Main Content CTA Title

Clwb rygbi’r gynghrair blaenllaw ar lefel byd yn cael cefnogaeth y Loteri

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Clwb rygbi’r gynghrair blaenllaw ar lefel byd yn cael cefnogaeth y Loteri

Pan ddaw'n fater o ymrwymiad i rygbi'r gynghrair a chwaraeon anabledd, mae un dyn yn amlwg iawn: Stephen Jones, Prif Hyfforddwr clwb rygbi’r gynghrair cadair olwyn sydd wedi cael cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, Crusaders Gogledd Cymru. 

Ac er gwaetha’r pandemig, mae Stephen wedi bod yn gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni i wneud yn siŵr bod y Crusaders yn gryfach nag erioed. 

Eisoes, mae'r clwb wedi cael ei enwi'n Glwb y Flwyddyn 2020 gan y Gynghrair Rygbi a Phêl Droed a hefyd Clwb y Mis ym mis Mawrth gan Parasports UK. Dyma'r unig glwb yn y byd i fod â thri thîm yn chwarae yn yr un system cynghrair ac o'r holl glybiau sydd wedi’u sefydlu yn y DU, dyma'r un sydd wedi gweld y twf mwyaf mewn aelodau.

Team Rygbi

 

Ond nid yw Stephen yn fodlon i'r clwb sefyll yn ei unfan a jyst mwynhau ei lwyddiant. Yn ystod Covid, mae wedi bod yn gweithio'n galed i sefydlu timau newydd. Hwn fydd y clwb cyntaf erioed i sefydlu tîm Rygbi’r Gynghrair Anabledd Corfforol (PDRL) sy'n fersiwn o rygbi'r gynghrair sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ag anableddau nad ydynt yn defnyddio cadair olwyn chwarae'r gêm.

Mae iechyd meddwl wedi cael lle blaenllaw gan Stephen hefyd. Yn wir, ychydig cyn y cyfyngiadau symud, cafodd nifer o hyfforddwyr y Crusaders hyfforddiant iechyd meddwl:

"Rydyn ni wedi trefnu i gyfarfod ar Zoom er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad a gwneud yn siŵr bod pawb yn iawn. Mae 80% o'n haelodau ni wedi bod yn gwarchod eu hunain ac mae llawer o'n chwaraewyr ni wedi dioddef anafiadau sy'n newid eu bywyd, felly mae wedi bod yn bwysig dal i siarad a gwneud i'n gilydd chwerthin. Mae llawer o bobl wedi bod yn ei chael hi'n anodd iawn."

Efallai bod Stephen wedi ymddeol ond mae'r gwaith mae’n ei wneud i fynd â'r clwb o nerth i nerth yn cyfateb i swydd lawn amser. Mae hefyd yn brif hyfforddwr carfan Rygbi'r Gynghrair Cadair Olwyn ryngwladol Cymru.

Ac eto, mae gan Stephen anableddau hefyd. Ar hyn o bryd nid yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn ond mae'n dioddef o glefyd Dirywiol Cyhyrol Genetig ac yn ddiweddar mae wedi cael diagnosis o syndrom Merrf, sy'n effeithio ar wahanol rannau o'r corff, yn enwedig y cyhyrau a'r system nerfol.

Ond mae angerdd Stephen dros y clwb a thros gynnig cyfleoedd i chwarae rygbi'r gynghrair yn ddiwyro. Ac mae'n talu teyrnged i'r cyfraniad mae'r Loteri Genedlaethol wedi'i wneud:

"Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith enfawr. Fe wnaeth ein helpu ni i sefydlu'r clwb yn 2013. Mae pob un o'n cadeiriau olwyn chwaraeon yn costio £1500 ac mae gennym ni 40 ohonyn nhw bellach, sydd wedi'u hariannu gan y Loteri Genedlaethol.

"Ac eleni, mae arian y Loteri Genedlaethol rydyn ni wedi’i gael drwy grant Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yn golygu y bydd y clwb yma o hyd y flwyddyn nesaf. Doedd gennym ni ddim arian yn dod i mewn ond roedd rhaid i ni dalu am yswiriant a storio yr un fath, felly roedd y grant yn newyddion i'w groesawu'n fawr!”

Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.  

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy