Mae cyfleoedd chwaraeon cymunedol yn digwydd bob dydd ledled Cymru. Ond ni fyddai hyn yn bosibl heb grŵp penodol o bobl sy'n rhoi o'u hamser i wneud iddo ddigwydd – gwirfoddolwyr.
Mae bron i un o bob deg oedolyn (9%) wedi rhoi o'u hamser am ddim i helpu gyda gweithgarwch chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf. Efallai ei fod yn ymddangos fel nifer bach, ond mae’r 9% yma’n cael effaith enfawr ar chwaraeon yng Nghymru. Mae eu cyfraniad yn sicrhau bod clybiau'n cael eu gweithredu, bod digwyddiadau'n cael eu cyflwyno, a bod miloedd o bobl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau maen nhw'n eu hoffi.
Rydyn ni’n dathlu rhai o'r gwirfoddolwyr anhygoel sy'n rhoi o'u hamser i sicrhau bod cyfleoedd chwaraeon ar gael yn eu cymunedau - ac yn gofyn iddyn nhw beth mae gwirfoddoli'n ei roi yn ôl iddyn nhw.