Dynion yw'r rhan fwyaf o hyfforddwyr sy'n gweithio gydag athletwyr benywaidd mewn chwaraeon perfformiad. Gan mai dynion ydyn nhw, dydyn nhw ddim yn rhannu'r un profiadau byw â'r merched maen nhw’n eu hyfforddi. Ond dydi hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n gallu dysgu a datblygu dealltwriaeth o iechyd merched.
Mae llawer o hyfforddwyr yn gwneud gwaith gwych. Ond mae bwlch o hyd yn y ddealltwriaeth o sut mae ffactorau iechyd merched yn dylanwadu ar hyfforddiant, adferiad a pherfformiad merched mewn chwaraeon elitaidd.
Gall iechyd merched, o gylch y mislif i feichiogrwydd, gael effaith fawr ar sut mae merched yn teimlo, yn hyfforddi ac yn perfformio. Pan mae hyfforddwyr yn hyderus i siarad am y pynciau yma ac yn addasu eu dull, mae athletwyr benywaidd yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu ffynnu.
I hyfforddwyr gwrywaidd, mae cyfle a chyfrifoldeb enfawr i addasu a chreu amgylcheddau sy'n canolbwyntio ar y person lle gall merched berfformio hyd eithaf eu gallu, mwynhau eu camp a thyfu fel pobl.
Dyma ambell gyngor doeth gan athletwyr benywaidd a hyfforddwyr gwrywaidd ar sut i wneud i hyn ddigwydd:
1. Dysgu am iechyd merched a sut mae’n effeithio ar chwaraeon
Bydd cymryd y cam cyntaf i addysgu eich hun am iechyd merched yn eich helpu chi i gefnogi eich athletwyr yn well.