gêm bob hyn a hyn neu ddechrau clwb."

Tîm menywod yw'r Cardiff Valkyries ac maen nhw'n chwarae fersiwn cyswllt 7 bob ochr o'r gamp. 

O hoci cyflym i griced cynhwysol a phêl-fasged wedi'i ysbrydoli gan elfennau trefol, mae Cymru yn arloesi ac yn ehangu'r dirwedd chwaraeon. 

Dywedodd Paul Whapham, Prif Weithredwr Hoci Cymru: “Mae cefndiroedd ac anghenion pobl yn wahanol, yn ogystal â’u hamserlenni prysur. Mae'n rhaid dod o hyd i ffyrdd o addasu ein chwaraeon i'w gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws eu cynnwys fel y gall mwy o bobl gymryd rhan."

Mae'r fformatau cyflym a hyblyg hyn yn gwneud chwaraeon yn fwy hygyrch ac yn fwy cynhwysol. P’un ai a yw'n dod â chyn-chwaraewyr yn ôl, yn denu cefnogwyr newydd, neu'n ei gwneud hi'n haws cynnwys gêm gyda ffrindiau mewn amserlen brysur, mae'r gemau wedi'u haddasu hyn yn dangos y gall chwaraeon esblygu a ffynnu mewn ffyrdd ffres a chyffrous.

Mae gan bob clwb cymunedol a sefydliad chwaraeon y grym i ddatblygu'r gêm. Ystyriwch sut y gallai addasu eich camp agor drysau i chwaraewyr newydd a chreu cymuned gryfach a mwy cynhwysol.

Newyddion Diweddaraf

Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

Dyma 7 gwelliant smart y gall eich clwb eu hariannu gyda hyd at £25,000 o'r Grant Arbed Ynni.

Darllen Mwy

Cyfarfod y rhai sy’n Newid y Gêm ar gyfer y Dyfodol drwy oresgyn rhwystrau yn y byd chwaraeon yng Nghymru

Ledled Cymru, mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr chwaraeon yn ‘newid y gêm.’

Darllen Mwy

Sut mae clwb rhedeg ym Merthyr yn rhoi hwb i iechyd meddwl merched

Oherwydd y diogelwch a'r cyfeillgarwch, menywod yw 75% o'r rhedwyr yn Sole Mate.

Darllen Mwy