Main Content CTA Title

Chwaraeon a gweithgareddau i bobl dros 60 oed yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon a gweithgareddau i bobl dros 60 oed yng Nghymru

Nid dim ond ar gyfer plant a phobl yn eu hugeiniau y mae chwaraeon – mae’n rhywbeth y dylech ei fwynhau drwy gydol eich bywyd. Diolch i’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, gall pobl 60 oed a hŷn ledled Cymru fwynhau mynediad at ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau corfforol am ddim neu am bris gostyngol.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae dros 7,000 o bobl wedi bod yn teimlo'n hapusach ac yn iachach ar ôl cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed yn eu hardal leol – ac fe allech chi ymuno â nhw!

Mae oddeutu 64% o oedolion hŷn yn credu ei bod yn bwysig gwneud ymarfer corff yn rheolaidd. Felly os ydych chi’n chwilio am ddiddordeb newydd, yn awyddus i gwrdd â phobl newydd, neu dim ond awydd symud ychydig bach mwy – mae rhywbeth i bawb.

Dyma rai o’r gweithgareddau hwyliog a hygyrch y gallwch eu mwynhau drwy’r Cynllun.

Y chwaraeon a’r gweithgareddau y gallwch roi cynnig arnynt drwy’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed

Tai Chi

Symudiadau ysgafn sy'n llifo’n rhwydd ac yn cefnogi cydbwysedd, hyblygrwydd a’r meddwl.

Cofleidiwch eich llif mewnol gyda symudiadau ysgafn Tai Chi. Does dim cyfyngiadau corfforol – gallwch wneud Tai Chi ar eich eistedd neu’n sefyll, neu gartref hyd yn oed! Mae’n wych i lacio’r cymalau a gwella ystum y corff, ac yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i adfywio’r corff a’r meddwl. 

Mae Age Cymru yn eiriolwr brwd dros Tai Chi: “Mae symud yn rheolaidd ac yn amlach, neu symud dim ond ychydig bach hyd yn oed, yn well o lawer nag aros yn llonydd i bobl dros 60 oed.”

Ble alla i wneud tai chi? – Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Fynwy, Powys, Bro Morgannwg, Wrecsam

Tair menyw mewn dosbarth tai chi

Pêl-bicl

Hwyliog a chyflym – perffaith ar gyfer pob gallu.

Pa ffordd well o ryddhau endorffinau na tharo pêl o amgylch cwrt? Dyna'n union y mae Pêl-bicl yn rhoi cyfle i chi ei wneud – heb orfod defnyddio gormod o egni.

Camp sy'n defnyddio raced yw hon, ac mae’n berffaith i bobl dros 60 oed, neu’r rheini sydd ddim yn gallu symud mor dda. Bydd yn sicr yn eich helpu i symud mwy a gwella’ch galluoedd.

Ble alla i chwarae Pêl-bicl? – Ynys Môn, Gwynedd, Casnewydd, Powys

Rydw i wedi cael canser y fron. Rydw i wedi cael dau drawiad ar y galon. Rydw i wedi cael masectomi a lwmpectomi ac roeddwn i'n teimlo na allwn fynd yn ôl i wneud chwaraeon. Mae Pêl-bicl wedi fy helpu'n aruthrol i ddod allan o fy nghragen, i stopio poeni am beth allai ddigwydd, a byw bywyd. Rydw i wir wrth fy modd.
Kath Knowles, Cyd-sylfaenydd Clwb Pêl-bicl Ynys Môn

Dringo

Dull corfforol o ddatrys problemau a fydd yn mynd â chi i uchelfannau newydd.

Dydy hi byth yn rhy hwyr i anelu'n uchel a chyrraedd uchelfannau newydd. Beth am brofi eich hun drwy ddringo? 

Yng ngeiriau Angela Howells, sy'n wyneb cyson mewn sesiynau dringo yn Abertawe: “Doeddwn i ddim wir yn disgwyl mwynhau dringo gan fod arna i ofn uchder, a dydy fy nghymalau ddim yn dda iawn oherwydd fy oed a’r arthritis. Ond rydw i wir wedi mwynhau’r sesiynau dringo. 

“Dydw i ddim yn gallu gwneud cymaint â phobl eraill, ond rydw i'n hapus iawn gyda’r hyn rydw i wedi'i gyflawni.  Rydw i wedi cwrdd â phobl hyfryd sydd wedi rhoi cymaint o anogaeth i mi, ac rydw i'n ddiolchgar tu hwnt fy mod wedi cael cyfle i fwynhau profiad newydd.”

