Main Content CTA Title

Clybiau'n rhoi blaenoriaeth i chwaraeon anabledd

Nid oes angen i unrhyw glybiau chwaraeon sy'n anelu at gynnig mwy o gyfleoedd cynhwysol i bobl anabl yn ystod 2024 edrych ymhellach na Chlwb Gymnasteg Bangor a Chlwb Sboncen Rhiwbeina am ysbrydoliaeth.

Mae’r ddau glwb yn esiamplau disglair o glybiau sydd wedi rhoi llawer o ystyriaeth i sut gallant greu lleoliad lle mae croeso i bawb fwynhau chwaraeon.

Boed hynny drwy gynnig gwahanol fformatau o’u campau, neu hyfforddi eu hyfforddwyr i ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion pobl, mae’r ddau glwb wedi gwneud chwaraeon cynhwysol yn flaenoriaeth.

Dechreuodd Clwb Sboncen Rhiwbeina yng Nghaerdydd gynnig sesiynau pêl raced bob pythefnos fwy na 10 mlynedd yn ôl.

Ers hynny, maent wedi datblygu sesiynau sboncen cadair olwyn sy’n cael eu cynnal yno bob nos Iau.

Roedd John Cooper yn chwaraewr heb anabledd yn y clwb, sydd bellach yn defnyddio cadair olwyn ar ôl salwch difrifol.

Meddai Richard Plenty, aelod o bwyllgor y clwb: “Yn 2019, fe ddaeth John i un o’n sesiynau cadair olwyn ni ac mae wedi bod yn dod ers hynny.

“Mae’r sesiynau bob amser yn gorffen yn y bar ac rydyn ni’n mynd allan ar nosweithiau cymdeithasol i gael cwrw a chyrri!

“’Fydden ni ddim wedi gallu dechrau ar y siwrnai yma oni bai am yr hyfforddwyr, y cyfranogwyr, Joanna Coates-McGrath yn Chwaraeon Caerdydd, a’n noddwr ni, David Rees, wnaeth adael arian i ni, pan gafodd wybod ei fod yn mynd i farw, er mwyn i’n sesiynau ni allu parhau.”

Mae Clwb Gymnasteg Bangor yn glwb arall sydd wir wedi cofleidio'r ethos cwbl gynhwysol.

Mae’n cynnig ystod eang o sesiynau, chwe diwrnod yr wythnos, ar gyfer pob oedran a gallu, yn amrywio o dri mis i oedolion.

“Mae gennym ni dîm ymroddedig ac angerddol o hyfforddwyr sy’n cydweithio i sicrhau bod cyfleoedd cynhwysol ar gael yn wythnosol,” meddai’r prif hyfforddwr Sarah Austin.

“Mae cyfleoedd mentora a hyfforddi ar gyfer ein staff a’n gwirfoddolwyr ni yn bwysig hefyd i ni er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnal pob sesiwn o’r safon uchaf.”

Cyngor Sarah i glybiau sy’n ceisio dod yn fwy cynhwysol yw annog pob hyfforddwr i helpu gyda sesiynau anabledd, yn hytrach na dibynnu ar un neu ddau i ysgwyddo’r cyfrifoldeb.

Mae hi hefyd yn credu yng ngwerth creu cysylltiadau cadarn ag ysgolion a grwpiau cymunedol drwy ddiweddariadau a negeseuon rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) yn gwybod na fydd pobl anabl eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb neu sesiwn chwaraeon anabledd neu nam penodol bob amser efallai.

Felly, diolch i’w rhaglen insport, maen nhw’n helpu clybiau chwaraeon ledled Cymru (gan gynnwys Clwb Sboncen Rhiwbeina a Chlwb Gymnasteg Bangor) i feddwl sut gallai eu gweithgareddau gynnwys pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, mewn amrywiaeth o fformatau gwahanol o bosibl.

Eisiau darparu cyfleoedd i bobl anabl yn eich clwb chwaraeon? Edrychwch ar raglen clwb insport ChAC i ddechrau.

Newyddion Diweddaraf

£2.1m mewn Grantiau Arbed Ynni wedi'u dyfarnu i 120 o glybiau chwaraeon yng Nghymru

Mae'r Grant Arbed Ynni yn helpu clybiau i dorri costau ac ailfuddsoddi arbedion yn ôl mewn chwaraeon…

Darllen Mwy

Plant sydd ag anghenion ychwanegol yn mwynhau cyffro sgïo, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i gyllid drwy Chwaraeon Cymru, mae Ice Cool Kids wedi gallu adnewyddu ei offer oedd wedi mynd…

Darllen Mwy

Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

Gall clybiau chwaraeon yng Nghymru gael cyllid i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn drwy Le…

Darllen Mwy