Main Content CTA Title

Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn dychwelyd i Gaerdydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn dychwelyd i Gaerdydd

Mae Ystafell Taf yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn barod i drawsnewid unwaith eto yn gartref i Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn ystod y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni.

O 26 Gorffennaf ymlaen, bydd chwe dadansoddwr perfformiad o Gaerdydd yn astudio pob eiliad o’r Gemau, gan gynnwys dau o’n cydweithwyr ni yn yr Athrofa, Carys Jones a Jen Roach.

Fe fyddant yn treulio'r tair wythnos yn cynnig cefnogaeth i'r hyfforddwyr a'r athletwyr ym Mharis gydag adborth fideo byw a dadansoddiad technegol. Mae'r gefnogaeth hon yn rhan hanfodol o sicrhau bod ein hathletwyr ni’n perfformio ar eu gorau pan mae hynny bwysicaf iddyn nhw.  

Hwn fydd yr eildro i Chwaraeon Cymru groesawu Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr, gydag Ystafell Taf yn gartref i’r hwb yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo 2021 hefyd – ac er y bydd y trefniant yn eithaf tebyg eto, fe fydd yr awyrgylch yn wahanol iawn!

Dywedodd Carys: “Fe gynhaliwyd y Gemau diwethaf yn ystod cyfnod pan oedd cyfyngiadau COVID mewn grym o hyd. Cyfunwch hynny gyda'r gwahaniaeth amser ac roedd yn gallu bod yn dawel iawn ar adegau!

“Fe fydd yn wych gallu cael mwy o bobl i gymryd rhan eleni – fe fyddwn ni’n gallu gweithio’n agosach gyda’n gilydd ac yn agosach gyda chynrychiolwyr y chwaraeon hefyd. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at amgylchedd mwy cymdeithasol. Os oes unrhyw un eisiau dod draw i weld beth rydyn ni’n ei wneud, dewch i’n gweld ni yn Ystafell Taf!”

Ac nid dyma'r unig ddadansoddi perfformiad fydd Jen yn cymryd rhan ynddo yn ystod y Gemau.

“Rydw i’n gyffrous iawn am fod yn cefnogi gyda dadansoddi’r perfformiadau yn ystod y Gemau Paralympaidd eleni, hefyd.” Ychwanegodd, “Fe fyddaf yn mynd i Lundain i gefnogi ein para-athletwyr ni ym Mharis yn ddiweddarach ym mis Awst.”

Fel gyda Tokyo, mae llawer iawn o drefniadau technegol a gweithredol i sicrhau bod y tîm yng Nghaerdydd yn gallu gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr ym Mharis a rhoi adborth yn gyflym.

Ychwanegwch at hynny lety a phrydau bwyd y tîm, ac mae’n amlwg na fyddai’r Hwb Dadansoddi Perfformiad yn weithredol heb gefnogaeth nifer o gydweithwyr yn Chwaraeon Cymru.

“Rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i fy nghydweithwyr i yn y tîm arlwyo, pawb yn yr adran Datrysiadau Technoleg a’r tîm yn y Ganolfan Genedlaethol,” ychwanegodd Carys. “Heb eu gwaith caled nhw, ’fydden ni ddim yn gallu cynnal yr Hwb Dadansoddi yma, ac mae cael eu cefnogaeth nhw’n golygu llawer i bawb yn y tîm.”

Newyddion Diweddaraf

Chwaraeon Cymru yn ymrwymo i gyfleoedd cyfartal i ferched a genethod mewn chwaraeon drwy lofnodi Datganiad Brighton

Mae Chwaraeon Cymru wedi llofnodi Datganiad Brighton a Helsinki fel arwydd pellach o'i ymrwymiad i greu…

Darllen Mwy

Pobl ifanc yn gwirioni ar fowlio lawnt yng Ngogledd Cymru

Mae bowlio lawnt wedi sgubo drwy bentref Llanfairpwll - a'r genhedlaeth iau sy'n arwain y ffordd.Diolch…

Darllen Mwy

Cyngor doeth i hyfforddwyr gwrywaidd sy'n cefnogi merched a genethod gydag iechyd merched mewn chwaraeon

Gall hyfforddwyr gwrywaidd helpu merched i ffynnu trwy gefnogi iechyd benywaidd.

Darllen Mwy