Main Content CTA Title

Chwe awgrym da ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd

Natasha Cockram sy’n dal record Cymru yn y marathon. Mae'n dod o Gasnewydd ond mae wedi symud i Norfolk yn ddiweddar felly mae hi’n edrych ymlaen yn arw at gael cystadlu ym mhrifddinas Cymru. Newidiodd i'r marathon yn 2018. Bydd yn defnyddio Hanner Marathon Caerdydd fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd yn dod yn ôl i rasio yn fy ardal fy hun. Y tro diwethaf i mi redeg Hanner Marathon Caerdydd oedd yn 2017 ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel. Mae'r llwybr yn mynd â chi heibio'r holl bethau gwych yr ydym oll yn eu caru am Gaerdydd. Rwyf eisoes wedi cyrraedd y safon ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ond bydd y penwythnos hwn yn feincnod da i mi weld lle'r ydw i ar hyn o bryd. Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd yn wych cael rasio drwy strydoedd Caerdydd eto."

Dyma ei 6 phrif awgrym os ydych chi'n paratoi ar gyfer y llinell gychwyn.

1. Gosodwch eich dillad a rhif eich ras yn barod y noson gynt fel nad ydych chi'n rhuthro o gwmpas y lle yn ceisio dod o hyd i rywbeth ar fore'r digwyddiad

2. Gwnewch yn siŵr bod eich bwyd, eich maeth a'ch diodydd yn barod. Peidiwch â chael eich temtio i newid yr hyn rydych chi'n mynd gyda chi - gwnewch yr hyn rydych wedi'i ymarfer

3. Digon o orffwys. Dylech osgoi sgriniau cyn mynd i'r gwely i gael noson dda o gwsg.

4. Ar ddiwrnod y ras, cadwch eich trefn yr un fath ag arfer. Codwch yn ddigon cynnar fel y gallwch gael brecwast da a rhoi digon o amser iddo gael ei dreulio cyn i'r ras ddechrau. Rwy'n tueddu i gael uwd gyda banana neu fenyn cnau daear ar dost. Ceisiwch gadw pethau'n weddol blaen.

5. Gadewch ddigon o amser i chi’ch hun barcio, gweld lle mae angen i chi fod a chynhesu eich corff.

6. Ymlaciwch! Rydych chi wedi gwneud yr hyfforddiant – dyma’r adeg i fwynhau'r profiad. Pob lwc!

Newyddion Diweddaraf

Sut bydd £3.3m yn cael ei wario ar welliannau i gyfleusterau chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi £3.3m o gyllid Llywodraeth Cymru mewn 37 o brosiectau i wella cyfleusterau…

Darllen Mwy

Arwain gydag Effaith: Datblygu Arweinyddiaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Rhaglen ymarferol sydd â’i ffocws ar y dyfodol, i'r rhai sy'n barod i droi dylanwad yn effaith real. 

Darllen Mwy

Clybiau cymunedol yn codi mwy nag £1m ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru drwy Crowdfunder

Mae 76 o glybiau chwaraeon yng Nghymru wedi codi dros £1 miliwn gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru.

Darllen Mwy