Main Content CTA Title

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl blodau gwyllt yn llwyddiannus.

Mae’r tîm o Sir Benfro wedi creu cynefin bywyd gwyllt prysur rhwng ei gaeau pêl droed. Drwy roi cyfle i fyd natur ffynnu, mae’r dolydd yn chwarae rhan mewn cefnogi’r ecosystem drwy ddarparu cysgod a bwyd i bryfed peillio fel gwenyn a glöynnod byw.

Rhannodd Steve Brown, cadeirydd Clwb Pêl Droed Clarbeston Road, y canlynol:

“Rydyn ni’n credu y gall ein clwb pêl droed ni chwarae rhan bwysig wrth helpu i addysgu a dylanwadu nid yn unig ar aelodau ein clwb ni, ond hefyd y gymuned ehangach, am bwysigrwydd gweithredoedd amgylcheddol cadarnhaol.

Rydyn ni’n credu y gall ein clwb pêl droed ni chwarae rhan bwysig wrth helpu i addysgu a dylanwadu am bwysigrwydd gweithredoedd amgylcheddol cadarnhaol.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd mewn gweithgarwch gan bryfed ac adar yn yr ardal sydd wedi’i hadu ac rydyn ni’n obeithiol ein bod ni’n gwneud cyfraniad bach ond pwysig at fioamrywiaeth leol. Rydyn ni hefyd yn gobeithio, drwy ganiatáu ailhadu naturiol, y byddwn ni’n gallu cynnal y blodau gwyllt ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

“Mae manteision ymarferol wedi bod i ni hefyd gan ein bod ni’n arbed amser gwirfoddolwyr yn ogystal â chostau tanwydd heb orfod strimio’r clawdd yn rheolaidd. Gobeithio y bydd clybiau chwaraeon eraill sydd â llefydd tebyg ar gyfer dolydd blodau gwyllt yn ystyried gwneud yr un peth â ni.”

Dôl Blodau Gwyllt yng Nghlwb Clarbeston Road
Dôl Blodau Gwyllt yng Nghlwb Clarbeston Road

 

Mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd i sicrhau bod Cymru’n cynnal amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gwarchod byd natur a bioamrywiaeth yn rhan allweddol o warchod yr amgylchedd, fel y dywed Emma Wilkins:

“Mae gan chwaraeon gysylltiad cryf â bioamrywiaeth gan fod llawer o weithgareddau yn dibynnu ar fannau gwyrdd, llynnoedd, afonydd, moroedd a choedwigoedd. Mae'n hollbwysig bod clybiau a sefydliadau chwaraeon yn helpu i ddiogelu byd natur a lleihau eu heffaith eu hunain ar yr amgylchedd. 



Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Glwb Pêl Droed Clarbeston Road yn enghraifft wych o sut gall clybiau chwaraeon yng Nghymru alluogi i fioamrywiaeth ffynnu yn eu cyfleusterau nhw eu hunain.”

Mae Chwaraeon Cymru, fel rhan o’r Gyngres Chwaraeon, yr Amgylchedd a Hinsawdd (SECC), wedi helpu i ddatblygu hwb ar-lein o adnoddau allweddol i helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon i leihau eu heffaith amgylcheddol. Ewch i Hwb Adnoddau SECC yma.
 

Newyddion Diweddaraf

£2.1m mewn Grantiau Arbed Ynni wedi'u dyfarnu i 120 o glybiau chwaraeon yng Nghymru

Mae'r Grant Arbed Ynni yn helpu clybiau i dorri costau ac ailfuddsoddi arbedion yn ôl mewn chwaraeon…

Darllen Mwy

Plant sydd ag anghenion ychwanegol yn mwynhau cyffro sgïo, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i gyllid drwy Chwaraeon Cymru, mae Ice Cool Kids wedi gallu adnewyddu ei offer oedd wedi mynd…

Darllen Mwy

Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

Gall clybiau chwaraeon yng Nghymru gael cyllid i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn drwy Le…

Darllen Mwy