Main Content CTA Title

Chwaraeon Cymru yn ymrwymo i gyfleoedd cyfartal i ferched a genethod mewn chwaraeon drwy lofnodi Datganiad Brighton

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru yn ymrwymo i gyfleoedd cyfartal i ferched a genethod mewn chwaraeon drwy lofnodi Datganiad Brighton

Mae Chwaraeon Cymru wedi llofnodi Datganiad Brighton a Helsinki fel arwydd pellach o'i ymrwymiad i greu cyfleoedd cyfartal a theg i ferched a genethod gymryd rhan, cystadlu a chreu gyrfaoedd mewn chwaraeon.

Beth yw Datganiad Brighton?

Mae Datganiad Brighton a Helsinki yn gytundeb rhyngwladol sy'n cefnogi datblygiad systemau chwaraeon a gweithgarwch corfforol tecach a mwy cyfartal i ferched a genethod. Crëwyd y datganiad yn 1994 gan y Gweithgor Rhyngwladol (IWG) ar Ferched a Chwaraeon.

Pam mae Chwaraeon Cymru wedi llofnodi Datganiad Brighton?

Mae Chwaraeon Cymru eisiau creu cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Mae gwybodaeth yn dweud wrthym ni fod merched a genethod yng Nghymru yn cymryd llai o ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol na dynion a bechgyn.

  • Cymerodd 57% o ferched yng Nghymru ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y mis diwethaf - o gymharu â 64% o ddynion. (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23)
  • Dim ond 35% o ferched sy'n actif 3+ gwaith yr wythnos, o gymharu â 43% o ddynion. (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23)
  • Nid yw 37% o ferched 7 i 16 oed yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon trefnus y tu allan i AG, o gymharu â 33% o fechgyn. (Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022)
  • Dim ond 10% o ferched yng Nghymru sy'n gwirfoddoli mewn chwaraeon, o gymharu â 27% o ddynion. (Traciwr Gweithgarwch Cymru Ebrill 2025)
Tanni Grey-Thompson yn dal Datganiad Brighton wedi'i lofnodi.
Chwaraeon Cymru yn llofnodi Datganiad Brighton a Helsinki..

Rhannodd Tanni Grey Thompson, cadeirydd Chwaraeon Cymru:

“Mae cynnydd wedi cael ei wneud mewn rhai meysydd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, yn sicr o ran amlygrwydd a gwelededd chwaraeon elitaidd merched, ond mae anghydraddoldebau’n dal i fodoli o ran cyfranogiad. Y ffaith syml yw bod llai o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn chwaraeon na dynion a bechgyn yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn wir erioed.

“Mae’r bwlch rhwng y rhywiau’n dechrau yn ystod plentyndod felly mae’n hanfodol ein bod ni’n cael mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o oedran ifanc, a’u cadw nhw’n dod yn ôl am fwy. Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi gwaith ein partneriaid ni yn y sector chwaraeon yng Nghymru i gael gwared ar rwystrau a datblygu diwylliannau lle gall chwaraeon merched fod ar lefel gyfartal â chwaraeon dynion.”

Ychwanegodd Lisa O’Keefe MBE, Ysgrifennydd Cyffredinol IWG:

“Mae IWG wedi mwynhau perthynas gref gyda Chwaraeon Cymru ers i’r Ysgrifenyddiaeth symud i’r DU yn ôl yn 2022, felly rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu eu croesawu nhw fel llofnodwyr diweddaraf Datganiad Brighton a Helsinki fel rhan o’u hymrwymiad clir i wella cyfleoedd i ferched a genethod ledled y wlad fod yn fwy actif. 

“Diolch yn fawr iawn i bawb yn Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth barhaus i IWG, ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r berthynas yma gydag Uwchgynhadledd Fyd-eang IWG ar y gorwel ym mis Gorffennaf 2026.”

Beth mae’n ei olygu i Chwaraeon Cymru?

Bydd llofnodi'r datganiad yn ein cadw ni ar y trywydd iawn yn ein hymdrech am gydraddoldeb rhywedd mewn chwaraeon yng Nghymru. Bydd unrhyw benderfyniadau a pholisïau yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar ferched a genethod yn cael eu harwain a'u siapio gan egwyddorion y cytundeb.

Boed yn gyllid ar gyfer cyfleusterau, cefnogi athletwyr elitaidd neu greu arweinwyr benywaidd yn y diwydiant, bydd Datganiad Brighton yn sail i bob dull y byddwn yn ei weithredu.

Rydyn ni eisiau gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i ferched a genethod. Rydyn ni eisiau iddo fod yn ddewis deniadol iddyn nhw a sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn mewn chwaraeon. Gall Datganiad Brighton ein helpu ni ar y ffordd i gyflawni hynny.

Beth rydyn ni’n ei wneud yn Chwaraeon Cymru 

  • Parhau i weithio gyda'n partneriaid ledled Cymru i gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Annog Llywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu polisïau a fydd yn cael mwy o ferched (a bechgyn) i gymryd rhan mewn chwaraeon o oedran ifanc.
  • Darparu ymchwil a thystiolaeth am iechyd merched i ddarparu strategaethau a mecanweithiau cefnogi ar gyfer helpu corff y fenyw mewn chwaraeon ac ymarfer corff.

Mwy o wybodaeth am y gwaith anhygoel sydd eisoes yn digwydd mewn chwaraeon merched yng Nghymru