Main Content CTA Title

Y clwb dawns sy’n helpu pobl ifanc anabl i droelli tuag at eu breuddwydion

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y clwb dawns sy’n helpu pobl ifanc anabl i droelli tuag at eu breuddwydion

Mae clwb dawns anabledd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn helpu i wireddu breuddwydion dawnswyr ifanc - diolch i gadeiriau olwyn arbenigol sydd wedi’u cyllido gan y Loteri Genedlaethol.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi helpu i’w gwneud yn bosibl i Impetus Dance gael pobl ifanc o bob oedran a gallu i symud a throelli.

Aeth y sylfaenydd, Louise Bowman, ati i sefydlu Impetus Dance ar ôl i'w merch anabl gael ei gadael allan o ddosbarthiadau dawns neu ei gwthio i’r cefn. Nawr mae pawb yn cael cyfle i ddisgleirio, diolch i'w phenderfyniad i greu cyfleoedd dawns cynhwysol.

Inga Figurska: Breuddwydio am Strictly Come Dancing

Inga in her dance sport wheelchair smiling with her arms stretched out.
Mae dawnsio’n gwneud i mi deimlo’n hapus iawn. Rydw i’n gallu troelli’n gyflym iawn yn fy nghadair ddawns newydd. Does ganddi ddim handlenni na brêcs felly does dim byd i fy stopio i. Mae’n rhoi rhyddid i mi!
Inga Figurska

Un o’r rhai sy’n hawlio’r llawr dawnsio yw Inga Figurska, merch ddeg oed. Mae hi’n breuddwydio am ennill Strictly Come Dancing rhyw ddydd. Wedi cael diagnosis o Atroffi Cyhyrol yr Asgwrn Cefn (SMA) pan oedd hi’n 20 mis oed, mae angen i Inga symud o gwmpas mewn cadair olwyn – ond dydi hynny ddim yn rhwystr i’w dyhead hi i droelli, dawnsio a gleidio.

Ar ôl symud o Wlad Pwyl i Dde Cymru, disgleiriodd ei hangerdd dros ddawns yn fuan iawn. Yn troelli yn ei chadair gartref, fe benderfynodd ei rhieni ei chofrestru mewn dosbarthiadau dawns.

Ond fe wnaethon nhw ddarganfod nad oedd y rhan fwyaf o ddosbarthiadau’n darparu ar gyfer plant ag anableddau. Ar ôl cyfres o siomedigaethau, fe wnaethon nhw ddod ar draws Impetus Dance. Nawr mae angerdd Inga dros ddawns yn enfawr ac wrth iddi gleidio a throi ar draws y llawr, mae hi’n profi nad oes dim allan o gyrraedd.

Ac mae cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer ei chadair olwyn ddawns yn rhoi cyfle i Inga ddawnsio.

Inga (right) and coach Louise Bowman (left) high five.
Inga (dde) a'i hyfforddwr Louise Bowman (chwith) yn rhoi pump uchel.

Cyllid ar gyfer cadeiriau olwyn chwaraeon arbenigol

Mae dawnsio mewn cadair olwyn bob dydd yn anodd. Yn fawr ac yn drwm, maen nhw'n araf i’w symud ac yn anodd eu troi. Maen nhw'n cyfyngu ar symudiadau dawns ac yn gallu gwneud i'r dawnsiwr deimlo'n flinedig iawn yn gyflym.

Dyma pam roedd angen cadeiriau olwyn chwaraeon arbenigol gan y Loteri Genedlaethol ar y clwb. Nawr, mae’r bobl ifanc yn gallu dawnsio fel maen nhw eisiau.

“Rydyn ni mor ddiolchgar am gyllid y Loteri Genedlaethol. Mae cadeiriau dawns chwaraeon yn ddrud iawn, gan gostio tua £1000 am ddim ond un. Mae eich cefnogaeth chi’n caniatáu i blant fel Inga ddilyn eu hangerdd dros ddawnsio a bod yn actif,” Louise Bowman, sylfaenydd Grŵp Impetus Dance.

Mae Cyllid y Loteri Genedlaethol wedi helpu i wneud y canlynol:

  • Darparu cadeiriau olwyn chwaraeon dawns newydd.
  • Creu amgylchedd cadarnhaol i bobl anabl.
  • Pobl ifanc uchelgeisiol fel Inga yn gallu mynd â'u dawnsio i'r lefel nesaf.
  • Creu cymuned lewyrchus a chefnogol. 

Creu cymuned gefnogol

Mae Inga a'i rhieni, Tomasz a Malaorzata, wedi dod yn rhan o gymuned glos. Nid yn unig y mae Impetus yn meithrin hoffter Inga o ddawns ond hefyd mae'n cefnogi'r teulu cyfan, gan roi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw wrth iddyn nhw setlo i’w bywyd newydd yng Nghymru.

“Mae cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i Inga. Mae dawnsio’n dod â llawenydd iddi ac yn rhoi gwên ar ei hwyneb. Er gwaethaf y problemau sydd ganddi gyda'i hanabledd, mae hi'n angerddol ac yn frwdfrydig am ddawnsio.” Tomasz Figurski, Tad Inga.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da, fel Cwmni Impetus Dance. Felly, os ydych chi wedi chwarae'r Loteri Genedlaethol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, rydych chi wedi helpu pobl ifanc fel Inga i wireddu eu breuddwydion i ddawnsio.

Os oes gennych chi brosiect a allai gefnogi merched anabl fel Inga i gyrraedd y sêr, fe allech chi gael cefnogaeth gan Gronfa Cymru Actif. 

Inga in her dance sport wheelchair smiling with her right arm in the air.

Disgrifiad o’r Fideo

Mae’r fideo’n dechrau gydag Inga, ar y chwith a’i hathrawes ar y dde, y ddwy mewn cadeiriau olwyn chwaraeon dawns mewn neuadd chwaraeon.

Mae Inga a’i hathrawes yn gleidio'n ôl, gan rolio un ysgwydd yn ôl ac wedyn y llall, cyn troelli.

Mae’r fideo’n newid i Inga ar ei phen ei hun yn y gadair olwyn yn troelli ac yn chwifio ei braich o amgylch ei phen.

Mae’r fideo’n newid i’r clip nesaf lle mae Inga ar ei phen ei hun yn agor ei breichiau mewn symudiad cylch uwchben ei phen.

Mae Inga’n troelli dair gwaith mewn cylch ac yn dechrau symud ymlaen ac wrth iddi symud ymlaen mae ei hathrawes yn dod i’r llun. Wrth gleidio ymlaen maen nhw’n gosod un fraich ac wedyn y llall yn syth o’u blaen mewn symudiad gosgeiddig.

Mae’r fideo’n dod i ben.