Ble alla i fynd i ddringo? - Abertawe

Dyn ar wal ddringo

Cerdded Nordig

Tynnwch y pwysau oddi ar eich traed a theimlo'ch pwls yn cyflymu.

Does dim rhaid i chi fynd i Norwy i roi cynnig ar Gerdded Nordig. Mae’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed yn golygu bod modd i chi wneud hyn yng Nghymru, gan fwynhau golygfeydd godidog Cymru a gwella cryfder eich cyhyrau a gwytnwch ar yr un pryd. 

Defnyddir polion ysgafn i roi cymorth ychwanegol i chi ymarfer 90% o’ch cyhyrau! Mae’r polion yn rhoi cymorth ar dir anwastad, gan ysgafnu’r baich a gwneud bywyd yn haws.

Mae Traciwr Gweithgareddau Cymru yn dangos mai cerdded yw’r gweithgaredd hamdden mwyaf poblogaidd ymysg oedolion hŷn, gyda 72% o'r grŵp oed yn dweud eu bod yn gwneud hynny.   

Ble alla i gymryd rhan mewn cerdded Nordig? – Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd

Dwy fenyw yn cerdded Nordig gyda pholion

Dosbarthiadau Ymarfer Corff a Sesiynau Llai Heriol yn y Gampfa

Ymestyn y cyhyrau, cryfhau’r corff a chymdeithasu mewn dosbarthiadau ar eich cyfer chi.

Dydy mynd i’r gampfa ddim bob amser yn golygu peiriannau rhedeg, rhwyfo a beicio na dosbarthiadau ymarfer dwys. O gylchedau ysgafn i sesiynau symud a symudedd, mae pob math o ddosbarthiadau'n cael eu teilwra i bobl dros 60 oed, a gallwch eu mwynhau gyda chefnogaeth hyfforddwyr cymwys. 

Mae Donald, sy'n 90 oed, wedi bod yn mwynhau dosbarthiadau ymarfer corff yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent ers 2018. 

Er iddo gael codwm a thorri ei ffemwr, dywedodd Claire ei ferch: “Mae’r llawfeddyg yn credu mai ei ffitrwydd ar ôl mynychu’r dosbarthiadau ymarfer corff yw’r rheswm ei fod wedi gwella mor dda. Mae dad yn ôl yn ei ddosbarth wythnosol erbyn hyn, yn mwynhau’r ymarfer corff – a’r sgwrsio a’r tynnu coes – gyda gweddill y dosbarth.”

Ble alla i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff? – Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Fynwy, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam

Dyn mewn dosbarth beicio

Ioga a Pilates

Anadlu, cydbwyso a datblygu craidd y corff.

Mae Ioga a Pilates yn ffyrdd gwych o ymlacio. Mae’r ymarferion araf hyn yn rhoi pwyslais ar symudiadau ysgafn ac anadlu, sy'n addas i bawb o bob gallu.

Ble alla i wneud Pilates neu Ioga? – Ynys Môn, Caerdydd, Conwy (ar-lein), Sir Fynwy, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Wrecsam

Mae’r gweithgareddau'n fy helpu i gadw’n actif, yn hyblyg ac yn gymdeithasol. Rydw i wedi cyfarfod pobl newydd, yn symud fy nghymalau ac yn teimlo'n fwy positif. Mae Ioga yn help mawr gyda gorbryder ac iselder. Mae’r sesiynau wedi'u strwythuro i fod yn addas i bob gallu, ac maen nhw’n hwyl!
Carole Puttock, Sir Benfro

Aerobeg Dŵr

Symud gyda’r gerddoriaeth a chreu dipyn o sblash!

Am weithgaredd sy'n gwneud i’r corff i gyd weithio, sy’n helpu arthritis, ac sy’n garedig ar gymalau, does dim byd tebyg i aerobeg dŵr. Yn ogystal â bod yn ymarfer ar gyfer y corff i gyd, gall dosbarthiadau grŵp fod yn ffordd wych o gymdeithasu a chyfarfod pobl newydd. 

Dechreuodd Lon, 64, fynd i ddosbarthiadau pan gafodd ddiagnosis o polymyalgia: “Roeddwn i’n stiff iawn ac roedd fy nghorff i’n brifo. Rhaid i mi ddweud, mae’r dŵr wedi fy helpu. Mae'n fy helpu fi'n gorfforol ac yn helpu'r meddwl hefyd.”

Ble alla i gymryd rhan mewn aerobeg dŵr? – Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam

Dyn mewn pwll nofio yn cymryd rhan mewn dosbarth ffitrwydd dŵr

Nofio

Cryfhau o don i don.

Oeddech chi’n gwybod bod pobl dros 60 oed yng Nghymru yn cael nofio am ddim? Mae’r Cynllun Nofio am Ddim, sy'n wahanol i’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed, yn golygu bod pobl dros 60 oed yn cael mynd i bwll nofio yng Nghymru am ddim.

Mae nofio’n weithgaredd gwych ar gyfer y corff i gyd. Mae’n gwella ffitrwydd, yn cefnogi’r cymalau ac yn eich helpu i deimlo'n llawn egni. 

Mae gan Rory, 61, MS eilaidd. Mae nofio wedi ei helpu i lacio’r corff, teimlo'n well a gwella ei fywyd gartref.

Yn ôl gwraig Rory: “Ers i ni ddechrau dod i nofio eto, mae’n haws o lawer symud o’r gadair olwyn i’r gwely, neu o’r gadair i’r gadair olwyn, ac mae o'n hapusach ynddo’i hun hefyd.”

Mae rhai awdurdodau lleol felCaerfyrddin Actif hefyd yn cynnig sesiynau nofio sy'n deall dementia. Os nad yw cof rhywun cystal erbyn hyn oherwydd ei oed, mae’r sesiynau’n cynnig awyrgylch braf, cynhwysol a saff.

Ble alla i fynd nofio? – Pobman yng Nghymru

Tair menyw mewn pwll nofio yn gwenu

Pam mae’n bwysig cadw’n actif wrth i chi fynd yn hŷn?

Mae Age Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, yn cydnabod pwysigrwydd cadw’n actif wrth heneiddio.  Dywedodd llefarydd ar ran Age Cymru: “Mae gweithgarwch corfforol yn hollbwysig ar gyfer heneiddio'n iach. Mae’n gwella cydbwysedd ac yn helpu’r cyhyrau i beidio â dirywio mor gyflym. Mae hefyd yn beth da i annibyniaeth.

“Yn ogystal â’r manteision corfforol, mae ymarfer corff yn rhoi cyfle i wneud cysylltiadau cymdeithasol, sy'n hanfodol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol. Rydyn ni’n credu bod aros yn actif yn hanfodol ar gyfer annibyniaeth, lles a safon bywyd wrth i ni heneiddio.”

Mae 56% o oedolion hŷn yn gwneud ymarfer corff er mwyn rheoli eu hiechyd corfforol – ond dim ond un o fanteision gweithgarwch corfforol yw hynny.  Dyma rai eraill:

  • Cynnal symudedd, cryfder a chydbwysedd 
  • Hybu eich lles meddyliol
  • Rhyngweithio cymdeithasol
  • Gwella ar ôl salwch neu anaf
  • Helpu i reoli cyflyrau iechyd

 

Beth yw’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed?

Mae’r Cynllun hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, ac mae’n helpu i roi mwy o gyfleoedd i bobl dros 60 oed gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol er mwyn iddynt allu byw bywyd iachach a hapusach.  

Bob blwyddyn, bydd £800,000 yn cael ei ddosbarthu i’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno'r cynllun, sy'n cynnig gweithgareddau di-dâl neu am bris gostyngol.

Pa chwaraeon y gall pobl dros 60 oed eu gwneud yn fy ardal i?

Mae’r Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ond efallai y bydd yr enw’n wahanol. Cysylltwch â’ch cyngor neu’ch canolfan hamdden leol i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi. 

Newyddion Diweddaraf

Hen Chwaraeon, Rheolau Newydd: Sut mae chwaraeon yn addasu o ran cynulleidfa a chynhwysiant

Mae llawer o chwaraeon yn cynnig gemau byrrach, cyflymach ac wedi'u haddasu i apelio at gynulleidfaoedd…

Darllen Mwy

Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

Dyma 7 gwelliant smart y gall eich clwb eu hariannu gyda hyd at £25,000 o'r Grant Arbed Ynni.

Darllen Mwy

Cyfarfod y rhai sy’n Newid y Gêm ar gyfer y Dyfodol drwy oresgyn rhwystrau yn y byd chwaraeon yng Nghymru

Ledled Cymru, mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr chwaraeon yn ‘newid y gêm.’

Darllen Mwy