Main Content CTA Title

Cydweithredu yn allweddol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cydweithredu yn allweddol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr

 

Pan benodwyd Warren Abrahams yn brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru ym mis Tachwedd 2020, hawliodd y penawdau ymhell ac agos.

Wedi'r cyfan, ef oedd yr hyfforddwr cyntaf o gefndir DALlE i gael swydd hyfforddwr tîm cenedlaethol yn y byd rygbi yng Nghymru, a’i gynorthwy-ydd oedd Rachel Taylor - y fenyw gyntaf i gael rôl hyfforddi broffesiynol yn y wlad hon.

Felly, mae'n ymddangos fel amser da i Rwydwaith Hyfforddi Cymru - rhaglen y bu’n rhaid ei gohirio yn ystod misoedd y cyfnod clo - ddychwelyd gyda ffocws ar amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb mewn hyfforddi ar draws sbectrwm chwaraeon Cymru.

Mewn adroddiad diweddar yn edrych ar amrywiaeth yn y byd chwaraeon yn Awstralia, nododd yr ymchwilwyr, er bod llawer o sefydliadau, clybiau a chyrff rheoli chwaraeon wedi mynd ati’n frwdfrydig i ddefnyddio iaith amrywiaeth a chynhwysiant mewn swyddi arwain a hyfforddi, mae eu cofnodion am benodiadau a datblygu’n llawer llai nodedig. *

Mewn geiriau eraill, maen nhw’n gwybod beth i’w ddweud. Ond dydyn nhw ddim wir ar y siwrnai.

Mae Rhwydwaith Hyfforddi Cymru yn gyfle i ddatblygwyr hyfforddiant ddod at ei gilydd a chysylltu i rannu syniadau a chreu diwylliant o gydweithredu.

Gall hynny ymwneud â hyfforddiant perfformiad, neu ddim ond gwella profiad cyfranogwyr ar bob lefel, neu, fel gyda'r sesiynau cyfredol, edrych ar ffyrdd o ehangu’r sylfaen o bobl sy'n dod i mewn i hyfforddi.

Cynhaliodd Chwaraeon Anabledd Cymru sesiwn ar hyfforddwyr yn edrych ar eu rôl gyda meddylfryd cynhwysol.

Y nod yw cryfhau cydweithredu ar draws gwahanol chwaraeon ac ysbrydoli ffordd newydd o feddwl.

Dywedodd Simon Jones, swyddog llywodraethu a datblygu pobl yn Chwaraeon Cymru: “Mae pawb yn arbenigwyr ym meysydd technegol a thactegol eu camp, ond y pethau o gwmpas hynny rydyn ni eisiau canolbwyntio arnyn nhw.

“Weithiau, y sgiliau rhyngbersonol ydyn ni eisiau edrych arnyn nhw a'u datblygu ac ar adegau eraill mae'n ymwneud â gwella'r amgylchedd.

“Mae'n ymwneud â chael pobl mewn ystafell a gofyn sut gallwn ni ddatblygu hyfforddwyr ar y cyd.

“Mae cymaint o waith da yn digwydd mewn cyrff rheoli a sefydliadau cenedlaethol, felly sut allwn ni rannu hynny? Mae'n ymwneud â dysgu, cysylltu a datblygu. ”

Christian Malcolm yn siarad i bachgen

 

Mae'r materion yn aml yn gyffredinol, fel sy'n wir gyda'r pwyslais cyfredol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae'r nodau hynny'n berthnasol i uwch hyfforddwyr, hyfforddwyr ar lawr gwlad, hyfforddwyr perfformiad ac unrhyw un arall sy'n ymwneud â gwirfoddoli eu hamser i helpu eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dylai'r wybodaeth fod yn berthnasol i bob hyfforddwr, dim ots ar ba lefel maent yn gweithredu.

“Bydd llawer ohonyn nhw eisoes yn canolbwyntio ar faterion fel cynhwysiant, beth bynnag, ond efallai y gallant ddysgu rhywbeth newydd y gallant ei roi yn eu gwaith gyda’u hyfforddwyr yr holl ffordd i lawr,” ychwanegodd Jones 

“Dylai pob person ar lwybr hyfforddi allu uniaethu â hyn.

“Mae hyfforddwyr yn hoffi dod at ei gilydd a chael sgwrs, ond mae’n well ganddyn nhw ei wneud mewn lleoliad ymarferol - mynd i sesiwn a’i wylio ac wedyn trafod.

“Beth wnaethon nhw ei ddysgu? Oes posib iddyn nhw ei efelychu ymhlith eu gweithlu hyfforddi?

“Os gallwn ni gael yr arweinwyr hyfforddi i sgwrsio, bydd pethau da’n dod o hynny.”

Gall profiadau ehangach fod o fudd i'r ddwy ochr. Mae cyn hyfforddwr rygbi cenedlaethol dynion Cymru, Kevin Bowring, wedi cyflwyno sesiynau i'r rhwydwaith ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio yng Nghymru a Lloegr.

Gall cydweithredu arwain at ganlyniadau ymarferol hefyd. Mae'r cyrff rheoli ar gyfer tennis a thennis bwrdd yng Nghymru ill dau wedi mynd ymlaen i weithio gyda Phrifysgol Met Caerdydd i greu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus ar y cyd.

Mae grwpiau y tu hwnt i gyrff rheoli wedi cyflwyno sesiynau hefyd, fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, LGBT Cymru a Diverse Cymru.

“Nid yw’n ymwneud â Chwaraeon Cymru yn dweud wrth hyfforddwyr sut i weithio,” meddai Jones. “Mae'n ymwneud â chlywed ganddyn nhw am yr hyn sy'n gweithio'n dda a rhannu hynny. 

“Mae gan lawer o bobl yr un nodau. Nid oes gan rai cyrff rheoli cenedlaethol weithlu i wneud popeth. Os gallwn ni gydweithredu, bydd yn lleihau eu baich gwaith.

“Ac weithiau, nid yw hyn yn ymwneud â newid cyflym. Bydd yn cymryd amser. Os gallwn ni ddenu mwy o chwaraewyr o gefndir ethnig amrywiol i glwb - mae mwyafrif yr hyfforddwyr yn gyn-chwaraewyr, neu’n rhieni a gwirfoddolwyr - gallwn gynyddu amrywiaeth yr hyfforddwyr wedyn.”

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy